Os oes rhaid i chi anfon ffurflen dreth Hunanasesu i Gyllid a Thollau EM, gallwch wneud hynny ar-lein erbyn hyn. Pan fyddwch yn anfon eich ffurflen dreth ar-lein cyfrifir eich ffigurau'n awtomatig. Rydych hefyd yn cael gwybod yn syth faint o dreth sy'n ddyledus gennych a faint o dreth sy'n ddyledus i chi, a gallwch weld eich cyfrif ar-lein 24 awr y dydd.
Mae llawer o fanteision i anfon eich ffurflen dreth ar-lein:
Opsiynau meddalwedd ar gyfer ffeilio ar-lein
Gallwch ddefnyddio meddalwedd ffeilio ar-lein Cyllid a Thollau EM (sy'n rhad ac am ddim) i ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein, neu gallwch ddefnyddio meddalwedd masnachol.
Gallwch ddarllen mwy am y gwahaniaeth rhwng y ddau drwy ddilyn y ddolen isod. Mae gweddill yr erthygl hon yn ymdrin â defnyddio meddalwedd Cyllid a Thollau EM.
Defnyddio meddalwedd ar-lein Cyllid a Thollau EM
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth arall sydd ar gael ar-lein i unigolion, er enghraifft Budd-dal Plant, TAW ar-lein neu Gredydau Treth, darllenwch yr adran isod - 'Os ydych chi eisoes wedi defnyddio gwasanaeth ar-lein arall'.
Os dyma'r tro cyntaf i chi ddefnyddio un o wasanaethau ar-lein y llywodraeth i unigolion, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesu ar-lein, cael 'Rhif Adnabod Defnyddiwr' (User ID) ac wedyn aros i gael 'PIN Cychwyn' (Activation PIN). Caiff hwn ei anfon atoch drwy'r post gan Borth y Llywodraeth (y gwasanaeth cofrestru canolog ar gyfer gwasanaethau ar-lein y llywodraeth).
Nod y PIN Cychwyn yw eich amddiffyn drwy sicrhau diogelwch llwyr gyda'n gwasanaethau ar-lein. Gan fod y PIN yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cartref (a fydd ar ffeil gennym yn barod) gall y llywodraeth sicrhau mai dim ond chi fydd yn galluogi'r cyfrif.
Sicrhewch fod yr wybodaeth ganlynol wrth law gennych:
Dilynwch y ddolen isod a dewis 'Cofrestru' yn yr adran Defnyddiwr Newydd.
Dewiswch 'Hunanasesu Ar-lein' fel y gwasanaeth yr ydych am gofrestru ar ei gyfer.
Dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n ymddangos ar y sgrin (byddant yn cynnwys darllen a derbyn y Telerau a'r Amodau, a chreu cyfrinair o'ch dewis chi).
Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru, caiff eich Rhif Adnabod Defnyddiwr unigryw a'ch PIN Cychwyn eu hanfon atoch drwy'r post gan Borth y Llywodraeth. Gallant gymryd hyd at saith diwrnod gwaith i gyrraedd. (Bydd eich Rhif Adnabod Defnyddiwr hefyd yn ymddangos ar y sgrin yn ystod y broses gofrestru.)
Cam pump
Ar ôl i chi gael eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a'ch PIN Cychwyn, bydd angen i chi fynd yn ôl i wefan Cyllid a Thollau EM a dewis Hunanasesu Ar-lein o'r adran 'ei wneud ar y we' a chyflwyno'ch hun gan ddefnyddio eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a'r cyfrinair yr ydych wedi'i ddewis.
Wedyn, dilynwch y cyfarwyddiadau i roi cychwyn ar y broses Hunanasesu Ar-lein. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod. Ar ôl y cyfnod hwn ni fydd eich PIN Cychwyn yn ddilys. Ar ôl i chi ddefnyddio'r PIN Cychwyn am y tro cyntaf i ddechrau defnyddio'r gwasanaeth gallwch gael gwared â'r PIN cychwyn.
Gallwch ddefnyddio'r un Rhif Adnabod Defnyddiwr a'r un cyfrinair i 'gofrestru' ar gyfer gwasanaethau ar-lein eraill i unigolion, er enghraifft Budd-dal Plant Ar-lein neu TAW Ar-lein.
Yn yr achos hwn dilynwch y ddolen isod a chyflwyno'ch hun gan ddefnyddio'r Rhif Adnabod Defnyddiwr a'r cyfrinair sydd gennych eisoes, yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gofrestru ar gyfer Hunanasesu Ar-lein. Byddwch yn cael PIN Cychwyn drwy'r post o fewn saith diwrnod gwaith. Dilynwch gam pump uchod er mwyn dechrau defnyddio'r gwasanaeth.
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ond wedi anghofio neu wedi colli eich Rhif Adnabod Defnyddiwr neu'ch cyfrinair, ewch i dudalen gyflwyno gwasanaethau ar-lein (gweler y ddolen isod), a dilynwch y ddolen 'wedi colli eich Rhif Adnabod Defnyddiwr' (lost user id) neu 'wedi colli eich cyfrinair' (lost password) dan y pennawd 'defnyddwyr presennol' (existing users).
At ddibenion diogelwch bydd angen i chi ateb nifer o gwestiynau cyn y rhoddir Rhif Adnabod Defnyddiwr neu gyfrinair newydd i chi. Bydd Porth y Llywodraeth yn anfon Rhif Adnabod Defnyddiwr neu gyfrinair newydd i chi naill ai ar-lein os oes gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer Cyfrif Llywodraeth neu gyda phost dosbarth cyntaf i'r cyfeiriad sydd gennym ar ein cofnodion ni.
Os ydych wedi colli eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a'ch cyfrinair ffoniwch Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein (gweler 'Cefnogaeth Ar-lein' isod).
I gael gwybodaeth am broblemau technegol gyda Hunanasesu Ar-lein, gan gynnwys manylion ynghylch y gwasanaeth sydd ar gael, dilynwch y ddolen isod i dudalen 'Problemau gyda'r gwasanaeth' Cyllid a Thollau EM. Mae'r dudalen yn rhoi manylion unrhyw broblemau gyda'r gwasanaeth ac yn egluro sut y delir â hwy.
Mae ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein yn ddiogel ac yn gyfleus. Bydd unrhyw wybodaeth breifat neu sensitif y byddwch yn ei ffeilio ar-lein gyda Chyllid a Thollau EM yn cael ei hamgryptio a'i diogelu gan eich Rhif Adnabod Defnyddiwr unigryw a'r cyfrinair nad oes neb arall yn eu gwybod.
Mae'n bwysig nad ydych byth yn dweud wrth neb beth yw'ch cyfrinair - ni fydd Cyllid a Thollau EM byth yn gofyn i chi am eich cyfrinair dros y ffôn na drwy neges e-bost.
Cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM i gael cymorth a chyngor am y gwasanaeth Hunanasesu Ar-lein. Mae'r llinell gymorth yn cynnig cymorth a chyngor ar broblemau ynghylch defnyddio'ch cyfrifiadur, ac am y gwasanaeth ar-lein ei hun.
Ffôn: 0845 60 55 999 (Minicom: 0845 366 7805).
Ar agor saith diwrnod yr wythnos, rhwng 8.00 am a 8.00 pm. Ar Gau: Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
E-bost:
helpdesk@ir-efile.gov.uk (Mae'r gwasanaeth e-bost yn darparu atebion awtomatig i rai ymholiadau 24 awr y dydd.)