Pan fyddwch yn llenwi ac yn dychwelyd ffurflen dreth Hunanasesu i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, byddwch yn cael Datganiad Hunanasesu sy'n dangos faint o dreth y mae angen i chi ei thalu a sut mae gwneud hynny. Os ydych wedi talu gormod, bydd yn dangos faint a gewch yn ôl. Os llenwch eich ffurflen dreth ar-lein gallwch weld eich datganiad cyn iddo ddod drwy'r post.
Ni fydd eich bil treth bob amser yr un fath â'r swm a gyfrifwyd ar eich ffurflen dreth Hunanasesu. Y rheswm am hynny yw, weithiau, bydd 'taliad o'r gweddill' yn ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn flaenorol, neu 'daliad ar gyfrif' am y flwyddyn bresennol.
Taliadau o'r gweddill
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu 'taliad o'r gweddill' (balancing payment) ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych ac unrhyw log sy'n ddyledus ar daliadau hwyr a chosbau. Mae'r taliad o'r gweddill yn ystyried unrhyw daliadau yr ydych wedi'u gwneud yn barod. Bydd yn rhaid i chi wneud y taliad o'r gweddill erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2007-08 (6 Ebrill 2007 - 5 Ebrill 2008) bydd y taliad o'r gweddill yn ddyledus ar 31 Ionawr 2009.
Taliadau ar gyfrif
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi wneud 'taliadau ar gyfrif' (payments on account) ar dreth y flwyddyn gyfredol. Bydd yn rhaid i chi wneud dau daliad, un erbyn 31 Ionawr yn y flwyddyn gyfredol a'r llall erbyn y 31 Gorffennaf dilynol. Hanner y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn flaenorol fydd pob taliad.
Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 (6 Ebrill 2008 - 5 Ebrill 2009) bydd y taliad cyntaf ar gyfrif yn ddyledus ar 31 Ionawr 2009. Bydd yr ail daliad ar gyfrif yn ddyledus ar 31 Gorffennaf 2009.
Bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif os oedd eich treth yn y flwyddyn flaenorol dros £500 neu os yw eich treth Talu Wrth Ennill sy'n ddyledus yn 20 y cant neu'n fwy na chyfanswm y dreth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn.
Os ydych yn teimlo bod eich taliadau ar gyfrif yn rhy uchel
Os gwyddoch y bydd eich incwm am y flwyddyn gyfredol yn is nag incwm y flwyddyn ddiwethaf, gallwch ofyn am gael gostwng eich taliadau ar gyfrif. Ond:
Gallwch leihau eich taliadau ar gyfrif ar eich ffurflen dreth ac egluro yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol' pam eich bod wedi gwneud hynny. Gallwch hefyd ddefnyddio ffurflen SA303 i wneud cais am leihau'ch taliadau neu i newid eich cais blaenorol.
Os byddwch yn sylweddoli eich bod wedi lleihau gormod ar eich taliadau - efallai oherwydd bod eich incwm, yn y pen draw, yn uwch nag y tybiasoch - rhowch wybod i ni'n syth. Gallwch ddefnyddio ffurflen SA303 neu ein ffonio ar y rhif ffôn sydd ar eich datganiad Hunanasesu. Os byddwch yn oedi, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu llog, tâl ychwanegol neu gosb.
Camgymeriadau
Os ydych wedi gwneud camgymeriad gyda'ch cyfrifiadau, bydd eich datganiad yn dangos y swm cywir. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cyfrifiad treth atoch yn dangos sut y gwnaethant gyfrifo'r ffigur cywir.
Ar ochr dde uchaf eich Datganiad Hunanasesu fe welwch y canlynol:
Fe welwch hefyd rifau ffôn ar gyfer unrhyw ymholiadau.
Rhannau o'ch datganiad
Bydd eich datganiad yn dangos yr hyn sy'n weddill o'ch datganiad diwethaf (faint oedd yn ddyledus gennych bryd hynny) a manylion unrhyw newidiadau ers eich datganiad diwethaf. Gallai'r rhain gynnwys:
Os oes angen i chi wneud taliad, bydd slip talu ar waelod y datganiad. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i dalu ar gefn y datganiad.
Cosbau, llog neu ordaliadau ar eich datganiad
Os byddwch yn hwyr yn talu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych, efallai y byddwn yn codi llog, cosb a gordaliadau arnoch. Gallai eich datganiad hefyd gynnwys llog a/neu gosbau y mae'n rhaid i chi eu talu oherwydd ymchwiliad treth.
Gallwch ddisgwyl Datganiad Hunanasesu:
Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon Datganiad Hunanasesu 45 diwrnod cyn y dyddiad talu. Ond os byddwch yn ffeilio'ch treth ar-lein cyfrifir eich treth yn awtomatig a gallwch weld faint sy'n ddyledus gennych yn syth. Byddwch hefyd yn gallu gweld eich datganiadau blaenorol, ynghyd â manylion eich hanes treth.
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Hunanasesu Ar-lein ac wedi rhoi cychwyn ar y gwasanaeth, gallwch weld eich datganiad ar-lein. Os nad ydych wedi cofrestru eto - a hyd yn oed os gwnaethoch anfon ffurflen dreth bapur i Gyllid a Thollau EM - gallwch gofrestru'n awr.