Os ydych chi'n hunangyflogedig, chi sy'n gyfrifol am dalu eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun. Bydd angen ichi gadw cofnodion busnes a manylion eich incwm er mwyn ichi allu llenwi ffurflen dreth flynyddol. Efallai hefyd y bydd angen ichi gofrestru ar gyfer TAW.
Mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig cyn gynted ag y bo modd - hyd yn oed os ydych chi eisoes yn llenwi ffurflen dreth. Oni ddywedwch wrthynt o fewn tri mis i ddiwedd eich mis cyntaf mewn busnes, gallech wynebu cosb.
Gallwch gofrestru drwy:
Unwaith y byddwch wedi cofrestru'n hunangyflogedig, byddwch yn drethdalwr Hunanasesu. Bydd rhaid ichi lenwi ffurflen dreth bob blwyddyn a rhoi manylion eich enillion ac unrhyw incwm arall yr ydych yn ei gael. Defnyddir y wybodaeth hon i gyfrifo faint o dreth y bydd yn rhaid ichi ei thalu.
Bydd eich Swyddfa Dreth yn anfon ffurflen dreth atoch yn awtomatig ym mis Ebrill bob blwyddyn. Os byddwch yn anfon eich ffurflen dreth wedi'i llenwi yn ôl at eich Swyddfa Dreth erbyn 31 Hydref, byddant hwy'n cyfrifo eich bil treth ichi. Dylech ei dychwelyd erbyn y 31 Ionawr dilynol fan bellaf. Os bydd y ffurflen yn hwyr, bydd rhaid talu cosb.
Yn hytrach na llenwi'ch ffurflen dreth â llaw a'i phostio'n ôl, gallech arbed amser drwy ei llenwi ar-lein.
Mae cyfraniadau YG Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at rai budd-daliadau, megis Pensiwn y Wladwriaeth, Absenoldeb Mamolaeth a Budd-dal Profedigaeth.
Rydych yn talu cyfraniadau YG Dosbarth 2 ar gyfradd wastad o £2.30 yr wythnos (2008-2009) os yw eich enillion dros £4,825 y flwyddyn. (Gallwch ddewis talu naill ai bob chwarter neu drwy ddebyd uniongyrchol misol.)
Cofiwch nad yw cyfraniadau YG Dosbarth 2 yn cyfrif tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth, Tâl Salwch Statudol na Lwfans Ceisio Gwaith, ac felly, efallai y dylech ystyried gwneud trefniadau eraill megis pensiwn personol ac yswiriant diogelu incwm.
Gallwch gofrestru ar gyfer cyfraniadau YG Dosbarth 2 pan fyddwch yn cofrestru'n hunangyflogedig gyda llinell gymorth Cyllid a Thollau EM neu drwy lenwi'r ffurflen yng nghefn y daflen: 'Thinking of working for yourself?'.
Os ydych yn ennill llai na £4,825 y flwyddyn, gallwch wneud cais am 'dystysgrif eithriad enillion isel' a pheidio â thalu cyfraniadau YG Dosbarth 2. Fodd bynnag, efallai y penderfynwch barhau i'w talu'n wirfoddol er mwyn cadw'ch hawl i Bensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau eraill.
Mae faint o gyfraniadau YG Dosbarth 4 y byddwch yn eu talu mewn unrhyw flwyddyn dreth yn dibynnu ar eich elw yn y flwyddyn honno. Rydych yn talu wyth y cant ar elw blynyddol rhwng £5,435 a £40,040 ac un y cant ar unrhyw elw uwchlaw'r swm hwnnw.
Rydych yn cyfrifo'ch cyfraniadau YG Dosbarth 4 ar eich ffurflen dreth a'u talu gyda'ch Treth Incwm. Nid yw cyfraniadau YG Dosbarth 4 yn cyfrif tuag at eich hawl i fudd-daliadau.
Os yw trosiant eich busnes yn fwy na'r trothwy ar gyfer TAW (£64,000 o 1 Ebrill 2007) gan amlwf, bydd yn rhaid ichi gofrestru ar gyfer TAW. Hyd yn oed os yw eich trosiant o dan y trothwy, efallai y byddai o fudd ichi gofrestru'n wirfoddol.
Os oes gennych chi gyfrifydd gallant hwy eich cynghori neu gallwch ffonio Llinell Ymholiadau Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 0109 000 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Dyddiadau cau Hunanasesiad
Os byddwch yn hwyr yn dychwelyd eich ffurflen dreth, bydd rhaid ichi dalu cosb, a llog o bosib ar unrhyw dreth sy'n ddyledus. Mae'n bwysig felly gwybod beth yw'r dyddiadau cau:
|
Dyddiad (ar ôl diwedd y flwyddyn dreth) |
Dyddiad cau Hunanasesiad ar gyfer |
|---|---|
|
31 Hydref |
dychwelyd eich ffurflen dreth bapur os ydych am i Gyllid a Thollau EM gyfrifo faint o dreth sydd arnoch chi (wrth ffeilio ar-lein cyfrifir eich treth yn awtomatig ac felly nid yw'r dyddiad cau hwn yn berthnasol) |
| 30 Rhagfyr | talu unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych (lle bo modd) drwy eich cod treth ar-lein yn lle 31 Hydref (y dyddiad cau ar gyfer ffurflenni papur) |
|
31 Ionawr |
anfon eich ffurflen dreth i mewn (papur neu ar-lein) er mwyn osgoi cosb |
|
31 Ionawr a'r 31 Gorffennaf dilynol |
taliadau treth |
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer TAW, byddwch fel arfer yn cael 'cyfnod treth' tri misol. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen TAW atoch tuag at ddiwedd pob cyfnod treth. Ar ben y ffurflen nodir y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid ei dychwelyd.
Yn unol â'r gyfraith, rhaid ichi gadw cofnodion ar gyfer eich busnes ac ar gyfer unrhyw incwm arall yr ydych yn ei dderbyn. Gwneir hynny er mwyn ichi allu llenwi'ch ffurflen dreth a dangos bod y ffigurau'n gywir. Bydd angen i chi gadw'r canlynol o leiaf:
Bydd cofnodion da hefyd yn arbed amser ichi ac yn eich helpu i redeg eich busnes yn fwy effeithlon.