Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar brynu cyfranddaliadau

Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau yn y DU byddwch yn talu treth ar y trafodiad. Gelwir y dreth hon yn Dreth Stamp Wrth Gefn ar gyfer 'trafodion di-bapur' a Threth Stamp ar gyfer trafodion sy'n defnyddio ffurflen trosglwyddo stoc.

Treth Stamp Wrth Gefn

Pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau trwy frocer stoc, cwblheir y trafodiad fel arfer yn electronig trwy CREST (y system setlo a chofrestru electronig). Gelwir hwn yn drafodiad di-bapur.

Sut y cyfrifir Treth Stamp Wrth Gefn

Rydych yn talu'r dreth hon ar drafodion di-bapur ar gyfer cyfranddaliadau yn y DU ar gyfradd wastad o 0.5 y cant. Ond mae'n seiliedig ar yr hyn yr ydych chi'n ei roi am y cyfranddaliadau - nid ar eu gwerth.

Mae hyn yn golygu:

  • os byddwch yn prynu cyfranddaliadau am £1,000 byddwch yn talu £5 o Dreth Stamp Wrth Gefn beth bynnag yw gwerth y cyfranddaliadau eu hunain - caiff costau Treth Stamp Wrth Gefn eu talgrynnu i'r geiniog agosaf
  • os nad ydych yn talu arian parod ond yn rhoi rhywbeth arall o werth am y cyfranddaliadau, mae'r dreth yn seiliedig ar werth yr hyn yr ydych yn ei roi amdanynt
  • os rhoddir y cyfranddaliadau ichi am ddim, does dim rhaid ichi dalu unrhyw Dreth Stamp Wrth Gefn

Cyfranddaliadau, opsiynau prynu cyfranddaliadau, hawliau a buddiannau

Rydych yn talu Treth Stamp Wrth Gefn pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau mewn cwmni sydd wedi'i gorffori yn y DU, neu mewn cwmni tramor sy'n cynnal cofrestr cyfranddaliadau yn y DU, a hefyd pan fyddwch yn prynu:

  • opsiwn i brynu cyfranddaliadau
  • hawliau sy'n codi o gyfranddaliadau, megis yr hawliau dan drefn hawl i brynu cyfranddaliadau
  • budd mewn cyfranddaliadau, megis y budd yn yr arian a geir o'u gwerthu

Os ydych yn prynu unedau mewn ymddiriedolaeth fuddsoddi (unit trust), neu'n buddsoddi mewn 'cwmni buddsoddi penagored', yr ymddiriedolaeth neu'r cwmni sy'n talu'r Dreth Stamp Wrth Gefn a byddant yn rhoi ystyriaeth i hyn wrth bennu'r pris y byddant yn ei godi arnoch chi.

Treth Stamp ar drosglwyddiadau gan ddefnyddio ffurflenni papur

Os ydych yn defnyddio ffurflen trosglwyddo stoc wrth brynu cyfranddaliadau, mae'n drafodiad papur. Treth Stamp sy'n cael ei thalu ar drafodion papur, nid Treth Stamp Wrth Gefn. Mae Treth Stamp yn daladwy ar yr un mathau o drafodion ac ar yr un gyfradd o 0.5 y cant ag ar gyfer Treth Stamp Wrth Gefn, ond caiff y dreth ei thalgrynnu i'r £5 uchaf agosaf. Fodd bynnag, os byddwch yn prynu cyfranddaliadau am unrhyw swm at £1,000 ni fydd yn rhaid i chi dalu treth stamp. Os yw'r cyfranddaliad yn £1,050, bydd yn rhaid talu treth o £10. Os cewch gyfranddaliadau am ddim, nid oes yn rhaid i chi dalu Treth Stamp.

Treth Stamp Wrth Gefn neu Dreth Stamp ar y gyfradd uwch ar gyfranddaliadau a ddelir dan drefniadau arbennig

Bydd rhaid i chi dalu Treth Stamp Wrth Gefn neu Dreth Stamp ar gyfradd uwch o 1.5 y cant os byddwch yn trosglwyddo cyfranddaliadau i 'gynllun derbynebau ar gyfer adneuon' neu 'wasanaeth clirio'. Trefniadau arbennig yw'r rhain gyda'r cyfranddaliadau'n cael eu dal gan drydydd parti a gellir eu masnachu heb dalu treth stamp neu dreth stamp wrth gefn. (Gyda rhai gwasanaethau clirio ni chodir y gyfradd uwch ac mae treth stamp neu dreth stamp wrth gefn yn daladwy yn y ffordd arferol pan fydd y cyfranddaliadau'n cael eu masnachu.)

Sut mae'r Dreth Stamp Wrth Gefn a'r Dreth Stamp yn cael eu talu

Mae'r rhan fwyaf o drafodion gyda chyfranddaliadau yn rhai di-bapur, sy'n cael eu cwblhau'n electronig trwy CREST. Mae CREST yn didynnu'r Dreth Stamp Wrth Gefn yn awtomatig ac yn ei hanfon at Gyllid a Thollau EM. Bydd eich brocer stoc yn trefnu gyda CREST i dalu am y cyfranddaliadau a'r Dreth Stamp Wrth Gefn ac wedyn yn eich bilio chi am y rhain a ffioedd y brocer.

Os nad ydych yn prynu cyfranddaliadau trwy CREST, rydych yn talu'r Dreth Stamp eich hun i Gyllid a Thollau EM.

Mae'r Dreth Stamp Wrth Gefn eisoes wedi'i chynnwys yn y pris yr ydych yn ei dalu am unedau mewn Ymddiriedolaethau Buddsoddi (unit trusts) neu gyfranddaliadau mewn cwmnïau buddsoddi penagored.

Treth ar brynu cyfranddaliadau tramor

Does dim rhaid ichi dalu Treth Stamp na Threth Stamp Wrth Gefn yn y DU os ydych yn prynu cyfranddaliadau tramor. Ond efallai y bydd yn rhaid ichi dalu trethi tramor.

Ymholiadau am y Dreth Stamp Wrth Gefn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Dreth Stamp Wrth Gefn, gallwch ffonio Cyllid a Thollau EM ar 0845 603 0135 rhwng 8.30 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener - ar gau ar Wyliau Banc.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU