Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar bensiynau cwmni, pensiynau personol neu bensiynau tramor

Mae unrhyw bensiwn cwmni, pensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) neu bensiwn tramor yn drethadwy. Mae sut y byddwch chi'n talu treth ar incwm eich pensiwn, ac a fyddwch yn gorfod gwneud hynny ai peidio, yn dibynnu ar ba fath o bensiwn a gewch ac ar gyfanswm eich incwm trethadwy ar ôl eich lwfansau di-dreth.

Faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar incwm eich pensiwn?

Bydd faint o dreth (os o gwbl) y byddwch yn ei thalu ar incwm eich pensiwn yn dibynnu ar gyfanswm yr incwm trethadwy sydd gennych.

Gallai eich incwm trethadwy gynnwys:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • incwm o bensiwn personol, pensiwn cwmni, pensiwn cyfranddeiliaid ac/neu flwydd-dal ymddeol
  • unrhyw Fudd-daliadau'r Wladwriaeth sy'n drethadwy y gallech fod yn gymwys i'w cael
  • cynilion neu fuddsoddiadau
  • incwm o swydd os ydych yn gweithio ar ôl oed Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw'ch incwm trethadwy yn uwch na'ch lwfansau treth byddwch yn talu treth ar rywfaint neu ar y cyfan o incwm eich pensiwn yn unol â'r cyfraddau Treth Incwm presennol. Os yw'ch incwm trethadwy yn hafal i'ch lwfansau neu'n llai na hwy ni fyddwch yn talu dim treth ar incwm eich pensiwn.

Sut mae talu treth ar bensiynau cwmni a phensiynau personol, gan gynnwys blwydd-daliadau ymddeol

Telir yr incwm o bob math o'r cynlluniau pensiwn hyn gan ddarparwr y pensiwn neu'r blwydd-dal. Bydd y dreth eisoes wedi'i thynnu drwy'r System Talu Wrth Ennill.

Bydd eich Swyddfa Dreth yn anfon eich cod treth at y darparwr yn dweud wrthynt faint o dreth i'w thynnu (gan gynnwys unrhyw dreth y mae angen ei thalu ar Bensiwn y Wladwriaeth), gan ystyried eich lwfansau treth (gweler y ddolen isod).

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth cewch ffurflen P60 sy'n dangos eich pensiwn a faint o dreth a dynnwyd. Cadwch hon rhag ofn y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth neu angen hawlio treth yn ôl. Dilynwch y dolenni isod i ddeall mwy.

Treth ar incwm o flwydd-daliadau ymddeol cyn 6 Ebrill 2007

Bydd yn rhaid talu treth ar eich pensiynau o'r DU ac ar eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn y DU o hyd onid oes 'cytundeb trethiant dwbl' (ar gyfer pensiynau) gyda'r wlad yr ydych wedi penderfynu byw ynddi. Os oes cytundeb, byddwch fel arfer yn talu treth yn y wlad honno.

Os ydych yn cael pensiwn am wasanaeth cyhoeddus - pensiwn athro, nyrs, gwasanaeth sifil neu'r lluoedd arfog efallai - bydd yn cael ei drethu fel arfer yn y DU. Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu i hawlio eich lwfansau di-dreth personol.

Am fwy o fanylion ffoniwch linell Preswylio Cyllid a Thollau EM ar 0845 0700 040 (+44 151 210 2222 os ydych chi'n ffonio o dramor) rhwng 7.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau'r Banc).

Sut y trethir eich pensiynau os ydych yn ymddeol dramor?

Treth ar bensiynau tramor

Os ydych yn cael pensiwn gan wlad dramor a chithau'n byw yn y DU bydd rheolau treth y DU yn berthnasol iddo. Bydd faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar incwm tramor yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' ynteu â'ch 'domisil' yn y DU. Darllenwch yr erthyglau cysylltiedig isod i gael gwybod mwy.

Rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth beth sy'n digwydd

Pryd bynnag y byddwch yn dechrau cael pensiwn newydd, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth - bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU