Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth ar waith achlysurol, rhan-amser neu dros dro

Os ydych yn gwneud gwaith rhan amser neu waith achlysurol neu waith dros dro, rhaid ichi dalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) os ydych yn ennill mwy na £5,435 y flwyddyn. Mae hyn yn berthnasol pa un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr

Os ydych yn gwneud gwaith rhan amser, dros dro neu achlysurol, yn unol â'r gyfraith rhaid i'ch cyflogwr:

  • ddidynnu treth a chyfraniadau YG o'ch cyflog
  • rhoi slipiau cyflog ichi
  • didynnu ad-daliadau benthyciad myfyriwr, os yw'n berthnasol
  • rhoi ffurflen P45 ichi pan fyddwch yn gadael
  • rhoi'r crynodeb dreth P60 ichi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth (os ydych yn dal i weithio i’r cyflogwr)

Beth am 'arian mewn llaw'?

Mae'n anghyfreithlon i'ch cyflogwr dalu 'arian mewn llaw' ichi heb ddidynnu treth a chyfraniadau YG o'ch cyflog.

Os byddwch yn derbyn arian fel hyn, fe allech chi golli'ch hawliau cyflogaeth a'r hawl i rai budd-daliadau, megis:

  • absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth
  • tâl salwch
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Hefyd, gallech orfod talu'r dreth a'r cyfraniadau YG eich hun.

Os ydych yn amau nad yw eich cyflogwr yn talu treth na chyfraniadau YG ar eich cyflog, gallwch hysbysu'r llinell gymorth twyll treth yn gyfrinachol ar rif ffôn 0800 788 887.

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr

Os ydych chi'n gweithio i fwy nag un cyflogwr, byddwch yn cael cod treth arbennig ar gyfer hyn.

Bydd eich lwfansau treth fel arfer yn cael eu rhoi yn erbyn y cyflog o'ch prif swydd. Bydd eich swydd(i) eraill yn cael eu trethu ar y gyfradd sylfaenol neu uwch, yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm.

Hawliau cyflogaeth

Mae gan bob gweithiwr hawliau, gweithwyr llawn amser, rhan amser, achlysurol neu dros dro, gan gynnwys:

  • tâl gwyliau
  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • diogelwch rhag gwahaniaethu

Os ydych yn pryderu am eich hawliau, gallwch ofyn i undeb am gymorth neu gallwch gael cyngor di-dâl gan Gyngor Ar Bopeth.

Os ydych yn fyfyriwr

Os ydych yn fyfyriwr, byddwch yn dal i dalu treth ar eich incwm onid yw'r cyfan o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn fyfyriwr llawn amser yn y DU, ac ond yn gweithio yn ystod y gwyliau
  • rydych yn dychwelyd i addysg amser llawn ar ôl y gwyliau
  • mae cyfanswm eich incwm am y flwyddyn o dan y lwfans personol

Gofynnwch i'ch cyflogwr am ffurflen P38S fel na fydd treth yn cael ei didynnu o'ch enillion. Bydd Yswiriant Gwladol yn dal i gael ei ddidynnu os ydych yn ennill mwy na £105 yr wythnos.

Os ydych yn gweithio i chi eich hun

Os ydych yn hunangyflogedig ar sail dros dro neu ran amser, rhaid ichi gofrestru'n hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM o fewn tri mis i ddechrau gweithio. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen dreth Hunanasesiad a chi sy'n gyfrifol am dalu eich treth eich hun a chyfraniadau YG ar yr incwm yr ydych yn ei ennill. (Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y byddwch yn ennill digon i dalu treth, bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth beth bynnag.)

Gweithio am arian

Gallwch dderbyn taliadau mewn arian am waith a wnewch, ond mae'n anghyfreithlon peidio â datgan y rhain ar ffurflen dreth Hunanasesiad a pheidio â thalu Treth Incwm a chyfraniadau YG os yw'r rhain yn ddyledus. Bydd hyn yn dibynnu ar eich incwm trethadwy cyffredinol yn y flwyddyn dreth.

Gweld beth yw eich statws cyflogaeth

Mae'n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng bod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, gan fod hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn talu treth a chyfraniadau YG. Darllenwch fwy yn ein herthygl gysylltiedig.

A yw faint yr ydych yn ei ennill yn effeithio ar y dreth yr ydych yn ei thalu?

Mae pawb yn cael lwfans di-dreth personol (£5,435 yn 2008-2009). Does dim treth i'w thalu ar unrhyw beth yr ydych yn ei ennill o dan y swm hwn.

Mae'r Yswiriant Gwladol y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich enillion hefyd. Nid ydych yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol os ydych yn ennill llai na £105 yr wythnos.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU