Os ydych yn gosod llety gwyliau wedi'i ddodrefnu yn y DU, mae'n bosibl y bydd eich incwm rhent yn cael ei drin yn wahanol i incwm rhent arall at ddibenion treth. Fodd bynnag, rhaid i'ch eiddo gydymffurfio â'r rheolau a elwir yn 'brofion cymhwyso'.
I wneud yn siur fod eich eiddo'n cyfrif fel llety gwyliau, rhaid iddo fod:
Rhaid i lety gwyliau ar osod fod (y ddau):
Allwch chi ddim gosod yr eiddo fel llety gwyliau i'r un person am fwy na 31 diwrnod yn y flwyddyn.
Fodd bynnag, os byddwch yn bodloni'r holl brofion cymhwyso mewn cyfnod o saith mis, does dim cyfyngiadau ar osod am gyfnodau hwy yn ystod y pum mis sy'n weddill. Ond ni fyddant yn cyfrif fel llety gwyliau ar osod.
Cyfrifir eich elw o osod llety gwyliau yn y DU yn yr un ffordd ag ar gyfer incwm rhent arall, ond eich bod yn hawlio 'lwfansau cyfalaf' yn hytrach na'r lwfans 'traul'.
Mae cost dodrefn ac offer megis rhewgelloedd a pheiriannau golchi yn enghreifftiau o gostau sy'n gymwys ar gyfer lwfansau cyfalaf.
Gallwch ddysgu mwy am lwfansau cyfalaf a chyfrifo elw wrth osod llety gwyliau yn y DU yn ein herthygl gysylltiedig ar gostau a lwfansau ac yn nodiadau cymorth tudalennau tir ac eiddo y ffurflen dreth Hunanasesiad.
Os nad yw eich eiddo'n cydymffurfio â'r rheolau cymhwyso ar gyfer llety gwyliau, byddwch yn cael eich trethu yn yr un ffordd ag y trethir llety preswyl sy'n cael ei osod.
Wrth osod llety gwyliau yn y DU, gallwch gael mantais treth os gwnewch golled ar yr arian a gewch o'r eiddo, a phan fyddwch yn gwerthu'r eiddo:
Gellir gosod unrhyw golled yn erbyn eich incwm arall, nid incwm o eiddo yn unig, gan ostwng eich bil treth cyffredinol. Neu gallwch gario'r golled ymlaen a'i osod yn erbyn elw a wneir yn y dyfodol o osod.
Gallwch ddysgu mwy am osod colledion yn erbyn eich incwm yn nodiadau cymorth tudalennau tir ac eiddo'r ffurflen dreth Hunanasesiad (dolen uchod).
Efallai y gallwch fanteisio ar ostyngiadau Treth Enillion Cyfalaf (TEC), megis y 'gostyngiad treigl ar gyfer ased busnes' (business asset roll-over relief). Er enghraifft, os buddsoddwch o fewn tair blynedd mewn llety gwyliau arall yn y DU neu mewn asedau eraill sy'n costio'r un fath neu fwy na'r hyn a gawsoch am yr eiddo yr ydych wedi'i werthu, efallai y gallwch ohirio talu TEC hyd nes y byddwch yn cael gwared ar yr asedau newydd hynny.
Efallai hefyd y byddwch yn talu llai o Dreth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn gwerthu eiddo yr ydych wedi bod yn ei osod fel llety gwyliau, o'i gymharu ag eiddo preswyl arall yr oeddech yn ei osod. Mae hyn oherwydd bod llety gwyliau a osodir yn y DU yn cael ei drin fel ased busnes at ddibenion 'gostyngiad meinhau' (taper relief), ac felly efallai bod cyfraddau mwy ffafriol y 'gostyngiad meinhau ar gyfer ased busnes' yn gymwys i unrhyw enillion cyfalaf a wnewch o werthu. Bydd maint y gostyngiad yn yr enillion drwy'r gostyngiad meinhau yn dibynnu ar y cyfnod yr ydych wedi bod yn berchen ar yr eiddo, ac ers faint yr ydych wedi bod yn ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau cymwys.
Er mwyn deall y rheolau'n iawn, a chael gwybod am ostyngiadau eraill y gallech fod yn gymwys i'w derbyn, gofynnwch i'ch cynghorydd proffesiynol neu eich Swyddfa Dreth am ostyngiadau TEC ar werthu eiddo a oedd yn cael ei osod fel llety gwyliau yn y DU.
Rhaid i chi ddatgan unrhyw incwm a gewch o osod llety gwyliau ar dudalennau tir ac eiddo eich ffurflen dreth Hunanasesiad. Os nad ydych yn derbyn un yn awtomatig, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth leol, neu cofrestrwch ar-lein ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Gellir ystyried rhai costau sy'n gysylltiedig â'r eiddo er mwyn gostwng eich bil treth. I gael rhestr fanwl o'r costau y gallwch eu didynnu a'r rhai na allwch eu didynnu, darllenwch ein herthygl gysylltiedig a'r nodiadau ar gyfer tudalennau tir ac eiddo'r ffurflen dreth Hunanasesiad.
Er mwyn gallu llenwi'r tudalennau tir ac eiddo, mae angen i chi gadw'r canlynol:
Os bydd angen cymorth arnoch i lenwi'r tudalennau, ffoniwch llinell gymorth Hunanasesiad ar 0845 9000 444 (ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm, saith diwrnod yr wythnos).