Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Oes angen i chi lenwi ffurflen dreth?

Os yw eich materion treth yn gymharol syml ac rydych eisoes yn talu drwy TWE (Talu Wrth Ennill) mae'n debyg na fydd angen ichi lenwi ffurflen dreth. Ond os yw eich materion treth yn fwy cymhleth - neu os oes gennych incwm o sawl ffynhonnell - efallai y bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen dreth.

Pwy sydd angen lenwi ffurflen dreth?

  • pobl hunangyflogedig (gan gynnwys aelodau o bartneriaeth)
  • cyfarwyddwyr cwmni
  • gweinidogion yr efengyl (unrhyw ffydd)
  • pobl sy'n cael rhent neu incwm o dir ac eiddo yn y DU (ond os ydych yn gyflogai a'r incwm hwn yn llai na £2,500 y flwyddyn, efallai na fydd yn rhaid llenwi ffurflen dreth)
  • pobl gydag incwm di-dreth arall ac nad oes modd casglu'r dreth sy'n daladwy arno trwy god treth TWE (PAYE)
  • pobl gydag incwm tramor trethadwy hyd yn oed os nad ydynt yn preswylio'n arferol yn y DU (mae hyn yn cynnwys landlordiaid di-breswyl)
  • unrhyw un sy'n derbyn (neu y gellir ei drin fel person sy'n derbyn) incwm yn flynyddol gan ymddiriedolaeth neu setliad, neu unrhyw incwm o ystad person ymadawedig, a bod rhagor o dreth i'w thalu ar yr incwm hwnnw
  • ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr personol (gan gynnwys pobl sy'n rheoli materion ariannol pobl sydd wedi marw)
  • ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn penodol
  • enwau neu aelodau Lloyd's
  • gweithwyr a phensiynwyr gyda materion treth mwy cymhleth - gweler isod


Cofiwch, os oes gennych chi unrhyw incwm nad yw'n cael ei drethu yn y ffynhonnell, er enghraifft, rhenti neu enillion ar eu liwt eu hunain, efallai y bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen dreth.

Gweithwyr a phensiynwyr gyda materion treth mwy cymhleth

Bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth:

  • os oes gennych chi incwm blynyddol o £100,000 neu ragor
  • os oes gennych chi incwm blynyddol o gynilion neu fuddsoddiadau o £10,000 neu fwy (cyn treth)
  • os byddwch yn hawlio yn erbyn treth am dreuliau neu danysgrifiadau proffesiynol o £2,500 neu fwy
  • os oes gennych incwm di-dreth o £2,500 neu fwy (er y bydd rhai pensiynwyr o bosibl yn gallu talu'r dreth ar hwn drwy eu cod treth TWE)
  • os oes arnoch chi dreth ar ddiwedd y flwyddyn nad oes modd ei chasglu trwy newid eich cod treth TWE ar gyfer y flwyddyn ddilynol

Os ydych dros 65 oed, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn ichi lenwi ffurflen dreth er mwyn iddynt allu cyfrifo faint o lwfans personol uwch neu lwfans pâr priod y dylech ei dderbyn.

Enillion cyfalaf

Efallai y bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth os oes gennych 'enillion cyfalaf' (elw o werthu rhai asedau) sydd werth mwy na'r swm eithriedig blynyddol. Ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 y swm yw £9,600. Efallai y bydd angen ichi lenwi ffurflen hefyd os cawsoch wared ar (e.e. gwerthu neu roi i ffwrdd) asedau trethadwy sydd werth bedair gwaith yn fwy na'r swm eithriedig blynyddol.

Sut i gael ffurflen dreth

Os nad ydych wedi derbyn ffurflen dreth ond yn teimlo y dylech fod yn llenwi un, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth. Cewch y manylion gan eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn, neu gallwch chwilio ar-lein.

Gallwch ofyn am ffurflen dreth unrhyw bryd - er enghraifft, os ydych eisiau hawlio gostyngiad neu eithriad treth neilltuol. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai yr anfonir ffurflen dreth bedair tudalen fer atoch, neu ffurflen lawn. Gallwch lenwi'r ffurflen dreth lawn ar-lein.

Os ydych yn derbyn ffurflen dreth, a oes angen ichi ei llenwi?

Oes - hyd yn oed os ydych yn talu'ch holl dreth drwy TWE. Mae rhesymau eraill weithiau dros roi ffurflen dreth, er enghraifft i ganfod a yw'r dreth gywir wedi'i thalu'n gyffredinol. Felly, os byddwch yn derbyn ffurflen dreth, rhaid ichi ei llenwi a'i dychwelyd hyd yn oed os ydych o'r farn nad oes rhagor o dreth i'w thalu.

Dyddiadau allweddol y flwyddyn dreth

Os byddwch yn hwyr yn dychwelyd eich ffurflen dreth, bydd rhaid ichi dalu dirwy, a llog o bosib ar unrhyw dreth sy'n ddyledus. Mae'n bwysig felly gwybod beth yw'r dyddiadau cau:

  • 30 Hydref yw'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth bapur os ydych am i Gyllid a Thollau EM gyfrifo faint o dreth sydd arnoch chi iddynt (wrth ffeilio ar-lein mae'ch treth yn cael ei chyfrifo'n awtomatig ar y sgrin)
  • 30 Rhagfyr yw'r dyddiad cau ar gyfer ffeilio ar-lein os ydych am i Gyllid a Thollau EM (os yw'n bosibl a phryd yr ydych yn gwneud y cais) gasglu'r dreth sydd arnoch chi sydd yn llai na £2,000 trwy eich cod treth TWE
  • 31 Ionawr yw'r dyddiad cau terfynol ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth ar-lein
  • 31 Ionawr a 31 Gorffennaf yw'r dyddiadau dau ar gyfer dalu'ch treth

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU