Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth Etifeddu

Y Dreth Etifeddu yw'r dreth sy'n cael ei thalu ar eich 'ystad'. Yn gyffredinol, golyga hyn bopeth yr ydych yn berchen arno adeg eich marwolaeth, llai eich dyledion. Weithiau mae'n daladwy ar asedau yr ydych wedi'u rhoi i ffwrdd yn ystod eich bywyd. Mae asedau'n cynnwys pethau megis eiddo, eiddo personol, arian a buddsoddiadau.

Pryd mae'n rhaid talu Treth Etifeddu?

Nid yw pawb yn talu Treth Etifeddu ar adeg marwolaeth. Mae'n berthnasol dim ond os yw gwerth trethadwy eich ystad adeg eich marwolaeth yn fwy na £312,000 (blwyddyn dreth 2008-09) ac nid yw'n daladwy ond ar y swm ychwanegol dros y trothwy hwn.

Mae nifer o eithriadau hefyd sy'n gadael i chi drosglwyddo symiau (yn ystod eich oes neu yn eich ewyllys) heb i Dreth Etifeddu fod yn ddyledus, er enghraifft:

  • os yw eich ystad yn mynd i'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil a'r ddau ohonoch yn byw yn y DU, does dim Treth Etifeddu i'w thalu hyd yn oed os yw'r ystad yn werth mwy na'r trothwy o £312,000
  • mae'r rhan fwyaf o roddion a wneir rhagor na saith mlynedd cyn eich marwolaeth wedi'u heithrio (ond darllenwch yr adran nesaf ar ymddiriedolaethau a chwmnïau)

mae rhai rhoddion eraill megis rhoddion priodas neu roddion ar gyfer partneriaeth sifil hyd at £5,000 (yn dibynnu ar y berthynas rhwng y rhoddwr a'r sawl sy'n derbyn), rhoddion i elusennau a'r £3,000 y ceir ei roi i ffwrdd bob blwyddyn hefyd wedi'u heithrio

Trosglwyddiadau i ymddiriedolaethau neu gwmnïau

Rhaid talu'r Dreth Etifeddu'n syth wrth drosglwyddo asedau i'r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau a chwmnïau os byddant dros y trothwy ar gyfer Treth Etifeddu (gan ystyried y rhoddion a'r trosglwyddiadau trethadwy o'r saith mlynedd blaenorol). Dilynwch y ddolen isod sy’n delio â Threth Etifeddu ar ystad unigolyn pan fydd yn marw.

Cyfraddau a throthwy'r Dreth Etifeddu

Pan fydd Treth Etifeddu'n ddyledus ar ystad person ymadawedig, dyma'r cyfraddau a godir:


Treth Etifeddu

Blwyddyn dreth 2008-2009

Trothwy gwerth trethadwy'ch ystad pan ddechreuir codi'r dreth £312,000
Cyfradd y dreth 40 y cant

Pwy sy'n talu'r Dreth Etifeddu?

Y 'cynrychiolydd personol' (y person a enwebir i ddelio gyda materion yr ymadawedig) sy'n trefnu i dalu unrhyw Dreth Etifeddu sy'n ddyledus.

Fel arfer rydych yn enwebu'r cynrychiolydd personol yn eich ewyllys (gallwch enwebu mwy nag un), a chaiff ei alw'n 'ysgutor'. Os byddwch yn marw heb adael ewyllys, gall llys enwebu'r cynrychiolydd personol, a chaiff ei alw'n 'weinyddwr'.

Prisio ystad at ddibenion Treth Etifeddu

Os ydych wedi cael eich enwebu yn gynrychiolydd personol i rywun, bydd angen ichi brisio'r holl asedau yr oedd yr ymadawedig yn berchen arnynt. Rhaid i'r prisiad adlewyrchu'n gywir y pris y byddai'n rhaid ei dalu o fewn rheswm am yr asedau ar y farchnad agored adeg marwolaeth yr unigolyn.

Y dyddiad olaf ar gyfer talu Treth Etifeddu

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid talu'r Dreth Etifeddu o fewn chwe mis i ddiwedd y mis pryd y bu farw'r ymadawedig, fel arall bydd llog yn cael ei godi ar y swm sy'n ddyledus.

Gellir gohirio treth ar rai asedau, gan gynnwys tir ac adeiladau, a'i thalu mewn rhandaliadau dros 10 mlynedd.

Ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi

Os yw'n debygol na fydd Treth Etifeddu i'w thalu ar yr ystad ('ystad eithriedig')

 Y wlad lle roedd yr ymadawedig yn byw Y ffurflenni gofynnol ar gyfer ystadau eithriedig
 Lloegr Ffurflen IHT205 a ffurflen PA1 - cais am brofiant
 Yr Alban Ffurflen C1 ('Rhestr eiddo') a ffurflen C5 os bu farw ar neu cyn 6 Ebrill 2004; os bu farw cyn y dyddiad hwn, ffurflen C1 yn unig
 Gogledd Iwerddon Ffurflen IH205 yn unig

 

Bydd y nodiadau cymorth y ffurflenni yn dweud wrthych lle i’w hanfon. Os oedd yr ymadawedig yn preswylio dramor bydd ffurflenni gwahanol (a rhai cyfyngiadau) yn bod - dilynwch y dolenni isod am fanylion llawn.

Os yw'n debygol y bydd Treth Etifeddu i'w thalu ar yr ystad

Yn yr achos hwn llenwch ffurflen IHT400 ac unrhyw ffurflenni atodol perthnasol (nodir y rhain ar ffurflen IHT400).

Bydd angen llenwi'r canlynol hefyd:

  • ffurflen IHT421 ‘Crynodeb Profiant’ os oedd yr ymadawedig yn byw yng Nghymru, Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • ffurflen PA1 ar gyfer gwneud cais am brofiant os oedd yr ymadawedig yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr
  • ffurflen Rhestr Eiddo C1 os oedd yr ymadawedig yn byw yn yr Alban

(Yng Ngogledd Iwerddon dim ond mewn cyfweliad y bydd y ffurflen gais am brofiant yn cael ei llenwi.)

Bydd y nodiadau cymorth ar IHT400 yn dweud wrthych lle i anfon y ffurflenni a'r camau nesaf.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar y Dreth Etifeddu.

Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddu: 0845 3020 900 (ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os oes gennych ystad a allai fod yn fawr, dylech gael cyngor proffesiynol. Mae'n syniad da gwneud ewyllys hefyd, gan enwebu rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo i weithredu fel eich cynrychiolydd personol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU