Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i hunanasesiad

Mae Hunanasesu yn golygu llenwi ffurflen dreth ar-lein neu ar bapur er mwyn rhoi gwybod i ni am eich incwm ac am eich enillion cyfalaf (elw ar werthu rhai asedau), neu i hawlio gostyngiadau neu lwfansau treth yn erbyn eich bil treth. Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn defnyddio'r ffigurau ar y ffurflen dreth i gyfrifo'ch bil treth, neu fe allwch chi ei gyfrifo eich hun.

Ceir gwahanol fathau o ffurflenni treth a gwahanol 'dudalennau atodol' y mae'n bosib y bydd angen i chi eu llenwi, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Ceir hefyd ddyddiadau cau ar gyfer anfon eich ffurflen dreth - a cheir taliadau cosb a llog os bydd yn cyrraedd yn hwyr.

Gallwch ffeilio'r rhan fwyaf o ffurflenni treth ar-lein - mae'r adran 'Manteision ffeilio ar-lein' yn egluro manteision y dull hwn.

Pwy sy'n gorfod llenwi ffurflen dreth Hunanasesu?

Os ydych chi'n talu treth ar eich enillion neu ar eich pensiynau drwy Dalu Wrth Ennill bydd eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn yn tynnu treth ar ran Cyllid a Thollau EM ac ni fydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth fel arfer. Yn yr achosion hyn, bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn gofyn iddynt ddefnyddio'r system Talu Wrth Ennill i dynnu unrhyw dreth y gall fod yn ddyledus gennych ar Bensiwn y Wladwriaeth neu incwm trethadwy arall (ee incwm rhent a buddsoddiadau) hyd at lefel benodol.

Ond os yw'ch materion treth yn fwy cymhleth efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth. Ceir hefyd rai amgylchiadau lle bydd angen i chi bob amser lenwi ffurflen dreth - er enghraifft os ydych chi'n hunangyflogedig, yn gyfarwyddwr cwmni neu'n ymddiriedolwr neu os byddwch yn cael incwm o dramor.

Dilynwch y ddolen isod i ddarllen y manylion llawn ynghylch pwy sy'n gorfod llenwi ffurflen dreth ac i gael gwybod mwy am y gwahanol fathau o ffurflenni treth.

Gofyn am lenwi ffurflen dreth Hunanasesu

Fel arfer, anfonir ffurflenni treth Hunanasesu ym mis Ebrill bob blwyddyn (neu rybudd i lenwi ffurflen dreth os byddwch yn ffeilio ar-lein). Os nad ydych wedi derbyn ffurflen ond yn meddwl y dylech fod yn llenwi un, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth. Cewch y manylion gan eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn, neu gallwch chwilio ar-lein.

Gallwch ofyn am gael llenwi ffurflen dreth unrhyw bryd - er enghraifft, os oes arnoch eisiau hawlio gostyngiad neu eithriad treth penodol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen atoch os oes angen. (Chewch chi ddim anfon ffurflen Hunanasesu heb gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn gyntaf).

Os ydych chi newydd ddod yn hunangyflogedig, mae gan Gyllid a Thollau EM wybodaeth fanwl ar gael. Mae 'Ffurflenni treth os ydych chi'n hunangyflogedig neu mewn partneriaeth' yn dweud wrthych sut mae mynd ati i gofrestru'n hunangyflogedig - yna fe anfonir ffurflen dreth Hunanasesu atoch os oes angen.

Manteision ffeilio ar-lein

Mae llawer o fanteision i ffeilio ar-lein - er enghraifft, bydd y meddalwedd yn cyfrifo unrhyw dreth sy'n daladwy yn awtomatig. Bydd gennych hefyd dri mis yn hwy i ffeilio'r ffurflen na phetaech yn defnyddio ffurflen bapur - bydd gennych tan 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth yn hytrach na'r 31 Hydref cyn hynny.

Allweddumynediad llywodraeth y DU