Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut gaiff incwm eich pensiwn ei drethu

Mae Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw bensiwn cwmni neu bersonol a gewch chi'n drethadwy. Fel arfer, telir Pensiwn y Wladwriaeth heb dynnu'r dreth, ond gan amlaf bydd y dreth yn cael ei thynnu oddi ar bensiwn cwmni a phensiwn personol cyn i chi eu cael. Mae sut y byddwch chi'n talu treth ar incwm eich pensiwn yn dibynnu ar ba fath o bensiwn sydd gennych a'ch incwm trethadwy cyffredinol. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio treth yn ôl.

Treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn incwm trethadwy, hyd yn oed os yw'n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich gŵr neu (lle bo'n gymwys) eich partner sifil. Ond rydych yn ei dderbyn heb fod unrhyw dreth wedi'i didynnu.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn rhoi gwybod i'ch swyddfa dreth fel mater o drefn pan fyddwch yn dechrau cael eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Ond efallai y bydd oedi, ac felly mae'n syniad da rhoi gwybod iddynt eich hun - i osgoi cronni taliadau treth os oes gennych dreth i'w thalu.

Ydych chi wastad yn talu treth?

Os yw eich incwm, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth ac unrhyw bensiynau eraill yr ydych yn eu derbyn, yn llai na'ch lwfansau treth, fyddwch chi ddim yn talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth.

Os yw eich incwm yn fwy na'ch lwfansau treth, bydd angen ichi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd y swm yn cael ei gyfrifo gan eich swyddfa dreth.

Sut i dalu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth

Os ydych eisoes yn cael pensiwn arall

Os ydych yn cael pensiwn arall, byddwch fel arfer yn talu treth ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth trwy gynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) darparwr y pensiwn hwnnw (bydd eich swyddfa dreth yn gyrru cod treth newydd i'ch darparwr pensiwn i ddangos iddynt faint y dylid ei dynnu). Gallai hyn wneud i'r dreth ar eich pensiwn cwmni neu bersonol ymddangos yn anghyffredin o uchel.

Os oes gennych fwy nag un pensiwn, bydd eich swyddfa dreth yn ceisio casglu'r holl dreth sy'n ddyledus oddi wrth un darparwr. Ond efallai y bydd yn rhaid iddynt gasglu ychydig oddi wrth bob un.

Os nad ydych yn cael pensiwn arall

Os nad ydych yn cael pensiwn arall, byddwch yn talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth mewn un o ddwy ffordd:

  • os ydych yn gweithio, byddwch yn talu treth trwy gynllun TWE eich cyflogwr
  • os nad ydych yn gweithio, byddwch yn talu treth trwy Hunanasesiad (os nad ydych eisoes yn talu treth trwy'r drefn Hunanasesu, gofynnwch i'ch swyddfa dreth am ffurflen dreth)

Gwneud yn siŵr bod eich cod treth yn gywir

Byddwch yn derbyn 'Hysbysiad cod' P2 gan eich swyddfa dreth o leiaf unwaith y flwyddyn yn dweud eich cod treth wrthych. Mae'n bwysig gwirio hwn i wneud yn siŵr ei fod yn dangos y swm cywir o Bensiwn gan y Wladwriaeth.

Treth ar incwm o bensiwn cwmni neu bensiwn preifat a agorwyd ar ôl Gorffennaf 1988

Telir incwm o'r cynlluniau hyn gan eich darparwr pensiwn trwy'r system TWE (PAYE) gyda'r dreth wedi'i didynnu eisoes. Bydd eich swyddfa dreth yn anfon eich rhif cod treth at eich darparwr pensiwn, yn dweud wrthynt faint i'w ddidynnu (gan gynnwys unrhyw dreth sy'n daladwy ar Bensiwn y Wladwriaeth) a'r lwfansau personol i'w hystyried.

Byddwch yn cael P60 ar ddiwedd y flwyddyn dreth yn dangos eich pensiwn a faint o dreth a ddidynnwyd. Cadwch hwn rhag ofn y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth neu hawlio treth yn ôl.

Treth ar incwm o flwydd-daliadau ymddeol

Os daw eich pensiwn o gynllun pensiwn a sefydlwyd cyn Gorffennaf 1988, mae'n cael ei alw'n 'flwydd-dal ymddeol' a bydd eich darparwr pensiwn yn didynnu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) o'ch pensiwn cyn ichi ei dderbyn:

  • os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, bydd rhaid i chi dalu rhagor o dreth drwy Hunanasesiad
  • os nad ydych yn talu treth, neu nad yw'r incwm nad yw’n dod o’ch cynilion (pensiynau, budd-daliadau nawdd cymdeithasol trethadwy, elw masnachu neu incwm o eiddo), ar ôl tynnu lwfansau personol, yn fwy na chyfradd gychwynnol y terfyn cynilo (£2,320 ar gyfer 2008-09), gallwch gysylltu â'ch swyddfa dreth i hawlio treth yn ôl
  • os nad ydych yn talu treth efallai y gellir talu'ch blwydd-dal heb i'r dreth gael ei didynnu - gofynnwch i'ch darparwr pensiwn am ffurflen R89 - os yw'n flwydd-dal ar y cyd bydd angen ffurflen R86, y gallwch ei llwytho oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM

Newidiadau o Ebrill 2007

Ar ôl 6 Ebrill 2007, darparwr y blwydd-dal fydd yn talu'ch blwydd-daliadau ymddeol i chi trwy gyfrwng y system Talu Wrth Ennill. Bydd y dreth eisoes wedi cael ei thynnu. Bydd eich swyddfa dreth yn anfon eich rhif cod treth at ddarparwr eich blwydd-dal, yn dweud wrthynt faint i'w ddidynnu (gan gynnwys unrhyw dreth sy'n daladwy ar Bensiwn y Wladwriaeth) a'r lwfansau personol i'w hystyried.

Byddwch yn cael P60 ar ddiwedd y flwyddyn dreth yn dangos eich blwydd-dal a faint o dreth a ddidynnwyd. Cadwch hwn rhag ofn y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth neu hawlio treth yn ôl

Sut y trethir eich pensiynau os ydych yn ymddeol dramor?

Bydd rhaid talu treth ar eich pensiynau o'r DU o hyd onid oes 'cytundeb trethiant dwbl' (ar gyfer pensiynau) gyda'r wlad lle rydych yn byw. Os oes cytundeb, byddwch fel arfer yn talu treth yn y wlad honno.

Os ydych yn cael pensiwn am wasanaeth cyhoeddus - pensiwn gwasanaeth sifil neu'r lluoedd arfog efallai - bydd yn cael ei drethu fel arfer yn y DU. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth i hawlio eich lwfansau di-dreth personol.

I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Breswylfa Cyllid a Thollau EM ar 0845 0700 040 (neu 029 2032 5058 os buoch yn gweithio i'r llywodraeth) rhwng 7.30 am a 5.00 pm (o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc).

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gyllid a Thollau EM

Pryd bynnag y byddwch yn dechrau cael pensiwn newydd, dywedwch wrth eich swyddfa dreth - bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU