Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i ymddiriedolaethau teuluol yn y DU

Mae ymddiriedolaeth yn cynnig ffordd o ddal a rheoli arian neu eiddo ar gyfer pobl nad ydynt yn barod neu nad ydynt yn gallu rheoli'r arian neu'r eiddo eu hunain. Pan gânt eu defnyddio gydag ewyllys, gallant helpu hefyd i sicrhau bod eich asedau'n cael eu trosglwyddo'n unol â'ch dymuniadau chi ar ôl i chi farw. Yma rydym yn edrych ar y prif fathau o ymddiriedolaeth deulu yn y DU.

Beth yw ymddiriedolaeth?

Mae ymddiriedolaeth yn ddyletswydd sy'n rhwymo unigolyn a elwir yn ymddiriedolwr i ddelio gydag eiddo mewn ffordd neilltuol er budd un neu fwy o 'fuddiolwyr'.

Setlwr

Y setlwr sy'n creu'r ymddiriedolaeth ac yn rhoi eiddo ynddi ar y cychwyn, yn aml yn ychwanegu mwy yn ddiweddarach. Mae'r setlwr yn nodi yn y ddogfen ymddiriedolaeth sut y dylid defnyddio incwm ac eiddo'r ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolwr

Yr ymddiriedolwyr yw 'perchnogion cyfreithiol' eiddo'r ymddiriedolaeth a rhaid iddynt ddelio â'r eiddo hwnnw yn unol â'r hyn a nodir yn y ddogfen ymddiriedolaeth. Hwy hefyd fydd yn gweinyddu’r ymddiriedolwr. Gellir cael un neu fwy o ymddiriedolwyr.

Buddiolwr

Dyma unrhyw un sy'n cael budd o'r eiddo sydd yn yr ymddiriedolaeth. Gall y ddogfen ymddiriedolaeth enwi'r buddiolwyr yn unigol neu ddiffinio dosbarth o fuddiolwr, megis teulu'r setlwr.

Eiddo'r ymddiriedolaeth

Dyma'r eiddo (neu'r 'cyfalaf') y mae'r setlwr yn ei roi yn yr ymddiriedolaeth. Gall fod yn unrhyw beth, gan gynnwys:

  • tir neu adeiladau
  • buddsoddiadau
  • arian
  • hen greiriau neu eiddo gwerthfawr arall

Enghreifftiau o pryd y gellid creu ymddiriedolaeth

Gellir creu ymddiriedolaeth mewn amrywiaeth o amgylchiadau:

  • pan fydd rhywun yn rhy ifanc i ddelio gyda'i faterion ei hun
  • pan na all rhywun ddelio gyda'i faterion oherwydd analluedd
  • er mwyn trosglwyddo arian neu eiddo a chithau'n dal yn fyw
  • dan delerau ewyllys
  • pan fydd rhywun yn marw heb adael ewyllys (Cymru a Lloegr yn unig)

Y prif fathau o ymddiriedolaethau preifat yn y DU

Ymddiriedolaeth hawl absoliwt

Gydag ymddiriedolaeth hawl absoliwt (bare trust) mae'r eiddo'n cael ei ddal yn enw'r ymddiriedolwr - ond gall y buddiolwr gymryd meddiant ar incwm ac eiddo'r ymddiriedolaeth unrhyw bryd a ddymuna. Er enghraifft, gallech ddefnyddio'r math yma o ymddiriedolaeth i roi rhoddion i'ch plant a chithau'n dal yn fyw.

Ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant

Gydag ymddiriedolaethau buddiant-mewn-meddiant, mae gan y buddiolwr hawl gyfreithiol i holl incwm yr ymddiriedolaeth (ar ôl costau), ond nid i'r eiddo.

Gallwch, er enghraifft, sefydlu ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant yn eich ewyllys. Gallech wedyn adael yr incwm o eiddo'r ymddiriedolaeth i'ch partner am oes ac eiddo'r ymddiriedolaeth ei hun i'ch plant pan fydd eich partner yn marw.

Ymddiriedolaeth ddewisol

Gydag ymddiriedolaeth ddewisol, mae'r ymddiriedolwyr yn penderfynu faint o incwm neu gyfalaf, os o gwbl, a delir i bob un buddiolwr - ond nid oes gan yr un ohonynt hawl awtomatig i gael y naill neu'r llall. Gallwch ddefnyddio ymddiriedolaeth ddewisol fel ffordd o drosglwyddo eiddo a chithau'n dal yn fyw, a pharhau i gadw rhywfaint o reolaeth arno drwy delerau'r ddogfen ymddiriedolaeth.

Ymddiriedolaeth gynnal a chronni

Defnyddir ymddiriedolaeth gynnal a chronni i ddarparu arian i ofalu am blant pan fônt dan oed. Ychwanegir unrhyw incwm nad yw'n cael ei wario at eiddo'r ymddiriedolaeth, a fydd yn ddiweddarach yn trosglwyddo i'r plant.

Yng Nghymru a Lloegr, bydd buddiolwyr yn cael hawl i eiddo'r ymddiriedolaeth pan fyddant yn 18 oed. Yr adeg hynny mae'r ymddiriedolaeth yn troi'n ymddiriedolaeth 'buddiant-mewn-meddiant'. Mae'r sefyllfa'n wahanol yn yr Alban oherwydd unwaith y bydd buddiolwr yn 16 oed, gallai ofyn i'r ymddiriedolwyr drosglwyddo eiddo'r ymddiriedolaeth iddo.

Ymddiriedolaeth gymysg

Gall ymddiriedolaeth gymysg gael ei sefydlu pan fydd un buddiolwr mewn ymddiriedolaeth gynnal a chronni'n cyrraedd 18 oed a'r buddiolwyr eraill yn dal yn blant dan oed. Mae rhan o'r ymddiriedolaeth wedyn yn dod yn ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant.

Treth ar incwm o ymddiriedolaethau yn y DU

Mae ymddiriedolaethau, yn cael eu trethu fel endidau ynddynt eu hunain. Mae'r buddiolwyr yn talu treth ar wahân ar incwm a dderbyniant o'r ymddiriedolaeth - yn ôl eu cyfraddau treth arferol, ar ôl lwfansau.

Trethu eiddo a setlwyd ar ymddiriedolaethau

Bydd sut y codir treth ar fath arbennig o ymddiriedolaeth yn dibynnu ar natur yr ymddiriedolaeth honno a sut y mae'n cael ei hystyried o fewn deddfwriaeth dreth. Er enghraifft, gellid codi'r Dreth Etifeddu wrth roi eiddo mewn rhai ymddiriedolaethau, ac ar adegau eraill, er enghraifft, wrth ychwanegu rhagor o eiddo i'r ymddiriedolaeth, wrth ddosbarthu cyfalaf o'r ymddiriedolaeth, neu pan fydd yr ymddiriedolaeth yn ddeg oed.

Sefydlu ymddiriedolaeth - cael cyngor proffesiynol

Mae ymddiriedolaethau'n gymhleth iawn, ac efallai y bydd yn rhaid ichi dalu'r Dreth Etifeddu ac/neu'r Dreth Enillion Cyfalaf wrth roi eiddo ynddynt. Os ydych chi'n dymuno creu ymddiriedolaeth, dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr, a fydd hefyd yn gallu llunio'r ddogfen ymddiriedolaeth a rhoi cyngor i chi ar faterion cyfreithiol a threthu sy'n gysylltiedig. Fe'ch cynghorir hefyd i siarad ag ymgynghorydd treth neu gyfrifydd cyn cytuno i fod yn ymddiriedolwr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU