Telir treth ar ymddiriedolaethau yn y DU gan yr ymddiriedolwyr (perchnogion cyfreithiol eiddo'r ymddiriedolaeth) o arian yr ymddiriedolaeth. Efallai y bydd yn rhaid i fuddiolwyr ymddiriedolaeth dalu treth ar wahân hefyd ar yr incwm a gânt o ymddiriedolaeth. Os byddwch yn sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer eich plant neu os byddwch yn sefydlu ymddiriedolaeth y gallwch gael budd ohoni eich hun, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu rhagor o dreth.
Gyda'r math hwn o ymddiriedolaeth, mae'r buddiolwyr yn talu treth ar incwm ac enillion cyfalaf yr ymddiriedolaeth yn ôl eu cyfraddau treth arferol hwy. Ni threthir yr ymddiriedolaeth o gwbl.
Mae ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant yn llenwi ffurflen dreth ymddiriedolaeth ac yn talu treth ar incwm o'r ymddiriedolaeth ar y cyfraddau gwastad canlynol:
| Math o incwm |
Cyfraddau treth ymddiriedolaeth ar gyfer 2007-2008 |
|---|---|
| Incwm rhent a masnachu | 22% |
| Incwm o gynilion, e.e. llog banc | 20% |
| Difidendau a dosbarthiadau | 10% |
Mae gan y buddiolwyr hawl i incwm yr ymddiriedolaeth, ar ôl tynnu treuliau, a byddant yn talu treth arno ar eu cyfraddau arferol (ar ôl y lwfansau personol).
Ond oherwydd bod yr incwm hwn wedi'i drethu unwaith eisoes, os trethdalwyr ar y gyfradd gychwynnol (10 y cant) ydynt neu os nad ydynt yn drethdalwyr, gallant ad-hawlio rhywfaint neu'r cyfan o'r dreth sydd eisoes wedi'i thalu gan yr ymddiriedolaeth arno (ar wahân i'r 10 y cant a ddidynnir yn y ffynhonnell ar ddifidendau, na ellir ei ad-dalu).
Mae ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth ddewisol yn llenwi ffurflen dreth ymddiriedolaeth bob blwyddyn ac yn talu treth ar incwm yr ymddiriedolaeth ar y cyfraddau gwastad canlynol:
| Math o incwm | Cyfradd dreth 2007-2008 |
|---|---|
| Incwm rhent a masnachu | 22% |
| Incwm o gynilion, e.e. llog banc | 20% |
| Difidendau a dosbarthiadau | 10% |
| Math o incwm | Cyfradd y dreth 2007-2008 |
|---|---|
| Difidendau a dosbarthiadau | 32.5% |
| Incwm arall | 40% |
Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd yn rhaid i'r ymddiriedolwyr dalu mwy o dreth pan fyddant yn talu incwm i'r buddiolwyr. Eglurir hyn isod.
Mae'r holl incwm o ymddiriedolaeth ddewisol a delir i fuddiolwyr yn cael ei drin fel petai treth wedi'i thalu eisoes ar gyfradd o 40 y cant.
Er enghraifft, os bydd buddiolwr yn derbyn £600 o incwm yr ymddiriedolaeth, ystyrir mai cyfanswm incwm y buddiolwr (cyn treth) o'r ymddiriedolaeth yw £1,000, gyda £400 (40 y cant ) wedi'i dalu mewn treth eisoes.
O ganlyniad, gall buddiolwr nad yw'n drethdalwr, neu drethdalwr ar y gyfradd 10 y cant neu 22 y cant hawlio'r cyfan neu ran o'r dreth yn ôl.
Ni all trethdalwr cyfradd uwch hawlio treth yn ôl. Yr unig beth y bydd yn ei wneud fydd nodi'r incwm a 40 y cant o dreth a dalwyd eisoes (y 'credyd treth') ar eu ffurflen dreth.
Wrth dalu incwm i fuddiolwyr, rhaid i'r ymddiriedolwyr sicrhau eu bod wedi talu digon o dreth i gyfateb i'r 40 y cant sy'n cael ei ddatgan (neu mewn rhai achosion sy'n cael ei ad-hawlio'n rhannol neu'n llawn) gan y buddiolwr.
Er mwyn cadw golwg ar hyn, mae'r ymddiriedolwyr yn cadw cofnod o daliadau - y 'gronfa dreth'.
Ystyr hyn yw:
Os nad yw'r swm yn y gronfa dreth yn ddigon ar gyfer 'credyd treth' 40 y cant y buddiolwr mewn blwyddyn, efallai y bydd yn rhaid i'r ymddiriedolaeth dalu treth ychwanegol i dalu'r gwahaniaeth. Yr effaith yw bod yr ymddiriedolaeth yn talu treth ar 40 y cant ar yr holl incwm y mae'n ei dalu i'r buddiolwyr.
Ond ni fydd treth ychwanegol wastad yn daladwy dim ond oherwydd bod incwm difidendau'n cael ei dalu allan - gellir trosglwyddo unrhyw symiau yn y gronfa dreth nad ydynt wedi'u defnyddio o un flwyddyn i'r llall.
Mae treth ymddiriedolaeth yn faes cymhleth ac mae'n well cael arbenigwyr ar ymddiriedolaethau i ddelio gyda'r mater.
Nid y buddiolwr yw'r setlwr – cyfnodau o 6 Ebrill 2006 ymlaen
Bydd y buddiolwr yn cael ei drin fel petai wedi talu treth ar y gyfradd uwch ar swm gwirioneddol y taliad. Nid yw'r taliad ar ei ffurf gros a bydd yn cael ei gynnwys wrth gyfrifo cyfanswm incwm y person hwnnw. Mae'r credyd treth yn sicrhau nad oes gan y buddiolwr ragor o atebolrwydd yng nghyswllt y taliad, ond fe'i clustnodir fel na ellir ad-dalu unrhyw ran ohono na'i roi yn erbyn unrhyw atebolrwydd a gyfyd o unrhyw incwm arall sydd gan y buddiolwr.
Mae'r buddiolwr hefyd yn setlwr – cyfnodau o 6 Ebrill 2006 ymlaen
O ran taliadau dewisol gan yr ymddiriedolwyr i'r setlwr, ni fydd y rhain yn cael eu trethu gan y setlwr.
Gydag ymddiriedolaethau cynnal a chronni, mae'r rheolau treth yn gweithio yn yr un ffordd ag ar gyfer ymddiriedolaethau dewisol - hyd nes bydd gan y buddiolwyr hawl i'r incwm a'r cyfalaf. Mae'r hyn sy'n digwydd nesaf yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd i eiddo'r ymddiriedolaeth:
Yn yr achos hwn, mae'r rheolau arferol ar gyfer ymddiriedolaethau dewisol a buddiant-mewn-meddiant yn berthnasol.
Yn yr achos hwn, mae'r ymddiriedolwyr yn talu Treth Enillion Cyfalaf (TEC) ar unrhyw gynnydd yng ngwerth yr asedau sy'n cael eu trosglwyddo i'r buddiolwr ar ben lwfans TEC yr ymddiriedolaeth (£4,600 ar hyn o bryd). Ar ôl hynny, mae'r buddiolwyr yn talu treth ar unrhyw incwm neu enillion yn y ffordd arferol.
Mewn ymddiriedolaeth gymysg, mae'r ymddiriedolwyr a'r buddiolwyr yn cael eu trethu ar yr incwm ar gyfer pob rhan o'r ymddiriedolaeth dan y rheolau ar gyfer y math hwnnw o ymddiriedolaeth.
Os bydd rhywun yn sefydlu ymddiriedolaeth fel a ganlyn:
bydd rheolau gwahanol yn berthnasol ac mae'n bosib y bydd rhaid talu treth ychwanegol.
Bydd ymddiriedolwyr yn talu TEC pan fyddant yn gwerthu asedau'r ymddiriedolaeth neu'n eu trosglwyddo i fuddiolwyr.
O 6 Ebrill 2004, mae rheolau arbennig yn berthnasol i'r dreth ar ymddiriedolaethau a sefydlir ar gyfer pobl sy'n agored i niwed megis plant sydd wedi cael profedigaeth a phobl anabl.
Os dowch yn ymddiriedolwr a bod yr ymddiriedolaeth yn debygol o gael incwm neu enillion, byddwch yn derbyn ffurflen dreth ymddiriedolaeth bob blwyddyn, fel arfer ym mis Ebrill. Bydd angen ichi ei dychwelyd, ynghyd ag unrhyw dreth sy'n ddyledus, erbyn y 31 Ionawr dilynol.
Mae ymddiriedolaethau'n gymhleth iawn. Cyn sefydlu un mynnwch gyngor proffesiynol gan gyfreithiwr. Fe'ch cynghorir hefyd i siarad ag ymgynghorydd treth neu gyfrifydd cyn cytuno i fod yn ymddiriedolwr.