Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y cynllun Rhentu Ystafell

Os oes lletywr gennych eisoes neu os ydych yn ystyried gosod ystafelloedd wedi'u dodrefnu yn eich cartref, gallwch dderbyn hyd at £4,250 y flwyddyn yn ddi-dreth (£2,150 os ydych yn gosod ar y cyd). Gelwir hyn yn gynllun Rhentu Ystafell.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Mae'r Cynllun Rhentu Ystafell yn gynllun eithrio dewisol sy'n gadael ichi dderbyn rhywfaint o incwm 'gros' yn ddi-dreth (derbynebau cyn costau) o osod llety wedi'i ddodrefnu yn eich unig neu brif gartref.

Pwy sy'n gallu manteisio ar y cynllun?

Gallwch ddewis manteisio ar y cynllun os ydych yn gosod llety wedi'i ddodrefnu yn eich unig gartref neu gartref y teulu i letywr. (Eich unig gartref neu gartref y teulu yw'r un lle rydych chi/eich teulu yn byw gan amlaf. Person sy'n talu i fyw yn eich cartref yw lletywr, weithiau gyda phrydau'n cael eu darparu, ac sy'n aml yn rhannu ystafelloedd y teulu.)

Gall lletywr ddefnyddio un ystafell neu lawr cyfan yn eich cartref. Ond nid yw'r cynllun yn gymwys os yw'ch cartref wedi'i droi'n fflatiau ar wahân yr ydych yn eu rhentu. Yn yr achos hwn, bydd angen ichi ddatgan eich incwm rhent i Gyllid a Thollau EM a thalu treth yn y ffordd arferol. Nid yw'r cynllun yn gymwys ychwaith os ydych yn gosod llety heb ei ddodrefnu yn eich cartref.

Oes raid ichi fod yn berchennog cartref?

Na. Gallwch ddewis manteisio ar y cynllun Rhentu Ystafell, pa un a ydych yn berchen ar y cartref neu'n rhentu eich cartref. Fodd bynnag, os ydych yn rhentu, dylech gael golwg ar eich prydles i weld a yw hyn yn cael ei ganiatáu.

Os ydych yn talu morgais, dylech edrych i weld a yw telerau ac amodau eich benthyciwr morgais a'ch yswiriwr yn gadael ichi gymryd lletywr.

Os ydych yn rhannu cartref a'r ddau ohonoch yn gosod ystafell neu ystafelloedd

Os yw'r ddau ohonoch yn gosod llety wedi'i ddodrefnu yn eich cartref ar y cyd, bydd gan y ddau ohonoch hawl i dderbyn hanner y lwfans (hyd at £2,125 ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009) heb dalu treth.

Os ydych yn darparu prydau a gwasanaeth golchi dillad

Os ydych yn codi am wasanaethau ychwanegol, bydd angen ichi ychwanegu'r taliadau yr ydych yn eu derbyn at y rhent, er mwyn cyfrifo cyfanswm eich derbynebau. Os byddwch yn cael mwy na chyfanswm o £4,250 y flwyddyn, bydd yn rhaid ichi dalu treth, hyd yn oed os yw'r rhent yn llai na hynny.

Manteision ac anfanteision y cynllun

Mae manteision ac anfanteision i'r cynllun - mater yw o ganfod beth sydd orau i chi.

Y prif bwynt i'w gofio yw na allwch chi, gyda'r Cynllun Rhentu Ystafell, hawlio unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r gosod (er enghraifft, traul, yswiriant, atgyweiriadau, goleuo a gwresogi).

I gyfrifo a fyddai'n well i chi ymuno â'r cynllun neu ddatgan eich holl incwm o osod a hawlio costau ar eich ffurflen dreth, bydd angen ichi gymharu'r canlynol:

  • faint o incwm sydd gennych yn weddill ar ôl eich costau
  • beth yw maint eich derbynebau (rhent ac unrhyw incwm o wasanaethau golchi dillad, prydau, ayb) dros £4,250 neu £2,125 os ydych yn gosod ar y cyd (blwyddyn dreth 2008-2009)

Os dewiswch beidio â defnyddio'r cynllun (neu wneud dim) byddwch yn talu treth incwm ar y swm cyntaf. Os byddwch yn dewis defnyddio'r cynllun, byddwch yn talu treth ar yr ail swm.

Cynllun Rhentu Ystafell a rhedeg busnes

Os ydych yn rhedeg busnes gwely a brecwast neu westy bach (guest house), neu'n darparu gwasanaethau arlwyo a glanhau fel rhan o fusnes gosod, gall y cynllun Rhentu Ystafell fod yn gymwys ichi o hyd. Bydd angen ichi lenwi rhannau perthnasol tudalennau hunangyflogaeth eich ffurflen dreth Hunanasesiad.

Sut i ymuno neu beidio ag ymuno â'r cynllun

Os ydych chi am ymuno

  • os nad ydych yn derbyn ffurflen dreth fel arfer a bod eich derbynebau o dan y trothwyon di-dreth ar gyfer y cynllun, mae'r eithriad treth yn awtomatig ac felly does dim rhaid ichi wneud dim
  • os ydych am ymuno â'r cynllun a'ch derbynebau'n fwy na'r trothwy di-dreth, rhaid ichi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth - gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen dreth a hawlio'r lwfans

Os nad ydych am ymuno

  • dylech lenwi ffurflen dreth cyn y dyddiad cau arferol a datgan yr incwm perthnasol o osod a'ch costau ar y tudalennau eiddo

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU