Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar incwm rhent - golwg gyffredinol

Os ydych yn gosod eiddo cyfan neu ran o eiddo (gan gynnwys eich cartref), mae sut y byddwch yn cael eich trethu ar y rhent yn dibynnu ar y math o eiddo sy'n cael ei osod. Os ydych yn gosod eiddo tramor, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu treth y DU ar yr incwm rhent os ydych yn preswylio yn y DU at ddibenion treth.

Treth ar osod eiddo preswyl

Mae gosod eiddo preswyl a brynwyd fel buddsoddiad yn cael ei drin fel rhedeg busnes, hyd yn oed os ydych ond yn gosod un eiddo. Ac os byddwch yn gosod mwy nag un eiddo yn y DU, byddant i gyd yn cael eu trin fel un busnes.

Pa un a ydych yn gosod un neu sawl eiddo, rydych yn cael eich trethu ar yr 'elw net' cyffredinol. Rydych yn cyfrifo hyn drwy:

  • adio'ch holl incwm rhent
  • adio'ch holl gostau sy'n cael eu caniatáu
  • tynnu'r costau a ganiateir o'r incwm

Trwy gyfrifo'r elw net fel hyn gallwch osod y golled a wneir ar un eiddo yn erbyn elw o eraill. Mae'ch elw net yn cael ei ystyried yn rhan o'ch incwm trethadwy cyffredinol.

Y cynllun 'Rhentu Ystafell'

Os ydych yn gosod llety wedi'i ddodrefnu yn eich cartref eich hun i letywr a bod cyfanswm eich derbynebau (rhent ac incwm o brydau, gwasanaeth golchi dillad ayb) yn £4,250 neu lai (£2,125 os ydych yn gosod ar y cyd), gallwch gael yr incwm hwn yn ddi-dreth dan y cynllun 'Rhentu Ystafell'.

Bydd rhaid ichi dalu treth ar unrhyw beth dros £4,250. Neu gallwch ddewis peidio â defnyddio'r cynllun petai'n well gennych dalu treth dan y rheolau ar gyfer gosod eiddo preswyl.

Gosod y cyfan neu ran o'ch cartref

Os ydych yn gosod eich cartref a chithau'n byw yn rhywle arall, cyfrifir eich elw o'r rhent yn yr un ffordd ag ar gyfer eiddo preswyl sy'n cael ei osod ac a brynwyd fel buddsoddiad.

Mae'r un rheolau'n berthnasol os ydych yn gosod rhan o'ch cartref y tu allan i'r cynllun 'Rhentu Ystafell'. Os ydych yn gosod rhan o'ch cartref fel hyn, gallwch gynnwys canran o gostau'r cartref megis nwy a thrydan wrth ichi gyfrifo'r costau a ganiateir.

Treth wrth osod llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU

Mae'r rheolau treth gyda golwg ar osod llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU yn wahanol i'r rheolau ar gyfer gosod eiddo preswyl. Mae'r rheolau'n gadael ichi:

  • leihau eich elw drwy hawlio 'lwfansau cyfalaf' ar gyfer cost dodrefn a gosodion sy'n cael eu darparu gennych yn yr eiddo yr ydych yn ei osod
  • gosod unrhyw golledion yn erbyn eich incwm cyffredinol - nid dim ond yn erbyn eich incwm rhent

Hefyd, pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo, efallai y gallwch fanteisio ar ostyngiadau ychwanegol a fydd yn gostwng eich bil Treth Enillion Cyfalaf.

Treth wrth osod llety tramor

Bydd rhaid ichi dalu treth ar incwm a gewch o osod llety tramor (pa un a ydych yn dod â'r arian i'r DU neu beidio) os ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol ac â'ch domisil' yn y DU. Os ydych yn 'preswylio' ond naill ai heb fod yn 'preswylio'n arferol' neu 'heb fod â'ch domisil' yn y DU, efallai mai dim ond ar yr arian y byddwch yn dod gyda chi i'r DU y bydd yn rhaid i chi dalu treth. I gael esboniad ar y termau hyn ac i gael gwybod mwy, darllenwch ein prif erthygl.

Os ydych eisoes wedi talu treth dramor ar yr incwm yr ydych wedi'i gael o osod, gallwch fel arfer roi hwn yn erbyn y dreth yn y DU y bydd yn rhaid ichi ei thalu arno.

Pa gofnodion y dylai landlordiaid eu cadw

Os byddwch yn gosod eiddo, bydd yn rhaid ichi gadw cofnodion o'ch incwm a'ch costau am o leiaf chwe blynedd - pa fath bynnag o fusnes gosod sydd gennych. Gall Cyllid a Thollau EM ofyn am gael gweld gwybodaeth ategol ar gyfer eich ffigurau unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.

Er na allwch hawlio costau pan fyddwch yn defnyddio'r cynllun Rhentu Ystafell, efallai ei bod yn werth cadw cofnodion manwl. Bydd angen y rhain arnoch os penderfynwch chi beidio â bod yn rhan o'r cynllun rywbryd yn ddiweddarach.

Datgan a thalu treth ar eich incwm rhent

Os yw eich incwm trethadwy o rent yn £15,000 neu fwy mewn blwyddyn dreth, rhaid ichi ei ddatgan ar y ffurflen dreth Hunanasesiad lawn. Os yw o dan £15,000 efallai y gallwch lenwi'r ffurflen dreth bedair tudalen fyrrach. Os yw o dan £2,500 efallai y gall eich Swyddfa Dreth gasglu unrhyw dreth sydd arnoch chi drwy TWE (Talu Wrth Ennill - PAYE) os ydych eisoes yn talu treth fel hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU