Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut caiff budd-daliadau eu trethu

Bydd rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn cyfri fel incwm ar gyfer treth ac eraill ddim. Mae'n bwysig deall beth sy'n cyfri a beth nad yw'n cyfri at ddibenion treth - er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm treth iawn.

Budd-daliadau trethadwy

Os ydych chi'n drethdalwr sy'n llenwi ffurflen Hunanasesu, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynnwys unrhyw fudd-daliadau trethadwy rydych chi'n eu derbyn yn eich incwm cyffredinol. Y budd-daliadau trethadwy mwyaf cyffredin yw:

  • Lwfans Profedigaeth
  • rhai taliadau Budd-dal Analluogrwydd - nid yw'r rhain yn drethadwy yn ystod y 28 wythnos gyntaf
  • rhai taliadau Cymhorthdal Incwm - nid yw'n drethadwy os nad ydych chi wedi'ch cofrestru'n ddi-waith a'ch bod yn chwilio am waith
  • pensiynau sy'n daladwy dan y cynllun Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Lwfans Gofalwr - nid yw ychwanegiadau plant dibynnol yn drethadwy
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • pensiwn ymddeol - mae Pensiwn y Wladwriaeth yn drethadwy, ond yn wahanol i bensiynau cwmni, caiff ei dalu i chi heb dynnu'r dreth, felly rhaid i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth eich bod yn ei dderbyn
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Budd-daliadau nad oes rhaid talu treth arnynt

Does dim rhaid i chi dalu treth ar rai budd-daliadau. Y budd-daliadau mwyaf cyffredin nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt yw:

  • Lwfans Gweini
  • Bonws Dychwelyd i'r Gwaith
  • Taliad Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Arbennig Plentyn
  • Credydau Treth Plant
  • Taliadau Tywydd Oer
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Tai
  • Y Budd-dal Analluogrwydd am y 28 wythnos cyntaf
  • Cymhorthdal Incwm - mae hwn yn drethadwy os ydych chi ar streic yn ystod anghydfod llafur
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluedd - a ddisodlwyd gan Fudd-dal Analluogrwydd o fis Ebrill 1995 ymlaen ond sy'n dal i fod yn daladwy os dechreuodd yr analluedd cyn mis Ebrill 1995
  • Lwfans Mamolaeth
  • Bonws Nadolig i Bensiynwyr
  • Lwfans Enillion Is
  • Lwfans Ymddeol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Taliadau'r Gronfa Gymdeithasol (a benthyciadau di-log) i bobl ar incwm isel i'w helpu gyda chostau mamolaeth, costau angladd, caledi ariannol ac ar ffurf grantiau gofal yn y gymuned
  • Pensiwn Gweddw Ryfel - os ydych chi'n gymwys i gael Pensiwn Gweddw Ryfel ond nad ydych chi'n derbyn y taliad, neu eich bod yn derbyn llai o daliad oherwydd eich bod yn cael budd-dal arall, mae'n bosib na fydd rhaid i chi dalu treth ar rywfaint o'r budd-dal arall
  • Taliad Tanwydd Gaeaf
  • Credyd Treth Gwaith

Rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth beth sy'n digwydd

Os byddwch chi'n dechrau cael budd-daliadau neu'r taliadau'n dod i ben, fe allai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â'ch Swyddfa Dreth, ac wedyn byddan nhw'n gallu addasu'ch cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod wastad yn talu'r hyn sy'n ddyledus - dim mwy a dim llai.

Os ydych chi eisoes yn talu treth

Os bydd eich budd-daliadau trethadwy'n dod i ben, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth, fel na fyddwch chi'n talu gormod o dreth.

Os byddwch chi'n dechrau cael budd-daliadau newydd, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth - yna, os yw'r budd-daliadau hynny'n drethadwy, byddwch chi'n osgoi sefyllfa lle bydd y dreth sy'n ddyledus yn cronni.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU