Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i’w wneud os na allwch chi dalu eich bil treth

Os gwelwch na fyddwch yn gallu talu'ch bil treth, y peth pwysicaf yw peidio ag anwybyddu'r cais am daliad. Os oes camgymeriad ar y bil, gellir ymchwilio i hynny a'i gywiro. Os na allwch chi dalu'r bil yn syth, efallai y gallwch chi ddod i ryw drefniant.

Pan fyddwch yn derbyn eich bil treth neu eich datganiad o gyfrif

Os nad ydych yn siŵr a yw'r swm yn gywir

Os nad ydych yn sicr a yw eich bil yn gywir, mae'n syniad da dechrau trwy wirio'r ffigurau ar eich ffurflen dreth. Os ydych wedi ychwanegu 0 i'ch incwm yn ddamweiniol, bydd gennych fil sy'n llawer mwy nag y dylai fod.

Gallech hefyd sicrhau nad ydych wedi defnyddio ffigurau dros dro ar eich ffurflen - os ydych wedi, bydd eich bil wedi'i seilio ar y ffigurau hynny. Bydd angen i chi gyflwyno’r ffigurau cywir er mwyn addasu'r bil.

Os yw ffigurau eich ffurflen dreth yn gywir, efallai fod eich bil yn cynnwys cosbau neu daliadau ychwanegol oherwydd ichi anfon eich ffurflen i mewn yn hwyr. Bydd taliadau o'r fath yn ymddangos ar eich Datganiad o Gyfrif.

Os yw'r swm yn gywir ond allwch chi ddim talu

Os yw'r bil yn gywir ond nad ydych yn gallu ei dalu, dylech gysylltu'n syth â'r swyddfa Cyllid a Thollau EM a anfonodd y cais am daliad atoch. Neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Taliadau ar 1274 539 628 rhwng 8.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Os byddwch yn anwybyddu'ch bil, bydd Cyllid a Thollau EM yn eich ffonio beth bynnag. Os byddwch yn parhau i'w anwybyddu, gallant gymryd camau cyfreithiol i gael yr arian.

Hyd yn oed os mai Cyllid a Thollau EM fydd yn cysylltu â chi gyntaf gallwch ofyn iddynt ystyried cytuno i drefniant talu beth bynnag.

Edrychir ar bob achos yn unigol ond fel arfer:

  • bydd disgwyl ichi dalu'r cyfan mewn un swm yn syth os gallwch
  • os na allwch dalu'r cyfan ar unwaith efallai y cewch ragor o amser i dalu - naill ai fel un swm neu drwy randaliadau
  • os anwybyddwch y broblem neu os na allwch wneud trefniant talu, bydd camau cyfreithiol yn cael eu cymryd i gasglu'r hyn sy'n ddyledus gennych

Trefniadau talu - eich hawliau

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried unrhyw drefniant talu y byddwch yn ei awgrymu. Os ydych yn teimlo eu bod wedi'i wrthod heb ei ystyried yn iawn, gallwch gwyno ond ni allwch apelio yn erbyn eu penderfyniad.

Os ydych wedi derbyn bil ond heb ddychwelyd eich ffurflen dreth

Ni fydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried unrhyw drefniant talu hyd nes eich bod wedi dychwelyd unrhyw ffurflenni sydd heb eu hanfon ar amser.

Os nad ydych chi wedi dychwelyd eich ffurflen(ni) dreth:

  • byddwch wedi cael cosb am ffeilio'ch ffurflen yn hwyr
  • bydd Cyllid a Thollau EM wedi amcangyfrif eich bil
  • efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o gosbau - hyd yn oed os ydych wedi talu'r dreth a amcangyfrifwyd - hyd nes y ffeilir y ffurflen

Os ydych wedi derbyn llythyr rhybudd ynghylch cymryd camau cyfreithiol

Os na fyddwch yn talu ar ôl i Gyllid a Thollau EM eich ffonio, bydd y swyddfa adennill leol yn ysgrifennu atoch. Cewch eich rhybuddio y byddant yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i gasglu'r hyn sydd arnoch chi os ydych yn parhau i beidio â thalu. Gallwch barhau i wneud cynnig i dalu.

Sut i wneud cynnig i dalu

Os cytunwch i dalu'r swm llawn o fewn 28 diwrnod, ni fydd angen cymryd camau pellach.

Os cynigiwch amser hwy i dalu, efallai y bydd yn rhaid ichi roi'r canlynol i'r swyddfa adennill:

  • manylion eich cynilion ac asedau eraill - ar gyfer trefniadau talu hyd at dri mis
  • eich incwm, gwariant, manylion eich cynilion ac asedau eraill - ar gyfer trefniadau talu dros dri mis

Bydd rhaid ichi dalu llog ar unrhyw dreth y byddwch yn ei thalu'n hwyr. Ar hyn o bryd mae hwn yn 8.5 y cant ar gyfer trethdalwyr Hunanasesu.

Cyngor am ddim os na allwch chi dalu eich bil treth

Os hoffech chi drafod eich bil treth gyda rhywun, gallwch gael cyngor am ddim gan Gyngor Ar Bopeth neu TaxAid, elusen sy'n helpu pobl gyda phroblemau treth nad ydynt yn gallu fforddio talu am gyngor.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU