Pan fyddwch yn dod i fyw neu i weithio yn y DU, bydd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu yn y DU yn dibynnu ar faint y byddwch yn aros yma ac a ydych yn bwriadu aros yma'n barhaol ai peidio. Mae rheolau arbennig ar gyfer diddanwyr, myfyrwyr, athrawon, mabolgampwyr, dinasyddion Iwerddon ac incwm o Iwerddon.
Bydd y Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu yn y DU yn dibynnu ar ba un a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' neu â'ch 'domisil' yn y DU. Gallwch fod yn fwy nag un o'r rhain - neu yr un ohonynt.
Preswylio
Preswylio'n arferol
Domisil
Os ydych chi'n preswylio ac yn preswylio'n arferol
Byddwch yn talu Treth Incwm ar eich holl incwm o'r canlynol:
Os ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch hefyd yn talu treth ar eich holl incwm tramor - ond efallai y cewch ostyngiad o ddeg y cant o'r swm sy'n ddyledus ar bensiynau tramor.
Os nad ydych â'ch domisil yn y DU, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar yr incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar:
Darllenwch hefyd yr adran ddiweddarach 'Os ydych chi eisoes yn talu treth ar eich incwm tramor'.
Mae lwfansau treth arbennig ar gyfer:
Os ydych chi'n preswylio ond ddim yn preswylio'n arferol
Os ydych chi'n preswylio ond heb fod yn preswylio'n arferol, byddwch yn talu treth ar eich holl incwm o'r DU. Gallwch fel arfer dalu treth ond ar incwm tramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU. Ond byddwch yn talu treth ar:
Byddwch yn talu treth ar enillion o weithio dramor y byddwch yn dod gyda chi i'r DU.
Os nad ydych yn preswylio
Byddwch yn talu treth ar eich incwm o'r canlynol:
Fyddwch chi ddim yn talu treth ar eich incwm tramor hyd yn oed os byddwch yn dod ag ef gyda chi i'r DU.
Lwfansau Treth Incwm
Mae holl breswylwyr y DU yn cael lwfansau di-dreth personol i leihau eu bil treth.
A oes angen i chi lenwi ffurflen dreth?
Os yw'r incwm yr ydych yn talu treth arno yn fwy na'ch lwfansau, efallai y gallwch dalu treth drwy'r drefn Talu Wrth Ennill (PAYE) os ydych yn gyflogedig. Os nad ydych yn gyflogedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth.
Pan fyddwch yn dod i'r DU ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, byddwch fel arfer ond yn talu treth ar incwm y byddwch yn ei gael ar ôl cyrraedd os:
Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich incwm am y flwyddyn gyfan. Y naill ffordd neu'r llall, byddwch bob amser yn cael eich Lwfans Personol am y flwyddyn lawn.
Mae gan y DU 'gytundebau trethiant dwbl' gyda sawl gwlad i sicrhau nad ydych yn talu treth ddwywaith ar yr un incwm.
Hyd yn oed os nad oes cytundeb, gallwch fel arfer barhau i hawlio gostyngiad am unrhyw dreth yr ydych wedi'i thalu dramor.