Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dechrau yn eich swydd gyntaf: beth i'w wneud ynghylch treth

Pan ddowch yn weithiwr, mae eich cyflogwr yn gyfrifol am ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn ichi ei dderbyn. Dyma'r system Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Byddwch yn derbyn gwaith papur sy'n ymwneud â TWE gan Gyllid a Thollau EM a'ch cyflogwr.

Slipiau cyflog

Bod diwrnod cyflog, dylai eich cyflogwr roi slip cyflog ichi. Mae'n dderbynneb am y dreth yr ydych wedi'i thalu, ac yn dangos manylion megis:

  • eich enillion cyn treth (eich cyflog gros)
  • Treth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr, os yw’n berthnasol, a ddidynnwyd o'ch cyflog
  • eich enillion ar ôl treth (eich cyflog net)

Hysbysiad cod

Pan fyddwch yn dechrau gweithio, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon cod treth atoch mewn 'hysbysiad cod'. Byddant yn ei anfon at eich cyflogwr hefyd, a fydd yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o dreth i'w didynnu o'ch cyflog.

Codau treth brys

Efallai y bydd eich cyflogwr yn defnyddio cod treth brys hyd nes y caiff yr un iawn gan Gyllid a Thollau EM. Os byddwch wedi talu gormod o dreth, byddwch yn ei gael yn ôl drwy TWE.

Os byddwch yn gadael eich swydd cyn ichi gael y cod iawn, neu os ydych am hawlio treth yn ôl am flwyddyn dreth flaenorol, gallwch wneud cais i'ch Swyddfa Dreth am ad-daliad.

Ffurflenni TWE - P45, P46 a P60

P45

Y ffurflen P45 yw'r cofnod o'ch cyflog a'r dreth a ddidynnwyd. Rydych yn cael P45 gan eich cyflogwr pan fyddwch yn stopio gweithio iddyn nhw. Maen dangos manylion megis:

  • eich cod treth, eich rhif cyfeirnod treth TWE
  • eich dyddiad gadael
  • y cyflog yr ydych wedi'i dderbyn hyd yma yn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i'r 5 Ebrill dilynol)
  • faint o dreth a ddidynnwyd o'ch cyflog

Mae pedair rhan i'r P45. Mae'ch cyflogwr yn anfon un rhan i'r Swyddfa Dreth ac yn rhoi'r tair rhan arall i chi. Pan fyddwch yn cychwyn swydd newydd, rydych yn rhoi dwy ran i'ch cyflogwr newydd ac yn cadw'r rhan arall (a elwir yn Rhan 1A) ar gyfer eich cofnodion chi.

P46

Os ydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf a heb P45, bydd eich cyflogwr yn rhoi P46 i chi i'w llenwi a'i llofnodi. Wedyn, bydd adran Cyllid a Thollau EM yn prosesu eich P46 ac yn rhoi cod treth ichi.

P60

Y ffurflen P60 yw crynodeb blynyddol o'ch holl slipiau cyflog. Mae'ch cyflogwr yn rhoi un ichi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth. Rydych yn cadw'ch P60 fel cofnod o'ch cyflog a'r dreth a ddidynnwyd.

Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr i'w dalu'n ôl, bydd yn digwydd yn awtomatig drwy TWE unwaith ichi ddechrau gweithio ac ennill mwy na'r trothwy ad-dalu.

Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi'r wybodaeth ofynnol i'ch cyflogwr er mwyn iddynt ddidynnu'r swm iawn o'ch cyflog. Rhaid i'ch slip cyflog ddangos faint sydd wedi'i ddidynnu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr, gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Dreth - edrychwch ar eich ffurflenni TWE i gael eu manylion.

Cadw cofnodion

Pa gofnodion i'w cadw

Cadwch y gwaith papur sy'n cynnwys manylion eich cyflog a'ch treth, megis:

  • slipiau cyflog a hysbysiadau cod
  • ffurflenni P45 a P60
  • manylion costau trethadwy
  • ffurflenni 'buddion ymarferol' gan eich cyflogwr (mae budd ymarferol yn rhywbeth yr ydych yn ei gael am wneud eich swydd nad yw'n arian)
  • gwybodaeth am unrhyw ddyfarniad dileu swydd neu daliad terfynu swydd pan ddaw eich contract i ben
  • tystysgrifau ar gyfer unrhyw 'Gynlluniau Gwobrwyo Trethadwy'
  • cofnodion o unrhyw dips neu daliadau cydnabod yr ydych wedi'u cael ac unrhyw fuddion neu incwm trethadwy arall nad ydych wedi'u cofnodi eisoes rywle arall
  • manylion unrhyw fudd-daliadau gwladol yr ydych wedi'u derbyn

Os oes rhywun (ar wahân i'ch cyflogwr) yn rhoi buddion ymarferol ichi am wneud eich gwaith, dylech gadw cofnod o'u henw a'u cyfeiriad a beth a gawsoch ganddynt.

Pam cadw cofnodion?

Bydd angen ichi gyfeirio at eich cofnodion yn ddiweddarach os bydd angen ichi rywbryd:

  • lenwi ffurflen dreth
  • hawlio treth yn ôl os byddwch wedi talu gormod o dreth
  • gwneud cais am fudd-daliadau a chredydau treth

Am faint y dylid eu cadw

Mae Cyllid a Thollau EM yn awgrymu eich bod yn cadw'ch cofnodion am o leiaf 22 mis o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi. Mae'r flwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i'r 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol, ac felly cadwch y gwaith papur tan o leiaf 31 Ionawr bron i ddwy flynedd wedyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU