Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Dreth Etifeddu - Trosglwyddo band dim treth y Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd rhwng gwŷr/gwragedd a phartneriaid sifil

Yn unol â chynigion a gyhoeddwyd yn yr adroddiad Cyllideb, caiff gŵr neu wraig weddw, neu berson sydd wedi colli ei bartner/phartner sifil elwa o hyd at ddwbl lwfans y dreth etifeddu – £624,000 ar unwaith ar gyfer y flwyddyn treth 2008-2009, a fydd yn codi i £700,000 erbyn 2010-11 – yn ogystal â chael yr hawl i'r cymorth llawn ar gyfer gŵr neu wraig.

Marwolaethau yn ystod blwyddyn dreth 2006-2007

Dim ond os yw gwerth trethadwy eich ystâd adeg eich marwolaeth yn fwy na £312,000 (blwyddyn dreth 2008-2009) y bydd yn rhaid talu'r Dreth Etifeddu. Gelwir £312,000 cyntaf ystâd person yn fand dim treth y Dreth Etifeddu oherwydd ar hyn o bryd 0% yw'r swm a godir, felly mae'n ddi-dreth.

Pan fydd asedau'n cael eu trosglwyddo rhwng gwŷr/gwragedd neu bartneriaid sifil, cânt eu heithrio rhag gorfod talu'r Dreth Etifeddu. Gall hyn olygu, os yw'r gŵr/gwraig neu'r partner sifil sy'n marw gyntaf yn gadael eu holl asedau i'r gŵr/gwraig neu'r partner sy'n dal yn fyw, ni ddefnyddir budd y band dim treth i drosglwyddo asedau i aelodau eraill y teulu (y plant fel arfer) yn ddi-dreth.

Newidiadau arfaethedig i fand dim treth y Dreth Etifeddu nas defnyddiwyd

Yn ei adroddiad Cyn y Gyllideb cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, pan fydd un person mewn priodas neu bartneriaeth sifil yn marw a ddim yn defnyddio'u band dim treth i roi cymynroddion di-dreth i aelodau eraill y teulu, y gellir trosglwyddo'r swm nas defnyddiwyd i ystâd y person sy'n dal yn fyw, i'w ddefnyddio pan fyddant yn marw.

Dim ond os yw'r person sy'n dal yn fyw yn marw ar 9 Hydref 2007 neu ar ôl hynny mae hyn yn berthnasol.

Felly, rhyngddynt, mae gan wŷr/gwragedd a phartneriaid sifil fand dim treth sy'n werth dwbl swm y band dim treth sy'n berthnasol pan fydd yr un a oroesodd yn marw.

Er enghraifft, pan fydd y gŵr/gwraig gyntaf yn marw maent yn gadael cymynrodd o £40,000 yr un i dri o blant, codir treth etifeddu ar £120,000. Gan fod y swm yn is na £300,000, mae'r cymynroddion yn cael eu trosglwyddo heb dreth a bydd £180,000 (neu 60%) o'r band dim treth heb ei ddefnyddio. Gellir trosglwyddo'r swm hwn nas defnyddiwyd i ystâd y sawl sy'n dal yn fyw. Yna, pan fydd ef neu hi'n marw, os yw'r band dim treth yn £325,000, bydd band dim treth y dreth etifeddu ar eu cyfer yn codi 60% i £520,000.

Er nad yw'r cynigion hyn yn gyfraith eto, mae Cyllid a Thollau EM yn caniatáu i bobl wneud cais am drosglwyddo'r gyfradd ddi-dreth bresennol ar farwolaethau ar 9 Hydref neu ar ôl hynny, a chyfrifo faint o dreth sy'n daladwy gan ddefnyddio'r band dim treth uwch yn hytrach na mynnu eu bod yn gwneud fel y dywed y gyfraith bresennol (gyda band dim treth sengl) a thalu treth y byddai'n rhaid i Gyllid a Thollau EM ei had-dalu pan fydd y cynigion yn gyfraith.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar y Dreth Etifeddu.

Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu: 0845 3020 900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU