Os ydych yn drethdalwr yn y DU, dylech gadw cofnod o'r dreth yr ydych yn ei thalu bob blwyddyn ynghyd â chofnodion eraill sy'n ymwneud â'ch incwm. Bydd angen y rhain arnoch os bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi lenwi ffurflen dreth, neu os bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am un yr ydych eisoes wedi'i llenwi.
Incwm o gyflogaeth
Dylech gadw dogfennau sy'n cynnwys manylion am eich cyflog ac am y dreth a ddarperir gan eich cyflogwr, gan gynnwys y canlynol:
Dylech gadw'r canlynol hefyd:
Cofnodion treuliau
Pan rydych yn gyflogedig efallai y gallwch hawlio treuliau er mwyn lleihau'r dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu. Bydd angen i chi gadw cofnodion fel y gallwch gynnwys y treuliau ein eich ffurflen dreth Hunanasesu.
Cofnodion budd-daliadau
Dylech gadw unrhyw ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
Cofnodion pensiynau
Dylech gadw:
Llog, difidendau neu incwm arall o gynilion, buddsoddiadau neu ymddiriedolaethau yn y DU
Dylech gadw:
Dylech gadw'r canlynol hefyd:
Incwm o eiddo
Os ydych yn cael incwm o osod eiddo, bydd angen i chi gadw cofnod o'r rhenti a dderbyniwyd a'r costau a dalwyd gennych.
Incwm neu enillion tramor
Bydd angen i chi gadw unrhyw dalebau difidend, tystysgrifau treth a chofnodion ariannol personol.
Incwm o gynlluniau cyfranddaliadau gweithwyr neu fuddion sy'n gysylltiedig â chyfranddaliadau
Dylech gadw gwybodaeth am unrhyw opsiynau cyfranddaliadau a ddyfarnwyd neu drefniadau cyfrannu at gynlluniau cyfranddaliadau.
Bydd y cofnodion y bydd angen i chi eu cadw yn dibynnu ar eich amgylchiadau ond, yn gyffredinol, dylent gynnwys contractau a dogfennau eraill sy'n ymwneud ag asedau yr ydych wedi'u prynu, eu gwerthu, eu cyfnewid, eu rhoi i ffwrdd neu wedi'u cael. Hefyd, dylech gadw unrhyw filiau, anfonebau neu gofnodion o dystiolaeth prynu arall megis datganiadau banc a bonion sieciau ar gyfer costau prynu, gwella neu werthu asedau a chopïau o unrhyw brisiadau a ddefnyddiwyd yn eich cyfrifiadau.
Incwm busnes neu incwm o hunangyflogaeth
Os ydych yn hunangyflogedig neu mewn busnes, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gadw rhai mathau o gofnodion. Ceir hefyd resymau busnes da dros gadw cofnodion da.
Os nad ydych yn rhedeg busnes, fel arfer, bydd yn rhaid i chi gadw'ch cofnodion am o leiaf 22 mis o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Er enghraifft, ni ddylid dinistrio ffurflen P60 ar gyfer blwyddyn dreth 2006-07 tan ar ôl 31 Ionawr 2009.
Fe'ch cynghorir i gadw dogfennau sy'n gysylltiedig â phrynu neu wella asedau tan o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth pan wnaethoch chi gael gwared ar yr ased. Bydd y dogfennau hyn yn eich helpu i gyfrifo unrhyw golledion neu enillion cyfalaf ac i ateb unrhyw ymholiadau sydd gan Gyllid a Thollau EM.
Er enghraifft, os byddwch yn cael gwared ar ased ym mis Chwefror 2007 rhaid i chi gadw unrhyw gofnodion sy'n gysylltiedig â'i brynu, ei wella neu gael gwared arno tan ar ôl 31 Ionawr 2009.
Os yw'ch cofnodion ar goll neu os cânt eu dinistrio ac na allwch gael rhai newydd yn eu lle rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM beth sydd wedi digwydd a gwneud eich gorau i'w hail-greu.
Wedi i chi gasglu gwybodaeth i gymryd lle'r wybodaeth honno dylech ei defnyddio i lenwi eich ffurflen dreth. Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM a yw unrhyw ffigurau dros dro:
Os byddwch yn gwneud addasiadau yn nes ymlaen ac nad ydych wedi talu digon o dreth efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau.