Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu

Fel arfer, bydd 20 y cant o dreth wedi'i ddidynnu o'r llog ar gynilion cyn i chi ei dderbyn. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch (40 y cant), mae treth yn ddyledus gennych ar y gwahaniaeth. Os oes gennych incwm isel, efallai y gallech hawlio treth yn ôl.

Sut ydych yn talu treth ar incwm o gynilion

Caiff incwm cynilion ei ychwanegu at eich incwm arall a'i drethu ar ôl ystyried eich lwfansau, fel a ganlyn:

  • caiff incwm cynilion sydd o fewn y band Treth Incwm cyfradd ddechreuol £2,320 (£2,440 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-10) ei drethu ar 10 y cant - er y bydd uwchlaw'r lefel hon yn y rhan fwyaf o achosion, gan ei fod yn cael ei ychwanegu at eich incwm arall
  • caiff incwm cynilion sy'n codi uwchben y band Treth Incwm cyfradd ddechreuol £2,320 (£2,440 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-10) ond sydd o fewn y band Treth Incwm cyfradd sylfaenol £34,800 (£37,400 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-10) ei drethu ar 20 y cant
  • caiff incwm cynilion sy'n codi uwchben y band Treth Incwm £34,800 (£37,400 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-10) ei drethu ar 40 y cant
  • os yw'n disgyn ar ddwy ochr band treth, caiff y symiau perthnasol eu trethu ar gyfraddau pob band treth

Bydd incwm cynilion y rhan fwyaf o bobl yn parhau i fod yn drethadwy ar 20 y cant (a 40 y cant i drethdalwyr cyfradd uwch), ond gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau personol, bydd incwm cynilion rhai unigolion yn drethadwy ar 10 y cant.

Mae Cyllid a Thollau EM wedi cyhoeddi cyfarwyddyd manwl i egluro pryd y bydd gan rywun incwm cynilion yn drethadwy ar gyfradd ddechreuol 10 y cant ar gyfer cynilion.

Treth a ddidynnir o log cyn i chi ei dderbyn

Fel arfer, bydd 20 y cant o dreth wedi'i ddidynnu o incwm cynilion cyn i chi ei dderbyn. Caiff hyn ei gadarnhau gan y cofnod 'llog net' ar eich datganiad banc neu gymdeithas adeiladu.

Os yw'r cofnod yn dangos 'llog gros' yn unig - ac nid 'llog net' - nid oes treth wedi'i didynnu. Fel arfer, bydd rhaid i chi gofrestru i gael llog gros - i gael gwybod mwy am hyn, gweler 'Os nad ydych chi'n drethdalwr' yn yr adran isod.

Hawlio treth yn ôl neu dalu mwy ohono ar gynilion

Os nad ydych yn drethdalwr

Os yw eich lefel incwm yn golygu nad oes angen i chi dalu treth, gallwch lenwi ffurflen R85 i dderbyn llog heb dreth wedi'i ddidynnu. Os oes treth eisoes wedi'i dynnu oddi ar eich llog, efallai y gallech ei hawlio'n ôl.

Os yw'r gyfradd ddechreuol ar gyfer cynilion (10 y cant) yn berthnasol i chi

Caiff y gyfradd Treth Incwm a dalwch ar gynilion ei chyfrifo ar ôl ystyried unrhyw incwm ar wahân i gynilion. Felly, os yw eich incwm ar wahân i'ch cynilion yn llai na therfyn y gyfradd ddechreuol ar gyfer cynilion (£2,320) (£2,440 ar gyfer y flwyddyn dreth 2009-10) - neu os mai cynilion a buddsoddiannau yw eich unig ffynhonnell incwm - dylid trethu eich incwm cynilion ar y gyfradd ddechreuol o 10 y cant hyd at y terfyn.

Bydd eich llog wedi'i drethu ar 20 y cant, felly byddwch yn gallu hawlio rhywfaint o'r dreth yn ôl.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant)

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Does dim treth ychwanegol yn ddyledus.

Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch

Os ydych chi'n drethdalwr cyfradd uwch, rhaid i chi adael i'ch Swyddfa Dreth wybod faint o log rydych chi wedi'i gael fel y gallant gasglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus:

  • os byddwch fel arfer yn llenwi ffurflen dreth Hunan Asesu bydd angen i chi ddatgan eich incwm cynilion ar eich ffurflen
  • os llenwoch chi ffurflen dreth yn ystod blwyddyn dreth 2007-2008, ond eich bod bellach yn tallu eich treth cyfradd uwch drwy PAYE (Talu Wrth Ennill), cesglir y dreth ychwanegol sy'n ddyledus ar eich cynilion drwy PAYE hefyd yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gan Gyllid a Thollau EM
  • os nad ydych chi'n llenwi ffurflenni treth mwyach, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P810 Adolygiad Treth atoch, a gyflwynir fel arfer bob tair blynedd, i wirio faint o gynilion ac incwm arall heb dreth sydd gennych, ac yna'n addasu eich cod treth (neu'n gofyn i chi lenwi ffurflen dreth os bydd angen)
  • os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth fel arfer ond eich bod yn ddiweddar wedi symud i'r band Treth Incwm cyfradd uwch, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth a rhoi gwybod iddynt faint o incwm cynilion rydych chi'n ei dderbyn - byddant naill ai'n gofyn i chi lenwi ffurflen, neu os ydych chi'n gyflogedig ac yn derbyn pensiwn, gallant drefnu casglu'r dreth ychwanegol drwy PAYE.

Yna, anfonir ffurflen P810 atoch i wirio faint o gynilion sydd gennych.

Os bydd eich cynilion neu incwm arall yn newid yn sylweddol

Beth bynnag yw eich band Treth Incwm presennol, os nad ydych chi fel arfer yn llenwi ffurflen dreth a bod newid sylweddol i'ch cynilion neu incwm arall, rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel y gallant gyfrifo a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â hwy'n gynnar, gallwch:

  • osgoi cael treth ddyledus yn cronni os bydd eich incwm yn mynd â chi i drothwy uwch
  • osgoi talu gormod o dreth os yw eich incwm wedi syrthio o dan rai trothwyau penodol

Datgan incwm o gynilion ar eich ffurflen dreth

Os ydych chi'n llenwi ffurflen dreth bydd angen i chi ddangos (ar gyfer eich cynilion banc/cymdeithas adeiladu gyda'i gilydd):

  • faint o log a dderbyniwyd gennych ar ôl didynnu treth - y 'swm net'
  • faint o dreth a ddidynnwyd 'yn y ffynhonnell' cyn i chi dderbyn y taliad
  • cyfanswm y ddau uchod - y 'swm gros' (cyn treth)

Mae tri blwch gwahanol ar gyfer y wybodaeth hon.

Hefyd, mae yna flwch ar wahân i'w lenwi ar gyfer unrhyw log a dderbyniwyd gennych heb dreth wedi'i didynnu.

Efallai y bydd eich banc/cymdeithas adeiladu'n anfon 'Tysytsgrif o Dreth a Ddidynnwyd' atoch neu ddatganiad yn cynnwys y wybodaeth hon ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (Ebrill 5). Os oes angen un arnoch ond nad ydych wedi derbyn un, gofynnwch. Yn aml, gallwch hefyd gael y ffigurau sydd eu hangen arnoch o'ch llyfr cyfrif neu o'ch datganiadau cyfrif.

Os oes gennych chi gyfrif ar y cyd gyda gŵr, gwraig neu bartner sifil, dylech ddatgan bod hanner yr incwm yn eiddo i chi. Dylai'r hanner arall gyfrif tuag at eu hincwm nhw.

Llog di-dreth ar gynilion mewn ISAs

Mae llog o gynilion arian ISA yn ddi-dreth. O ganlyniad, ni chaiff dim treth ei didynnu yn y ffynhonnell.

Allweddumynediad llywodraeth y DU