Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Talu eich bil treth sydd wedi'i hunanasesu

Bydd sut y talwch eich bil treth Hunanasesu yn dibynnu ar faint sydd arnoch chi ac a ydych yn talu digon o dreth eisoes trwy TWE ('Talu Wrth Ennill' - PAYE). Gallwch dalu biliau llai drwy TWE, ond ar gyfer symiau mwy (neu os nad ydych ar TWE) byddwch yn talu trwy gyfrif Hunanasesu.

Hysbysiad o'ch bil treth

Ar ôl derbyn eich ffurflen dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon y canlynol atoch:

  • Datganiad Cyfrifo Treth a fydd yn dangos sut maent wedi cyfrifo beth sydd arnoch chi iddynt
  • Datganiad o Gyfrif (ym mis Rhagfyr fel arfer) a fydd yn cynnwys naill ai cais am daliad neu gadarnhad nad oes gennych unrhyw beth i'w dalu, neu hysbysiad yn dweud bod ad-daliad yn daladwy ichi.

Gallwch dderbyn y rhain ar adegau eraill hefyd, er enghraifft ar ôl ichi ofyn am newid ffurflen a ffeiliwyd gennych yn gynharach, neu ar ôl archwiliad treth.

Talu eich bil treth sydd wedi'i hunanasesu

Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn casglu'r dreth sy'n ddyledus mewn rhandaliadau trwy TWE os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio neu'n derbyn pensiwn
  • rydych yn anfon eich ffurflen dreth i mewn erbyn 30 Hydref (neu 30 Rhagfyr os ydych yn ei ffeilio ar-lein)

mae eich bil o dan £2,000

Os nad ydych ar TWE neu os yw eich bil dros £2,000

Yn y naill achos neu'r llall, byddwch yn derbyn cais am daliad (ym mis Rhagfyr fel arfer) a elwir yn 'Ddatganiad o Gyfrif'. Bydd hwn:

  • yn gofyn ichi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych am y flwyddyn dreth flaenorol erbyn diwedd Ionawr - a elwir yn 'daliad o'r gweddill'
  • os oedd eich bil treth am y flwyddyn flaenorol yn fwy na £500, bydd yn gofyn ichi wneud taliad ymlaen llaw (a elwir yn 'daliad ar gyfrif') am y flwyddyn dreth gyfredol sy'n cyfateb i hanner bil y flwyddyn flaenorol - eto erbyn diwedd Ionawr
  • bydd yn cadarnhau y bydd angen ichi dalu'r hanner arall ddiwedd Gorffennaf (ar ôl diwedd y flwyddyn dreth gyfredol)

Os byddwch yn colli’r dyddiad cau o 30 Hydref ar gyfer ffeilio’ch ffurflen (31 Ionawr os ydych yn ffeilio ar-lein)

Os byddwch yn anfon ffurflen bapur, ni fydd Cyllid a Thollau EM yn gallu sicrhau y byddant yn dweud faint yw'r swm sydd arnoch chi iddynt erbyn 31 Ionawr, felly bydd angen i chi gyfrifo'r swm eich hun a thalu unrhyw beth sydd arnoch chi erbyn y dyddiad olaf. Os yw hwn dros £500, bydd angen ichi gynnwys hanner y swm eto fel eich taliad cyntaf ar gyfrif tuag at dreth ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Os ydych yn ffeilio'ch ffurflen dreth ar-lein, mae'ch treth yn cael ei chyfrifo'n awtomatig. Unwaith eto, os yw'r swm dros £500 bydd angen ichi hefyd anfon taliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Taliadau o'r gweddill a thaliadau ar gyfrif

Cofiwch fod unrhyw 'daliad o'r gweddill' sy'n daladwy gennych ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf wedi'i seilio ar eich incwm gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn honno, llai unrhyw 'daliadau ar gyfrif' a wnaed gennych. Felly, os byddwch yn talu gormod ar gyfrif mewn un flwyddyn, ni fydd taliad o'r gweddill i'w wneud a byddwch, yn hytrach, yn derbyn ad-daliad neu gredyd.

Os ydych yn teimlo bod eich taliadau ar gyfrif yn rhy uchel

Os gwyddoch y bydd eich incwm am y flwyddyn gyfredol yn is nag incwm y flwyddyn flaenorol, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM ostwng eich taliadau ar gyfrif. Cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth i gael ffurflen gais, neu llwythwch ffurflen oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Dyddiadau olaf ar gyfer talu

Cofiwch dalu'r dreth sy'n ddyledus gennych ar amser. Os byddwch yn methu'r dyddiad olaf ar gyfer talu, sef 31 Ionawr, codir llog dyddiol arnoch ar y swm sy'n ddyledus (a dirwy o £100 os yw eich ffurflen dreth yn hwyr). Os byddwch dros 28 diwrnod yn hwyr yn talu, bydd costau ychwanegol i'w talu.

Os derbyniwch Ddatganiad o Gyfrif a hwnnw'n dangos 'treth yn awr yn daladwy' (er enghraifft ar ôl i ffurflen gael ei newid neu ar ddiwedd archwiliad) cofiwch dalu'r dreth yn syth gan fod llog yn cael ei godi ar y swm yn barod.

Dulliau talu

Ar-lein neu drwy fancio dros y ffôn

Mae talu'ch bil treth yn electronig yn gyflym ac yn hwylus. Gallwch wneud hyn gyda cherdyn debyd ar safle rhyngrwyd diogel Cyllid a Thollau EM neu drwy wasanaeth bancio dros y ffôn/rhyngrwyd eich banc.

I dalu drwy'r dulliau hyn bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich Datganiad o Gyfrif
  • eich rhif cyfeirnod treth
  • manylion cyfrif Cyllid a Thollau EM o'r slip talu a oedd ynghlwm wrth eich Datganiad o Gyfrif diweddaraf

Dulliau talu eraill

Gallwch dalu drwy'r dulliau canlynol hefyd:

  • yn Swyddfa'r Post
  • trwy Giro banc
  • trwy anfon siec yn y post

Os byddwch yn colli'ch slip talu, anfonwch lythyr gan gynnwys eich manylion cyswllt a'ch cyfeirnod treth

Os oes gennych gwestiwn am dalu

Os oes angen help arnoch i ddeall eich bil treth, neu os oes gennych gwestiwn am dalu, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt ar eich Cyfrifiad Treth neu ar eich Datganiad o Gyfrif. Os ydych wedi colli'r rhain, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth neu Swyddfa Gyfrifon Shipley neu Cumbernauld.

Os na allwch chi dalu eich bil treth

Os na allwch chi dalu'ch bil treth, peidiwch â'i anwybyddu. Os cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth cyn gynted ag y sylweddolwch fod gennych broblem, efallai y gallwch ddod i gytundeb i dalu'ch bil trwy randaliadau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU