Rydych yn talu treth ar eich cyflog drwy system o'r enw Talu Wrth Ennill (TWE - PAYE). Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'r system hon i dynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog cyn iddynt ei dalu i chi.
Eich 'cyflog gros' yw'r swm y byddwch yn ei ennill cyn y didynnir treth ohono. Eich 'cyflog net' yw'r swm a gewch ar ôl didynnu treth ac Yswiriant Gwladol ohono. Pan dderbyniwch slip cyflog, fe welwch:
Yn ogystal â chael eich trethu ar eich cyflog, rydych yn cael eich trethu hefyd ar unrhyw fuddion a ddarperir gan eich cyflogwr megis car cwmni, benthyciad llog isel neu yswiriant meddygol. Efallai hefyd y bydd yn rhaid ichi dalu treth ar dips yr ydych yn eu derbyn fel rhan o'ch swydd.
Treth Incwm yw eich cyfraniad at yr hyn a werir gan y llywodraeth ar bethau megis trafnidiaeth, iechyd ac addysg. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill.
Mae Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn rhoi 'cod treth' ichi, sydd i'w weld ar eich slip cyflog. Mae'ch cyflogwr yn defnyddio'ch cod treth i gyfrifo faint o Dreth Incwm i'w thynnu o'ch cyflog drwy'r system TWE.
Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen ichi - eich P60 - yn dangos cyfanswm eich cyflog gros am y flwyddyn a faint o dreth a dalwyd gennych.
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gronni eich hawl i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill. Mae'r swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Mae'ch cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 o'ch cyflog drwy'r system TWE.
Mae Cyllid a Thollau EM yn cadw golwg ar eich cyfraniadau trwy eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae hwn yn debyg i rif cyfrif ac mae'ch rhif yn unigryw i chi.
Gall pawb ennill swm penodol bob blwyddyn heb dalu unrhyw Dreth Incwm. Dyma'ch 'lwfans personol'. £5,435 yw'r lwfans personol yn 2008-2009. Gall rhai pobl ennill ychydig yn fwy cyn dechrau talu treth, er enghraifft, os ydynt dros 65.
Gallwch ennill hyd at £105 yr wythnos (2008-2009) cyn i chi dalu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gelwir hyn yn 'drothwy sylfaenol'.
Dim ond eich bod yn ennill mwy na £90 yr wythnos (2008-2009) gallwch barhau i gronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau eraill. Y 'terfyn enillion isaf' yw’r enw a roddir ar hwn.