Bydd cynllunio'ch materion ariannol o flaen llaw yn eich helpu i sicrhau y bydd y cyfan sydd gennych pan fyddwch yn marw yn mynd i ble bynnag yr ydych chi am iddo fynd. Gallai hyn eich helpu i ddarparu dyfodol ariannol sicr i'ch teulu
Gwneud ewyllys yw'r cam cyntaf i sicrhau y bydd eich ystad yn cael ei rhannu yn unol â'ch dymuniadau.
Oni wnewch hynny, mae rheolau ar gyfer rhannu'ch ystad - sef Cyfraith Diewyllysedd - a allai olygu y gallai eich arian fynd i aelodau'r teulu nad oes mo'i angen, neu eich partner di- briod, neu bartner nad oes gennych bartneriaeth sifil ag ef/hi, yn derbyn dim.
Os gadewch bopeth i'ch partner priod neu bartner sifil, does dim Treth Etifeddu i'w thalu oherwydd fe'u hystyrir yn fuddiolwyr eithriedig.
Neu efallai y penderfynwch ddefnyddio'ch lwfans di-dreth i roi rhywfaint o'ch ystad i rywun arall, neu i ymddiriedolaeth deuluol (gweler yr adran ar 'Ymddiriedolaethau' isod).
Os ydych chi a'ch partner priod neu bartner sifil yn berchen ar eich cartref fel 'cyd-denantiaid' (joint tenants) bydd y partner a adewir ar ôl yn etifeddu'r cyfan o'r eiddo'n awtomatig.
Os ydych yn 'denantiaid ar y cyd' (tenants in common) mae'r ddau ohonoch yn berchen ar gyfran (hanner fel arfer) o'r eiddo a gallwch drosglwyddo'r hanner hwnnw fel y mynnoch.
Os ydych am newid y ffordd yr ydych yn berchen ar eich eiddo, bydd cyfreithiwr yn gallu rhoi cymorth ichi.
Os ydych am roi eich cartref i'ch plant a chithau'n dal yn fyw, dylech gofio:
Os penderfynwch symud i eiddo llai a rhoi'r elw a wnaethoch o werthu'r eiddo mwy i ffwrdd, gellir ystyried y rhoddion hyn yn:
Er enghraifft, os byddwch yn rhoi £10,000 i ffwrdd, bydd £3,000 wedi'i eithrio dan eich eithriad blynyddol a bydd £7,000 yn drosglwyddiad y gellid ei eithrio.
Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio ymddiriedolaeth i drosglwyddo asedau i fuddiolwyr, yn arbennig y rhai na allant ofalu am eu materion eu hunain ar y pryd.
Os penderfynwch ddefnyddio ymddiriedolaeth i roi rhywbeth i ffwrdd, mae hyn yn ei dynnu o'ch ystad, dim ond ichi beidio â'i ddefnyddio neu gael unrhyw fudd ohono. Ond cofiwch y byddwch o bosib yn gorfod talu Treth Etifeddu ar roddion i ymddiriedolaethau. Mae ymddiriedolaethau'n gymhleth ac mae'n werth cael cyngor proffesiynol arbenigol.
Ffordd o ddefnyddio gwerth eich cartref i godi arian yw cynllun rhyddhau ecwiti masnachol. Mae hyn yn ddigon tebyg i gael morgais ar eich eiddo ond, yn hytrach na gwneud ad-daliadau misol, rydych yn ad-dalu'r arian pan fydd eich cartref yn cael ei werthu. Gallwch ddefnyddio'r cynlluniau hyn i wneud y canlynol:
Cyn defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti masnachol, bydd angen cael cyngor arbenigol oherwydd mae peryglon ynghlwm: