Os ydych yn derbyn incwm o gynilion a buddsoddiadau tramor, byddwch fel arfer yn datgan hyn ar ffurflen dreth Hunanasesiad. Efallai y bydd angen ichi dalu Treth Incwm yn y DU, ond os ydych wedi talu treth dramor ar yr incwm efallai y gallwch ddidynnu'r swm hwnnw.
Mae incwm yn cael ei ystyried yn 'incwm tramor' os daw o'r tu allan i Gymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Felly mae incwm o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn cael ei ystyried yn incwm tramor hefyd.
Mae incwm buddsoddi a chynilion tramor yn cynnwys:
Os cewch eich hun yn gorfod talu treth yn y wlad honno ac yn y DU, efallai y gallwch hawlio gostyngiad rhag trethiant dwbl trwy lenwi tudalennau tramor y ffurflen dreth. Mae'r DU wedi llofnodi nifer o gytundebau trethiant dwbl gyda gwledydd eraill. Nod y trefniadau hyn yw atal trethiant dwbl.
Cewch ostyngiad ar yr isaf o'r canlynol:
Felly os yw'r dreth dramor sydd arnoch chi yn fwy na'r swm sy'n daladwy fel treth yn y DU, byddwch dal ond yn cael gostyngiad ar faint o dreth sy'n daladwy yn y DU.
Hyd yn oed os nad oes cytundeb trethiant dwbl rhwng y DU a'r wlad arall, efallai y gellir parhau i roi gostyngiad ar y dreth dramor sy'n daladwy (a elwir yn 'ostyngiad unochrog'). Gall eich Swyddfa Dreth eich helpu os oes angen rhagor o gyngor arnoch.
Mae cytundebau trethiant dwbl fel arfer yn pennu cyfradd dreth (a elwir yn 'dreth ataliedig') y gall gwlad ei chodi ar breswylydd yn y DU sy'n derbyn rhai mathau o incwm o'r wlad honno - er enghraifft, difidendau gan gwmnïau neu log ar gynilion.
Rhaid i unrhyw hawliad gennych am ostyngiad yn erbyn treth y DU gael ei gyfyngu i'r isafswm treth hwn sy'n daladwy dan y cytundeb trethiant dwbl perthnasol. Fe welwch restr o'r cyfraddau hyn yn y nodiadau i dudalennau tramor y ffurflen dreth.
Os ydych wedi talu treth ataliedig dramor ar gyfradd uwch na'r hyn a restrir ar gyfer y math hwnnw o incwm, bydd angen ichi gysylltu â'r awdurdod treth tramor i gael ad-daliad ar gyfer y dreth yr ydych wedi'i thalu ar ben y gyfradd gytunedig.
Os oes treth y DU i'w thalu ar incwm rhent o eiddo tramor, gallwch ddidynnu rhai costau a lwfansau yn yr un ffordd ag y gallwch eu didynnu o incwm o eiddo yn y DU.
Gallwch hawlio gostyngiad ar gyfer treth a delir yn y wlad arall yn adran tudalennau tramor y ffurflen dreth.
Rhaid ichi roi gwybod am eich incwm tramor ar dudalennau tramor eich ffurflen dreth.
Efallai na fydd yn rhaid ichi dalu treth ar eich incwm tramor. Bydd hyn yn dibynnu ar a ydych yn 'preswylio', neu'n 'preswylio'n arferol' yn y DU at ddibenion treth mewn blwyddyn dreth a'ch gwlad 'domisil'.
Gallwch ddarllen mwy am sut y gall eich preswylfan, eich preswylfan arferol a'ch domisil effeithio ar y dreth y byddwch yn ei thalu yn y DU ar eich incwm o fuddsoddiadau tramor a llog cynilion ar wefan Cyllid a Thollau EM.