Os ydych yn gosod eiddo, gallwch ddidynnu rhai costau a lwfansau treth o'ch incwm rhent i gyfrifo'ch elw trethadwy (neu golled). Os ydych yn gosod sawl eiddo preswyl yn y DU, gallwch gronni'ch incwm a'ch costau gyda'i gilydd. Ond rydych yn cyfrifo'ch elw o osod llety gwyliau a gosod llety tramor ar wahân.
Mae'r costau y gallwch eu didynnu o incwm gosod (onid yw'n dod o dan y cynllun Rhentu Ystafell) yn cynnwys:
Os yw eich incwm blynyddol o osod yn llai na £15,000 (cyn didynnu costau) rydych yn cynnwys cyfanswm eich costau ar eich ffurflen dreth; os yw'n £15,000 neu fwy bydd angen ichi eu darparu ar wahân.
Cofiwch mai dim ond costau sy'n ymwneud â rhedeg eich busnes gosod eiddo yn unig y gallwch eu hawlio. Os yw'r gost ond yn rhannol ar gyfer rhedeg eich busnes (neu os ydych yn defnyddio'r eiddo eich hun) efallai mai dim ond rhan ohoni y gallwch ei hawlio.
Wrth ichi gyfrifo'ch elw, allwch chi ddim didynnu:
Ond efallai y gallwch hawlio rhai mathau o lwfansau.
Efallai y gallwch hawlio gwahanol fathau o lwfansau ar gyfer eich costau cyfalaf. Mae costau cyfalaf yn cynnwys yr hyn y byddwch yn ei wario ar asedau megis dodrefn a pheiriannau. Mae'r lwfansau y gallwch eu hawlio ar gyfer rhai o'ch costau cyfalaf yn amrywio yn ôl y math o eiddo a osodir.
Ar gyfer dodrefn a chyfarpar a ddarperir wrth osod eiddo preswyl wedi'i ddodrefnu (heb gynnwys llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU) gallwch hawlio lwfans 'traul'. Mae'r lwfans yn 10 y cant o'r 'rhent net' - sef y rhent a dderbynnir llai unrhyw gostau a dalwch y byddai tenant yn eu talu fel arfer.
Yn hytrach na'r lwfans traul, gallwch hawlio lwfans 'adnewyddu'. Mae hwn ar gyfer cost newid darnau o ddodrefn neu gyfarpar am rai newydd gan gynnwys eitemau bychain megis cytleri. I'w gyfrifo, cymerwch gost yr eitem newydd a didynnu ohoni:
Unwaith ichi ddewis pa un o'r ddau lwfans i'w hawlio ar gyfer eiddo, allwch chi ddim newid rhyngddynt o flwyddyn i flwyddyn.
Ar gyfer y math hwn o fusnes gosod, gallwch hawlio 'lwfans cyfalaf' ar gyfer cost pob eitem o ddodrefn a chyfarpar yr ydych yn eu darparu gyda'r eiddo. Neu gallwch hawlio lwfans adnewyddu (a esbonnir uchod). Allwch chi ddim hawlio lwfansau traul
Unwaith ichi wneud y dewis ar gyfer pob eitem, rhaid ichi lynu wrtho.
I weld sut mae lwfansau cyfalaf yn gweithio, darllenwch yr adran isod: 'Faint o lwfans cyfalaf y gallwch ei hawlio?'
Pa fath bynnag o fusnes gosod eiddo sydd gennych, gallwch hawlio lwfans cyfalaf ar gyfer cost y pethau sydd eu hangen arnoch i redeg y busnes gosod eiddo, megis offer glanhau a garddio. Gallwch hawlio hefyd am gyfarpar nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer un eiddo a osodir yn unig, megis boeler sy'n gwresogi mwy nag un eiddo.
Mae'r lwfans yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei brynu. Fel arfer gallwch hawlio 50 y cant o'r gost pan fyddwch yn ei brynu - ond weithiau gall fod yn 100 y cant ar gyfer rhai mathau o wariant sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Bob blwyddyn ar ôl hynny gallwch hawlio 25 y cant o'r hyn sy'n weddill. O bryd i'w gilydd, mae Cyllid a Thollau EM yn newid y canrannau. Didynnir y lwfans ynghyd â chostau eraill wrth gyfrifo'ch elw
Byddwch yn cael lwfansau llai os ydych yn defnyddio'r eitem yn breifat neu ar gyfer unrhyw beth arall ar wahân i'ch busnes.
Rhaid ichi ddyrannu'r costau i'r flwyddyn y maent yn berthnasol iddi - nid oes ots pryd yn union y byddwch yn eu talu. Weithiau efallai y bydd yn rhaid ichi ddyrannu rhan o'ch cost i un flwyddyn a rhan i flwyddyn arall.
Fel arfer, os yw eich busnes gosod yn gwneud colled, gallwch ei gario ymlaen i flwyddyn arall a'i osod yn erbyn unrhyw elw a wnewch yn y dyfodol o'r un busnes. Os ydych yn gosod llety gwyliau yn y DU, gallwch osod eich colled o'r busnes hwnnw yn erbyn eich holl incwm arall, nid eich incwm o eiddo yn unig.