Os ydych yn gosod eiddo preswyl bydd rhaid ichi gadw cofnodion o'r rhent a dderbyniwyd a'ch costau er mwyn cyfrifo'r elw y byddwch yn talu treth arno. Rydych yn cyfrifo'ch elw trethadwy trwy dynnu'ch costau a rhai lwfansau arbennig o'ch incwm rhent.
Bydd angen ichi gadw'r un math o gofnodion pa fath bynnag o fusnes gosod eiddo sydd gennych - gosod eiddo preswyl neu lety gwyliau, yn y DU neu dramor. Dylent gynnwys manylion eich:
I ategu'r cofnodion, cadwch lyfrau rhent, derbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc.
Bydd angen i chi gofnodi:
Dylai eich cofnodion gynnwys manylion eich holl gostau o osod neu reoli'ch eiddo. Mae'r costau a ganiateir yn lleihau eich elw trethadwy. Maent yn cynnwys y cyfan neu ran o'r costau hyn:
Sicrhewch y gallwch wahanu'ch busnes o'ch costau personol.
Gallwch leihau eich elw trethadwy drwy hawlio gwahanol fathau o lwfansau ar gyfer cost dodrefn ac offer yr ydych yn eu darparu gyda'r eiddo.
Hefyd, efallai y gallwch ddidynnu rhai lwfansau 'cyfalaf' ar gyfer cost offer sy'n gysylltiedig yn fwy cyffredinol â'ch busnes gosod.
Bydd angen ichi gofnodi beth yw cost yr holl bethau hyn a phryd y prynwyd hwy.
I ategu'r cofnodion, cadwch lyfrau rhent, derbynebau, anfonebau a chyfriflenni banc. Hefyd, sicrhewch y gallwch wahanu'ch busnes o'ch costau personol.
Os yw eich holl incwm o eiddo yn y DU yn llai na £15,000 y flwyddyn cyn costau, gallwch gyfuno'r costau fel un cyfanswm ar eich ffurflen dreth. (Efallai y gallwch lenwi'r ffurflen dreth fer hefyd.) Os yw'n £15,000 neu fwy, bydd angen ichi eu dangos ar wahân a llenwi'r ffurflen dreth lawn.
Gall eich Swyddfa Dreth ofyn am gael gweld eich cofnodion unrhyw bryd. Felly, cadwch y wybodaeth fanwl hyd yn oed os yw eich incwm yn llai na £15,000.
Os ydych yn gyflogedig a'ch incwm trethadwy o eiddo yn llai na £2,500, gellir addasu eich cod treth Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE) er mwyn casglu'r dreth ar eich incwm rhent. Bydd eich Swyddfa Dreth yn anfon ffurflen P810 atoch er mwyn ichi roi gwybod iddynt beth yw eich incwm bob blwyddyn.
Fodd bynnag, bydd angen ichi gadw cofnodion o hyd, i'ch galluogi i lenwi ffurflen P810. Hefyd, gall eich Swyddfa Dreth ofyn am gael gweld eich cofnodion i wirio'ch ffigurau.
Os yw eich incwm o rentu yn £2,500 neu fwy, bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth.
Bydd angen ichi gadw'r cofnodion am chwe blynedd ar ôl y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi - pa un a ydych yn llenwi ffurflen dreth neu beidio.
Os ydych yn defnyddio'r cynllun Rhentu Ystafell, does dim rhaid ichi gadw cofnod o'ch costau - allwch chi ddim hawlio'r rhain dan y cynllun. Ond os bydd eich rhent yn mynd dros y terfyn (£4,250) gallwch ddewis talu treth ar yr holl rent ar ôl tynnu'ch costau. Felly, mae'n werth gadw cofnod o'ch incwm a'ch costau beth bynnag. Gallwch ddarllen mwy am ddewis defnyddio'r cynllun neu beidio yn ein prif erthygl.
Os byddwch yn gwerthu neu'n cael gwared ar eich eiddo nad yw'n brif gartref i chi a bod ei werth wedi cynyddu ers i chi ei gael, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Gellir didynnu rhai o'ch costau mewn perthynas â'r eiddo wrth gyfrifo'ch elw, ac felly bydd angen cofnod o'r canlynol:
Efallai y gallwch dderbyn gostyngiadau neu lwfansau eraill yn dibynnu ar ers faint yr ydych yn berchen ar yr eiddo ac a fu'n brif gartref ichi erioed.
Os oes gennych un lletywr, ni fydd hyn yn effeithio ar eich hawl i gael gostyngiad pan fyddwch yn gwerthu'ch prif gartref, ond rhaid iddynt fyw fel rhan o'ch teulu. Os oes gennych fwy nag un lletywr, ystyrir eich bod yn gosod rhan o'ch cartref ac efallai y bydd yn rhaid ichi dalu rhywfaint o Dreth Enillion Cyfalaf (TEC).
Os oedd yr eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes gosod llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU, mae gostyngiadau TEC arbennig.
Bydd angen ichi gadw cofnodion eraill hefyd i ddangos bod eich eiddo'n ddiogel i'w osod.