Os yw eich materion treth yn gymharol syml ac rydych eisoes yn talu drwy TWE (Talu Wrth Ennill - PAYE) mae'n debyg na fydd angen ichi lenwi ffurflen dreth. Ond os ydych yn hunangyflogedig, yn gyfarwyddwr cwmni neu os oes gennych faterion treth mwy cymhleth, bydd angen ichi lenwi un.
Os yw'ch materion treth yn gymharol syml efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y ffurflen dreth fer yn hytrach na'r un lawn, sy'n hirach. Os ydych chi, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ei anfon atoch.
Dim ond pedair tudalen o hyd yw'r ffurflen dreth fer a bydd y nodiadau a ddaw gyda hi yn eich helpu i'w llenwi. Ni ellir ei chyflwyno ar-lein. Os byddai'n well gennych gyflwyno eich ffurflen dreth ar-lein bydd yn rhaid i chi lenwi'r ffurflen lawn yn hytrach na'r un fer.
Mae'r cofnodion y bydd eu hangen arnoch i lenwi'r ffurflen fer yn debyg i'r rheini y bydd eu hangen arnoch ar gyfer tudalennau craidd y ffurflen dreth lawn. I gael gwybod mwy ewch i 'Cam tri - llenwi'r tudalennau craidd'.
Gallwch lenwi'r ffurflen dreth lawn ar bapur neu gallwch ei chwblhau ar-lein. Os byddwch yn cyflwyno'r ffurflen ar-lein bydd y meddalwedd yn cyfrifo unrhyw dreth sy'n daladwy yn awtomatig ac yn cydnabod ein bod wedi cael eich ffurflen ar unwaith. Bydd gennych hefyd fwy o amser i ffeilio'r ffurflen na phetaech yn defnyddio ffurflen bapur - bydd gennych tan 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth yn hytrach na 31 Hydref. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein ar wefan Cyllid a Thollau EM os ydych chi'n dymuno cyflwyno'ch ffurflen ar-lein.
Mae fersiwn bapur y brif ffurflen dreth yn cynnwys dwy ffurflen graidd (SA100 ac SA101) yn ogystal â thudalennau atodol (er enghraifft, ar gyfer incwm o gyflogaeth neu incwm o eiddo) wedi'u teilwra ar gyfer eich anghenion chi. Os byddwch yn cael y ffurflen dreth lawn bydd angen i chi wneud y canlynol:
Os ydych yn ffeilio ar-lein, dewiswch y tudalennau atodol y bydd eu hangen arnoch. Mae meddalwedd Cyllid a Thollau EM yn darparu'r rhan fwyaf (ond nid pob un) o'r tudalennau atodol ar-lein. Fodd bynnag, efallai y bydd modd i chi gyflwyno'r tudalennau hyn drwy ddefnyddio meddalwedd gan gyflenwyr eraill.
Os ydych yn llenwi ffurflen bapur
Os ydych yn llenwi ffurflen dreth bapur bydd yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi lenwi unrhyw dudalennau atodol ai peidio. Gallwch lwytho unrhyw dudalennau sydd ar goll yn ogystal â nodiadau cynorthwyo oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Bydd arnoch angen cofnodion sy'n ymwneud â'r canlynol ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol (6 Ebrill i'r 5 Ebrill wedyn):
Bydd arnoch angen cofnodion o'r canlynol ar gyfer y flwyddyn dreth berthnasol:
Os ydych yn dymuno hawlio gostyngiadau ar gyfer blwydd-dal ymddeol a chyfraniadau pensiwn ac ar gyfer costau megis rhoddion i elusen, bydd angen cofnodion arnoch yn dangos eich bod wedi gwneud y taliadau hyn.
Os ydych chi'n ad-dalu benthyciad myfyrwyr a bod eich incwm dros £15,000, gallwch wneud y taliadau naill ai drwy'r system Hunanasesu neu'r system Talu Wrth Ennill, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol a threth.
Manylion banc a chysylltu
Bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi am y canlynol:
Os nad yw'r union ffigurau gennych gallwch ddefnyddio:
Defnyddiwch yr adran 'Gwybodaeth ychwanegol' i ddweud sut cawsoch y ffigurau hyn a pham na allwch ddefnyddio'r union ffigurau. Os byddwch yn gwneud addasiadau yn nes ymlaen ac nad ydych wedi talu digon o dreth efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau.
O fis Ebrill 2008 (ar gyfer ffurflen dreth 2007-08) mae'r dyddiadau cau wedi newid:
Ni ddarparir derbynebau ar gyfer ffurflenni treth papur. Os ydych chi’n ffeilio ar-lein, cewch gydnabyddiaeth ar y sgrin yn syth bod Cyllid a Thollau EM wedi derbyn eich ffurflen.
Er mwyn sicrhau y gall Cyllid a Thollau EM brosesu'ch ffurflen yn gyflym:
Gall ffeilio ar-lein eich helpu i osgoi gwneud camgymeriadau. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sut mae cofrestru a ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein
Os oes angen help arnoch gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Hunanasesu ar 0845 900 0444. Mae ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm bob dydd, ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.