Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau i ymddiriedolaethau

Codir Treth Etifeddu'n uniongyrchol ar arian neu eiddo a drosglwyddir i'r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau, os yw'r arian neu'r eiddo hwnnw'n mynd dros 'fand dim treth' y Dreth Etifeddu. Mae hefyd yn ofynnol bod treth yn cael ei thalu bob deng mlynedd ar werth asedau'r ymddiriedolaeth sydd dros y band dim treth. Mae rhai ymddiriedolaethau'n cael eu heithrio rhag y rheolau hyn.

Treth Etifeddu ar drosglwyddiadau i ymddiriedolaethau

Ar gyfer trosglwyddiadau i’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau sydd eisoes yn bodoli neu sy’n newydd ac sydd dros fand dim treth y Dreth Etifeddu, codir Treth Etifeddu o 20 y cant ar unrhyw swm sydd dros y band hwnnw. Y person sy'n trosglwyddo sy'n gyfrifol am dalu'r dreth.
Os trosglwyddwyd yr arian ar ôl Ebrill 5 a chyn Hydref 1 o unrhyw flwyddyn, mae'r dreth yn ddyledus erbyn 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Ond os trosglwyddwyd yr arian ar ôl 30 Medi a chyn Ebrill 6 o unrhyw flwyddyn, rhaid ei thalu o fewn chwe mis i ddiwedd y mis pan wnaethpwyd y trosglwyddiad.

Beth sydd 'dros fand dim treth y Dreth Etifeddu'?

Ar hyn o bryd, £312,000 yw band dim treth y Dreth Etifeddu (blwyddyn dreth 2008-2009). I gyfrifo a oedd y trosglwyddiad dros fand dim treth y Dreth Etifeddu, mae angen i chi ystyried pob rhodd a throsglwyddiad 'trethadwy' (nad ydynt yn cael eu heithrio, neu os oes posibilrwydd nad ydynt yn cael eu heithrio) a wnaed yn y saith mlynedd flaenorol. Os bydd trosglwyddiad yn mynd â chi dros y band dim treth, rhaid talu 20 y cant o Dreth Etifeddu ar y swm hwnnw sydd dros y trothwy.

Ymddiriedolaethau nad yw rheolau newydd y Dreth Etifeddu'n effeithio arnynt

Dyma'r ymddiriedolaethau nad yw'r rheolau newydd yn effeithio arnynt (nid oes angen talu Treth Etifeddu yn syth ar unrhyw drosglwyddiadau yn yr achosion hyn, ond yn achos trosglwyddiadau a wneir yn ystod bywyd person, efallai y bydd angen ei thalu os yw'r person hwnnw/honno yn marw o fewn y saith mlynedd nesaf):

  • trosglwyddiadau oes i ymddiriedolaeth ar gyfer person anabl
  • ymddiriedolaethau a grëir ar ôl marwolaeth ar gyfer person anabl
  • ymddiriedolaethau a grëir ar ôl marwolaeth ar gyfer plentyn (dan oed) yr ymadawedig, lle bydd y plentyn yn cael hawl llwyr i'r asedau yn 18 oed
  • ymddiriedolaethau a sefydlwyd dan ewyllys, i berson nad yw'n anabl nac yn blentyn dan oed i'r ymadawedig, a fydd â'r hawl i gael yr hyn a adawyd iddynt ar ôl marwolaeth y person a ysgrifennodd yr ewyllys

Dewisiadau ar gyfer ymddiriedolaethau sy'n bodoli'n barod

Roedd gan ymddiriedolaethau cynnal a chronni sy'n bodoli'n barod hyd at 6 Ebrill 2008 i newid (lle bo hynny'n briodol) rheolau'r ymddiriedolaeth er mwyn eu galluogi i beidio â chael eu cynnwys yn y rheolau newydd.

Bydd ymddiriedolaethau buddiant-mewn-meddiant (IPP) a oedd yn bodoli cyn 22 Mawrth 2006, neu sy'n cymryd lle ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant a oedd yn bodoli cyn Mawrth 2006 hyd at 5 Hydref 2008, yn parhau i elwa ar yr hen reolau nes y byddant yn dod i ben.

Bydd pob ymddiriedolaeth buddiant-mewn-meddiant newydd yn dod o dan y rheolau newydd.

Os byddwch farw o fewn saith mlynedd i'r trosglwyddiad

Os byddwch farw o fewn saith mlynedd i drosglwyddo arian neu eiddo i ymddiriedolaeth, a'ch bod eisoes wedi talu 20 y cant o Dreth Etifeddu, bydd y dreth sy'n ddyledus yn cael ei hail-gyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd Treth Etifeddu sy'n berthnasol ar ôl marwolaeth (40 y cant ar hyn o bryd). Bydd angen i'ch ystâd dalu'r gwahaniaeth mewn treth i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Os gwnaethoch drosglwyddiad nad oedd angen talu Treth Etifeddu arno ar y pryd, ychwanegir ei werth at eich ystâd wrth gyfrifo unrhyw Dreth Etifeddu y gallai fod angen ei thalu.

Treth Etifeddu deng mlynedd ar ymddiriedolaethau

Rhaid i ymddiriedolaethau sy'n 'ymddiriedolaethau eiddo perthnasol' hefyd dalu'r canlynol:

  • treth 'gyfnodol' o hyd at chwech y cant ar werth asedau'r ymddiriedolaeth sydd dros fand dim treth y Dreth Etifeddu unwaith bob deng mlynedd
  • taliad 'gadael' sy'n gyfatebol â'r tâl cyfnodol pan fo cronfeydd sy'n werth mwy na band dim treth y Dreth Etifeddu yn cael eu tynnu o ymddiriedolaeth rhwng y cyfnodau deng mlynedd

Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i ymddiriedolaethau sydd wedi eu heithrio rhag y rheolau newydd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU