Yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol) mae rhai dyddiadau allweddol erbyn pryd y mae'n rhaid ichi anfon eich ffurflen dreth a/neu wneud rhai taliadau. Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r dyddiadau hyn - mae Cyllid a Thollau EM yn codi cosbau a gordaliadau os byddwch yn eu methu.
Yn fuan ar ôl bob blwyddyn dreth newydd (6 Ebrill), mae Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen dreth neu Rybudd i Gwblhau Ffurflen Dreth (SA316) ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol at bawb sy'n llenwi ffurflen fel arfer.
| Dyddiad | Pam fod y dyddiad cau hwn yn bwysig |
|---|---|
| 31 Ionawr |
Dyma'r dyddiad olaf ffurfiol ar gyfer dychwelyd ffurflen dreth a dderbyniwyd. Os bydd y ffurflen yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau hwn, byddwch yn gorfod talu cosb o £100 yn awtomatig. |
|
31 Hydref |
Rhaid i ffurflenni treth papur ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar y 5 Ebrill blaenorol gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn y dyddiad hwn os ydych am iddynt hwy:
Os byddant yn derbyn eich ffurflen dreth bapur ar ôl 30 Medi ac yn ei phrosesu erbyn 30 Rhagfyr, byddant yn dal i gyfrifo'ch treth ac yn ceisio casglu'r dreth drwy'ch cod treth; ond allan nhw ddim sicrhau y byddant yn dweud wrthych beth i'w dalu erbyn 31 Ionawr. Os ydych yn ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein, mae'r dyddiad cau'n ddiweddarach (gweler isod) oherwydd bod y system yn cyfrifo'r dreth sydd arnoch chi yn awtomatig ar y sgrin. |
| 29 Rhagfyr | Os yw'ch asiant yn cyflwyno'ch ffurflen dreth drwy'r Gwasanaeth Cyflwyno Electronig (GCE), rhaid ichi ei hanfon yn ôl erbyn y dyddiad hwn os ydych am i Gyllid a Thollau EM gasglu'r dreth trwy eich cod treth (os yw hynny'n bosibl) lle mae arnoch chi lai na £2,000. |
| 30 Rhagfyr | Os byddwch yn ffeilio'ch ffurflen dreth ar-lein, rhaid ichi ei hanfon yn ôl erbyn y dyddiad hwn os ydych am i Gyllid a Thollau EM gasglu'r dreth drwy eich cod treth (os yw hynny'n bosibl) lle mae arnoch chi lai na £2,000. Fel arall, gallwch ei ffeilio hyd at 31 Ionawr. |
| Dyddiadau allweddol |
Pa daliadau neu gosbau sy'n ddyledus? |
|---|---|
| 31 Ionawr |
Os anfonwyd ffurflen dreth atoch erbyn 31 Hydref yn y flwyddyn flaenorol, dyma'r dyddiad cau ar gyfer talu unrhyw swm sy'n weddill o'r dreth sy'n ddyledus gennych. 'Taliad o'r gweddill' yw'r enw ar hyn. Bydd Cyllid a Thollau EM yn codi llog dyddiol arnoch ar ôl y dyddiad hwn, hyd nes y bydd yn derbyn eich taliad. Erbyn y dyddiad hwn hefyd, bydd yn rhaid ichi wneud y 'taliad ar gyfrif' cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Er enghraifft, ar 31 Ionawr 2009 byddwch yn gorfod talu'r ddau isod:
|
| 28 Chwefror | Oni fyddwch wedi talu'r taliad o'r gweddill erbyn 31 Ionawr, codir tâl ychwanegol o 5% yn awtomatig arnoch ar ben y swm sy'n dal yn ddyledus. Mae hyn ar ben unrhyw daliadau llog. |
| 31 Gorffennaf |
Dyma'r dyddiad cau ar gyfer gwneud yr ail 'daliad ar gyfrif' ar gyfer treth sy'n ddyledus ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Os bydd arnoch chi dreth o hyd yr oeddech i fod wedi'i thalu erbyn y 31 Ionawr blaenorol, codir ail dâl ychwanegol o 5% yn awtomatig arnoch ar ben y swm sy'n ddyledus gennych. |
Os derbynioch eich ffurflen dreth ar ôl 31 Hydref, bydd eich Swyddfa Dreth yn dweud wrthych y dyddiadau cau ar gyfer talu unrhyw dreth sy'n ddyledus gennych. Fel rheol mae gennych 30 diwrnod o'r dyddiad ar y cais am daliad (sef y 'Datganiad o Gyfrif').
Gofynnir ichi wneud dau 'daliad ar gyfrif' ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol os nad ydych yn talu treth drwy'r drefn Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE) ac os oedd eich bil treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol dros £500. Mae pob taliad ar gyfrif yn cyfateb i hanner eich bil treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Os ydych chi'n disgwyl y bydd eich incwm am y flwyddyn gyfredol yn wahanol iawn i'r flwyddyn flaenorol, gallwch ofyn am addasu'r taliadau hyn.