Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar ddifidendau'r DU

Mae'r cyfraddau treth a dalwch ar ddifidendau'r DU (incwm o gyfranddaliadau cwmnïau o'r DU, ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau a chwmnïau buddsoddi penagored) yn wahanol i'r hyn a dalwch ar fathau eraill o incwm gan gynnwys cyflog, elw o hunangyflogaeth, pensiynau a llog o gynilion, megis llog banciau a chymdeithasau adeiladu.

Cyfraddau treth ar ddifidendau 2009-2010

Mae dau fath gwahanol o gyfraddau Treth Incwm ar ddifidendau'r DU. Mae'r gyfradd yr ydych yn ei thalu'n dibynnu ar a yw eich incwm trethadwy cyffredinol (ar ôl lwfansau) yn dod o fewn terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol ynteu a yw'n uwch na hynny.

Terfyn y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol yw £37,400 ar gyfer blwyddyn dreth 2009-2010.


Incwm difidend mewn perthynas â'r band treth cyfradd sylfaenol Y gyfradd dreth a ddefnyddir ar ôl didynnu'r lwfans personol ac unrhyw lwfans person dall

Incwm difidend sy'n dod o fewn neu sy’n is na therfyn y gyfradd dreth sylfaenol o £37,400

10% - y gyfradd gyffredin difidend

Incwm difidend sy'n uwch na therfyn y gyfradd dreth sylfaenol o £37,400

32.5% - y gyfradd uwch difidend

Nid oes ots pa un a ydych yn cael difidendau gan gwmni, ymddiriedolaeth fuddsoddi neu gwmni buddsoddi penagored, gan y trethir pob difidend yn yr un ffordd.

Ond cofiwch fod 'llog a ddosberthir' o ymddiriedolaethau buddsoddi a chwmnïau buddsoddi penagored yn cael ei drethu yn ôl y cyfraddau ar gyfer incwm o gynilion - gweler isod.

Treth ar incwm o gynilion

Ceir dau brif fath o gyfraddau Treth Incwm ar incwm o: 20 y cant (y gyfradd sylfaenol) neu 40 y cant (y gyfradd uwch). Bydd y gyfradd/cyfraddau a dalwch yn dibynnu ar eich incwm trethadwy cyffredinol. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y gellir trethu rhywfaint o'ch incwm cynilion ar y gyfradd ddechreuol arbennig o 10 y cant ar gyfer cynilion.

Sut caiff difidendau eu talu

Pan fyddwch yn cael eich difidend, byddwch hefyd yn cael taleb sy'n dangos:

  • y difidend a dalwyd - y swm a gawsoch
  • maint y 'credyd treth' cysylltiedig - gweler yr adran nesaf

Os ydych wedi cytuno i'ch difidendau gael eu talu'n electronig, efallai y cewch eich taleb ar ffurf papur neu electronig.

Deall credyd treth difidendau

Bydd cwmnïau'n talu difidendau i chi o elw y maent eisoes wedi talu treth arno - neu elw y maent yn mynd i dalu treth arno. Mae'r credyd treth yn rhoi ystyriaeth i hyn ac mae ar gael i'r cyfranddaliwr i'w osod yn erbyn unrhyw Dreth Incwm a all fod yn ddyledus ar eu 'hincwm difidend'.

Wrth adio'ch incwm trethadwy cyffredinol, bydd angen i chi gynnwys y difidend(au) a dderbyniwyd ynghyd â'r credyd(au) treth. Eich 'incwm difidend’ yw'r enw ar yr incwm hwn.

Sut y cyfrifir credydau treth

Mae'r difidend a delir i chi yn cynrychioli 90 y cant o'ch 'incwm difidend'. Credyd treth yw'r 10 y cant sy'n weddill o'r incwm difidend. O'i roi fel arall, mae'r credyd treth yn cynrychioli 10 y cant o'r 'incwm difidend'.

Incwm difidend sydd ar y gyfradd dreth sylfaenol o £37,400 neu sy'n is na'r terfyn hwnnw

 Difidend a delir i chi (yn cynrychioli 90% o'r incwm difidend)  Credyd treth (10 y cant o'r incwm difidend)  Incwm difidend (difidend a dalwyd ynghyd â chredyd treth)
 £63  £7  £70
 £54  £6  £60
 £90  £10  £100

Talu treth ar incwm difidend

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol neu is

Does dim treth i'w thalu ar eich incwm difidend oherwydd yr atebolrwydd treth yw 10 y cant - yr un maint â'r credyd treth - fel a ddangosir yn y tablau.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch

Rydych yn talu cyfanswm o 32.5 y cant o dreth ar incwm difidend sydd uwchben y terfyn ar gyfer y gyfradd Dreth Incwm sylfaenol (£37,400 ar gyfer blwyddyn dreth 2009-2010). Ond oherwydd bod 10 y cant cyntaf y dreth sy'n ddyledus ar eich incwm difidend eisoes wedi'i gyflenwi gan y credyd treth, dim ond 22.5 y cant sydd arnoch chi mewn gwirionedd.

Dylid cofio bod incwm difidend, fel incwm o enillion, yn cael ei drethu ar ôl eich incwm nad yw’n dod o’ch cynilion - er enghraifft, cyflogau ac elw hunangyflogaeth - ar eich cyfradd dreth uchaf. Os bydd yn disgyn y naill ochr i derfyn y dreth gyfradd uwch o £37,400, bydd yn cael ei drethu'n rhannol ar 10 y cant (a'i gyflenwi gan y credyd treth) ac yn rhannol ar 32.5 y cant (llai 10 y cant credyd treth).

Gewch chi hawlio'r credyd treth os nad ydych yn talu treth fel arfer?

Na. Chewch chi ddim hawlio'r credyd treth o 10 y cant, hyd yn oed os yw eich incwm trethadwy'n llai na'ch Lwfans Personol a chithau ddim yn talu treth. Y rheswm yw nad oes Treth Incwm wedi'i didynnu o'r difidend a dalwyd ichi - yr unig beth yr ydych wedi'i gael yw credyd o 10 y cant yn erbyn unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus.

Datgan incwm difidend ar eich ffurflen dreth Hunanasesu

Os ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, byddwch yn llenwi tri blwch:

  • y 'difidend/dosbarthiad' - y gwir swm a dalwyd i chi
  • y credyd treth - fel y dangosir ar daleb y difidend
  • cyfanswm y ddau - yr 'incwm difidend'

Byddwch yn talu unrhyw dreth ychwanegol naill ai drwy Hunanasesiad neu drwy'r system Talu Wrth Ennill, yn ddibynu ar sut yr ydych yn talu treth fel arfer

Allweddumynediad llywodraeth y DU