Os byddwch yn prynu eiddo yn y DU dros bris neilltuol, bydd rhaid ichi dalu Treth Stamp ar Dir (Treth Stamp yn flaenorol). Codir hwn pan brynir tai, fflatiau a thir ac adeiladau eraill.
Disodlodd y Dreth Stamp ar Dir y Dreth Stamp ym mis Rhagfyr 2003 ac mae'n dreth ar y dogfennau sy'n trosglwyddo perchnogaeth eiddo. Pan fyddwch yn prynu eiddo, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu Treth Stamp ar Dir.
Does dim rhaid ichi dalu Treth Stamp ar Dir ar eiddo preswyl sy'n costio £125,000 neu lai (hyn mewn grym o 23 Mawrth 2006 ymlaen).
Uwchben y swm hwn byddwch yn talu rhwng un a phedwar y cant o'r pris prynu.
| Pris prynu eiddo preswyl | Cyfradd Treth Stamp ar Dir (canran o gyfanswm y pris prynu) |
|---|---|
| £0 - £125,000 | 0% |
| £125,001 - £250,000 | 1% |
| £250,001 - £500,000 | 3% |
| £500,001 neu fwy | 4% |
Gallwch weld cyfraddau cyfredol y Dreth Stamp ar Dir ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Mewn rhai ardaloedd, a elwir yn 'ardaloedd dan anfantais', mae rheolau arbennig ar gyfer y Dreth Stamp ar Dir. Mae oddeutu 2,000 o'r ardaloedd hyn yn y DU.
Does dim rhaid ichi dalu Treth Stamp ar Dir os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol i'r eiddo yr ydych yn ei brynu:
Gallwch fynd ar wefan Cyllid a Thollau EM i weld a yw'r eiddo yr ydych yn ei brynu mewn 'ardal dan anfantais'. (Bydd angen ichi sgrolio i lawr i ddefnyddio'r arf chwilio am god post.)
Fel prynwr yr eiddo, chi sy'n gyfrifol am gwblhau ffurflen prynu a gwerthu'r tir a thalu'r Dreth Stamp ar Dir.
Ond, yn ymarferol, eich cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig fydd yn gwneud hyn ichi fel arfer a'i anfon at Gyllid a Thollau EM ar eich rhan.
Dylech sicrhau bod y wybodaeth ar y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn cyn llofnodi'r datganiad.