Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i hawlio arian yn ôl os ydych chi wedi talu gormod o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Pa un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, mae terfyn ar faint o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) y bydd angen ichi eu talu ymhob blwyddyn dreth. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwch wedi talu gormod o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol a gallwch hawlio'r arian yn ôl.

Talu Cyfraniadau YG

Rydych yn talu cyfraniadau YG os ydych yn gyflogai neu'n hunangyflogedig, a rhwng 16 a 65 oed i ddynion neu 16 i 60 i ferched, gyhyd â bod eich enillion dros lefel arbennig. Mae'r hawl i gael rhai budd-daliadau, megis Pensiwn y Wladwriaeth a'r Lwfans Ceisio Gwaith, yn dibynnu ar y cyfraniadau yr ydych wedi'u talu.

Mae'r symiau a ganlyn yn berthnasol i'r flwyddyn dreth 2008-2009.

Os ydych yn gyflogedig

Os ydych yn ennill dros £105 yr wythnos (y 'trothwy sylfaenol') a hyd at £770 yr wythnos byddwch yn talu 11 y cant o'r swm hwn fel cyfraniadau YG 'Dosbarth 1'. Rydych hefyd yn talu un y cant o'ch enillion dros £770 yr wythnos fel cyfraniadau YG Dosbarth 1.

Os ydych chi'n hunangyflogedig

Rydych yn talu cyfraniadau YG 'Dosbarth 2' ar gyfradd wythnosol o £2.30. Fodd bynnag, os disgwylir i'ch enillion yn y flwyddyn dreth 2008-2009 fod yn llai na £4,825, efallai y bydd gennych hawl i'r Eithriad Enillion Isel (EEI) ac na fydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau YG Dosbarth 2. Gallwch wneud cais am yr EEI ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 ar ffurflen CF10.

Yn ychwanegol i gyfraniadau YG Dosbarth 2, gallwch hefyd dalu cyfraniadau YG 'Dosbarth 4' ar ganran o'ch elw. Rydych yn talu wyth y cant ar elw blynyddol rhwng £5,435 a £40,040 ac un y cant ar unrhyw elw uwchlaw £40,040.

Mae cyfraniadau YG Dosbarth 4 yn gost flynyddol ac nid oes yn rhaid i chi eu talu tan ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod blwyddyn dreth 2008-2009 byddwch yn dal i orfod talu cyfraniadau YG Dosbarth 4 ar eich holl elw blynyddol dros £5,435.

Pryd y gallai gordaliadau ddigwydd?

Efallai y byddwch wedi talu gormod o gyfraniadau YG os:

  • nad ydych yn hunangyflogedig bellach a'ch bod wedi parhau i dalu cyfraniadau YG Dosbarth 2
  • oeddech yn dal i weithio a bod eich cyflogwr wedi parhau i dynnu cyfraniadau YG Dosbarth 1 o'ch enillion ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • pan oedd eich enillion o dan y trothwy sylfaenol
  • oedd gennych fwy nag un swydd a bod eich enillion ar y cyd dros y 'terfyn enillion uchaf'
  • oeddech yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd ac yn talu cyfraniadau YG Dosbarth 1 a chyfraniadau YG Dosbarth 2 neu Dosbarth 1, 2 a/neu 4 ond yn talu mwy na'r hyn roeddech angen ei dalu
  • gwnaethoch dalu cyfraniadau YG Dosbarth 2 a bod eich enillion hunangyflogedig yn is na'r terfyn EEI.

Beth i'w wneud os credwch eich bod wedi talu gormod o Gyfraniadau YG

Fel arfer bydd y Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cysylltu â chi os ydych wedi talu £43.50 neu fwy ar ben y terfyn blynyddol ar gyfer CYG Dosbarth 1 a/neu Ddosbarth 2. Ond os ydych chi'n teimlo eich bod wedi talu gormod ond heb gael eich hysbysu o hynny, ysgrifennwch at Cyllid a Thollau EM ar ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill).

Beth i ysgrifennu yn eich llythyr

  • pam eich bod yn eich tyb chi wedi talu gormod
  • ym mha flynyddoedd treth yr ydych wedi gordalu, a pha ddosbarth(iadau) o gyfraniadau
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Sicrhewch eich bod yn llofnodi'r llythyr bob amser.

Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei chynnwys

  • P60 neu ddatganiad gan eich cyflogwr(wyr) yn dangos y CYG a ddidynnwyd o'ch cyflog yn ystod y flwyddyn dreth (Dosbarth 1)
  • derbynneb eich bil chwarterol (Dosbarth 2)
  • eich Datganiad o Gyfrif ar gyfer Hunanasesiad (Dosbarth 4)

I ble y dylech anfon eich llythyr

Bydd angen i chi anfon eich amlen at sylw'r adran sy'n delio â'ch dosbarth cyfraniadau Yswiriant Gwladol - ceir rhagor o wybodaeth yn y tabl isod.

Dosbarth 1 a/neu Dosbarth 2

Cyfraniadau YG a dalwyd dros y terfyn blynyddol

Cyfraniadau YG Dosbarth 2 a dalwyd yn anghywir Cyfraniadau YG Dosbarth 4 a dalwyd yn anghywir
'Refunds Group'  'Self Employment Services' 'Deferment Services'
Anfonwch eich llythyr at:
HM Revenue & Customs, National Insurance Contributions Office, Benton Park View, Newcastle upon Tyne, NE98 1ZZ.

Terfynau amser a therfynau'r ad-daliadau

Nid oes terfyn amser ar gyfer adhawlio gormod o gyfraniadau os oedd gennych ddwy swydd, er enghraifft, neu'n ennill llai na'r trothwy sylfaenol. Ond, mi gewch chi ad-daliad dim ond os yw'r swm dros:

  • £4.01 (Dosbarth 1 a 2)
  • 50 ceiniog (Dosbarth 4)

Os ydych wedi talu gormod am unrhyw resymau eraill, mae terfyn amser o chwe blynedd fel arfer ar gyfer hawlio ad-daliad.

Os ydych yn hawlio ad-daliad cyfraniadau YG Dosbarth 2 oherwydd bod eich enillion hunangyflogedig ar gyfer y flwyddyn dreth yn is na'r terfyn EEI, mae'n rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig, a darparu tystiolaeth o'ch enillion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan cyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.

Anfonwch eich cais am ad-daliad at: HM Revenue & Customs, National Insurance Contributions Office, Benton Park View, Newcastle upon Tyne, NE98 1ZZ.

Mwy o wybodaeth

I wneud ymholiadau am ad-daliad o Gyfraniadau YG Dosbarth 1, ffoniwch y llinell gymorth Gweithwyr ar 0845 302 1479. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

I wneud ymholiadau am EEI neu Gyfraniadau YG Dosbarth 2, ffoniwch y llinell gymorth Hunangyflogedig ar 0845 915 4655. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Os ydych yn holi am daliad neu ad-dalu Cyfraniadau YG Dosbarth 4, ffoniwch y Gwasanaethau Deferment Services ar 0845 915 7141. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30 am a 5.00 pm a tan 4.30 pm ar ddydd Gwener.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU