Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eithriadau Treth Etifeddu

Mae rhai eithriadau pwysig sy'n gadael ichi drosglwyddo'ch ystâd yn gyfreithiol i eraill - cyn ac ar ôl eich marwolaeth - heb i Dreth Etifeddu fod yn ddyledus arnynt.

Buddiolwyr eithriedig

Gallwch roi pethau i rai pobl a mudiadau heb orfod talu unrhyw Dreth Etifeddu. Mae'r rhoddion hyn, sydd wedi'u heithrio pa un a ydych yn eu rhoi yn ystod eich oes neu yn eich ewyllys, yn cynnwys rhoddion i'r canlynol:

  • eich gŵr, gwraig neu bartner sifil, hyd yn oed os ydych wedi gwahanu'n gyfreithiol (ond nid os ydych wedi ysgaru neu'r bartneriaeth sifil wedi'i diddymu), gyhyd â bod gan y ddau ohonoch gartref parhaol yn y DU
  • elusennau yn y DU
  • rhai sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys amgueddfeydd cenedlaethol, prifysgolion a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • pleidiau gwleidyddol y DU

Ond cofiwch, nad yw rhoddion i'ch partner di-briod neu bartner nad ydych wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef/hi wedi'u heithrio.

Rhoddion eithriedig

Mae rhai rhoddion wedi'u heithrio rhag y Dreth Etifeddu oherwydd y math o rodd neu'r rheswm dros roi'r rhodd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Rhoddion priodas/rhoddion seremoni partneriaeth sifil

Mae rhoddion ar achlysur priodas neu seremoni partneriaeth sifil (i'r naill neu'r llall) wedi'u heithrio rhag y Dreth Etifeddu hyd at symiau penodol:

  • gall rhieni roi £5,000 yr un
  • gall neiniau a theidiau a pherthnasau eraill roi £2,500 yr un
  • gall unrhyw un arall roi £1,000

Rhaid ichi roi'r rhodd ar neu ychydig cyn dyddiad y briodas neu'r bartneriaeth sifil. Os bydd y seremoni'n cael ei ganslo a chithau'n dal i roi'r rhodd, fydd yr eithriad hwn ddim yn berthnasol.

Rhoddion bychain

Gallwch roi rhoddion bychain, hyd at £250 o ran gwerth, i gymaint o bobl ag y dymunwch mewn unrhyw un flwyddyn dreth (6 Ebrill i'r 5 Ebrill dilynol) heb iddynt orfod talu Treth Etifeddu.

Ond allwch chi ddim rhoi swm mwy: £500, er enghraifft, a hawlio eithriad ar y £250 cyntaf. Allwch chi ddim defnyddio'r eithriad hwn ychwaith gydag unrhyw eithriad arall wrth roi i'r un person. Mewn geiriau eraill, allwch chi ddim cyfuno'r 'eithriad rhoddion bychain' gyda'r 'eithriad rhodd seremoni priodas/partneriaeth sifil a rhoi £5,250 i un o'ch plant pan fydd yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil.

Eithriad blynyddol

Gallwch roi £3,000 yn rhodd ymhob blwyddyn dreth heb dalu Treth Etifeddu. Gallwch drosglwyddo'r cyfan neu unrhyw ran o'r eithriad £3,000 na fyddwch yn ei ddefnyddio i'r flwyddyn dreth nesaf ond ddim pellach. Mae hyn yn golygu y gallech roi hyd at £6,000 mewn un flwyddyn os nad oeddech wedi defnyddio eich eithriad o'r flwyddyn flaenorol.

Allwch chi ddim defnyddio'r 'eithriad blynyddol' a'ch 'eithriad rhoddion bychain' gyda'i gilydd i roi £3,250 i rywun. Ond gallwch ddefnyddio'ch 'eithriad blynyddol' gydag unrhyw eithriad arall, megis yr 'eithriad rhodd seremoni priodas/partneriaeth sifil'. Felly, os bydd un o'ch plant yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil gallwch roi £5,000 iddynt dan yr eithriad rhodd seremoni priodas/partneriaeth sifil a £3,000 dan yr eithriad blynyddol - cyfanswm o £8,000.

Rhoddion sy'n rhan o'ch gwariant arferol

Mae unrhyw roddion a wnewch o'ch incwm ar ôl treth (ond nid o'ch cyfalaf) wedi'u heithrio rhag Treth Etifeddu os ydynt yn rhan o'ch gwariant rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys:

  • taliadau misol neu reolaidd eraill i rywun, gan gynnwys rhoddion Nadolig, penblwyddi neu benblwyddi priodas/partneriaeth sifil
  • premiymau rheolaidd ar bolisi yswiriant bywyd (i chi neu rywun arall)

Mae'n syniad da cadw cofnod o'ch incwm ar ôl treth a'ch gwariant arferol, gan gynnwys rhoddion yr ydych yn eu gwneud yn rheolaidd. Bydd hyn yn dangos bod eich rhoddion yn rheolaidd a bod gennych ddigon o incwm i dalu amdanynt a'ch gwariant beunyddiol arferol heb orfod defnyddio'ch cyfalaf.

Rhoddion cynhaliaeth

Hefyd, gallwch wneud taliadau cynhaliaeth heb orfod talu Treth Etifeddu arnynt i'r canlynol:

  • eich gŵr neu wraig
  • eich cyn bartner priod neu gyn bartner sifil
  • perthnasau sy'n ddibynnol arnoch oherwydd henaint neu lesgedd
  • eich plant (gan gynnwys plant mabwysiedig a llys-blant) sydd dan 18 oed neu sydd mewn addysg amser llawn

'Trosglwyddiadau y gellid eu heithrio'

Os byddwch chi, fel unigolyn, yn rhoi rhodd dan unrhyw un o'r sefyllfaoedd a ddisgrifir isod a'r rhodd heb ddod o dan unrhyw un o'r eithriadau sydd wedi'u disgrifio eisoes, fe'i gelwir yn 'drosglwyddiad y gellid ei eithrio' (PET). Ni fydd rhaid talu Treth Etifeddu ar Drosglwyddiad y Gellid ei Eithrio dim ond os byddwch yn byw am saith mlynedd ar ôl ichi roi'r rhodd.

Mae anrhegion sy'n cael eu hystyried yn Drosglwyddiadau y gellid eu heithrio (PETs) yn anrhegion y byddwch chi, fel unigolyn, yn eu rhoi i:

  • unigolyn arall
  • ymddiriedolaeth ar gyfer rhywun sy’n anabl
  • ymddiriedolaeth i blentyn dan oed mewn profedigaeth, lle byddwch chi, fel buddiolwr ymddiriedolaeth Buddiant-mewn-Meddiant (gyda hawl di-oed yn dilyn marwolaeth y sawl a sefydlodd yr ymddiriedolaeth), yn penderfynu ildio'r hawl i dderbyn unrhyw beth o'r ymddiriedolaeth honno neu os daw'r hawl hwnnw i ben am unrhyw reswm arall yn ystod eich oes - gweler yr enghraifft isod

Esiampl: mae gwraig yn fuddiolwr asedau mewn ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant (IIP trust) dan ewyllys ei gŵr a'r plentyn dan oed yn fuddiolwr incwm, ond mae'r wraig yn penderfynu ildio unrhyw fuddiant yn yr asedau a bydd y rhain yn cael eu dal yn yr ymddiriedolaeth ar gyfer y plentyn dan oed mewn profedigaeth 

Mae newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyllid 2006 yn golygu nad yw trosglwyddiadau am oes i fathau eraill o ymddiriedolaeth ers 22 Mawrth 2006 yn gymwys bellach fel Trosglwyddiadau y gellid eu heithrio (PETs).

Dim ond 'rhoddion llawn' sy'n cyfrif fel Trosglwyddiadau y Gellid Eu Heithrio

Os byddwch yn rhoi rhodd gydag amodau ynghlwm (yn dechnegol 'rhodd gyda budd amodol') bydd yn dal yn cyfrif fel rhan o'ch ystad, ni waeth am faint y byddwch yn byw ar ôl ei roi. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi eich cartref i'ch plant ac yn dal i fyw yno heb dalu rhent masnachol llawn iddynt, bydd Treth Etifeddu'n dal yn ddyledus ar werth eich cartref.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i'r rhoddwr dalu Treth Incwm ar rodd gydag amodau ynghlwm yn seiliedig ar werth y budd y maent yn ei gadw. Yn yr achos hwn, gall y rhoddwr ddewis naill ai talu'r Dreth Incwm neu gael y rhodd wedi'i drin fel rhodd gyda budd amodol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU