Talu Wrth Ennill (PAYE - TWE) yw'r system a ddefnyddir gan gyflogwyr a darparwyr pensiwn i ddidynnu treth o'ch cyflog neu'ch pensiwn. Os ydych yn meddwl eich bod wedi talu gormod o Dreth Incwm drwy TWE, gallwch gymryd camau syml i gael ad-daliad.
Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod treth i chi sy'n dangos i'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn faint o dreth i'w didynnu o'ch cyflog neu bensiwn cyn i chi gael eich talu. Fe welwch eich cod treth ar eich Hysbysiad Cod P2 (a anfonir atoch fel arfer ar ddechrau bob blwyddyn dreth), eich P45 neu ar eich slip cyflog neu bensiwn.
Efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth:
Bydd y modd y byddwch yn adhawlio treth eleni yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Dywedwch wrth swyddfa dreth eich cyflogwr pam eich bod yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth drwy Dalu Wrth Ennill. Efallai y bydd popeth sydd arnynt ei angen i wirio'ch hawliad ganddynt yn barod. Os na, cewch wybod pa ddogfennau i'w hanfon. Efallai y cewch god treth newydd, a bydd unrhyw ad-daliad yn cael ei dalu gyda'ch cyflog.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd trethadwy:
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, bydd eich Canolfan Byd Gwaith yn talu'r ad-daliad ar ôl 5 Ebrill neu pan fyddwch yn stopio hawlio (pa un bynnag fydd gynharaf). Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, cewch ad-daliad gan eich swyddfa dreth ar ôl 5 Ebrill.
Os ydych yn ôl yn y gwaith o fewn pedair wythnos:
Telir unrhyw ad-daliad gyda'ch cyflog.
Bydd y swyddfa dreth yn anfon unrhyw ad-daliad atoch yn y post, ynghyd â P45 newydd os oes angen.
Efallai y byddwch yn dewis codi eich pensiwn/pensiynau ar ffurf taliad unswm yn hytrach na swm bychan bob mis. Gelwir hyn yn 'gymudo pensiynau bach', a dim ond ar gyfer pensiynau bach y mae ar gael (ychydig o filoedd o bunnoedd). Gall cyfradd y dreth y byddwch yn ei thalu am y taliad unswm fod yn uwch na chyfradd sylfaenol y dreth byddwch yn ei thalu dros y flwyddyn.
Os ydych chi am wneud cais bydd angen i chi ddilyn y camau canlynol:
Bydd y swyddfa dreth yn anfon unrhyw ad-daliad atoch yn y post.
Gallwch ysgrifennu at eich swyddfa dreth leol. Dylech gynnwys dogfennau perthnasol am eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, megis:
Bydd y Swyddfa Dreth yn ymchwilio i'ch ymholiad, yn cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post neu drwy drosglwyddiad banc. Gallwch hawlio trethi a ordalwyd ar gyfer hyd at uchafswm o chwe blynedd cyn y flwyddyn dreth bresennol.