Os yw'ch cyflogwr yn cynnig cyfranddaliadau ichi yn ei gwmni fel rhan o gynllun cyfraniadau a gymeradwyir gan y llywodraeth, rydych yn cael rhai manteision treth. Dyma'r cynlluniau a gymeradwyir: Cynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau, cynlluniau Cynilo Wrth Ennill, Cynlluniau Opsiwn i Brynu Cyfranddaliadau mewn Cwmni a chynlluniau Cymhellion Rheoli Mentrau.
Os ydych yn cael cyfranddaliadau dan un neu fwy o Gynlluniau Cymhellion Cyfranddaliadau a'u cadw yn y cynllun am bum mlynedd, ni fydd yn rhaid ichi dalu Treth Incwm na chyfraniadau YG ar eu gwerth pan fyddwch yn eu cael. (Mae cyflogwyr fel arfer yn gorfod didynnu hwn o werth y buddion y maent yn eu rhoi i chi.)
Ni fydd yn rhaid ichi ychwaith dalu Treth Enillion Cyfalaf os byddwch yn eu cadw yn y cynllun tan ichi eu gwerthu. Os byddwch yn cadw'r cyfranddaliadau ar ôl ichi eu tynnu o'r cynllun byddwch ond yn talu TEC - os oes treth i'w thalu - ar unrhyw gynnydd yn eu gwerth rhwng pryd yr ydych yn eu tynnu allan a phryd y byddwch yn eu gwerthu.
Os byddwch yn tynnu cyfranddaliadau o gynllun Cymhellion Cyfranddaliadau'n fuan, byddwch yn talu Treth Incwm a chyfraniadau YG - a'r swm yn dibynnu ar pryd y tynnoch chi hwy allan.
Mae pedwar math gwahanol o gynllun cymhellion cyfranddaliadau:
Gall eich cyflogwr roi gwerth hyd at £3,000 o gyfranddaliadau am ddim i chi mewn unrhyw flwyddyn dreth. Efallai eu bod yn gysylltiedig â:
Dan y cynllun cymhellion cyfranddaliadau hwn rydych yn gallu prynu cyfranddaliadau trwy'ch cyflog cyn y didynnir Treth Incwm a chyfraniadau YG - sy'n golygu eich bod yn gwneud arbedion gyda'r ddau. Gallwch wario hyd at 10 y cant o'ch incwm neu £1,500 mewn unrhyw flwyddyn dreth ar gyfranddaliadau partneriaeth.
Gall eich cyflogwr roi hyd at ddau gyfranddaliad partneriaeth am ddim ichi am bob un y byddwch yn ei brynu.
Os ydych yn derbyn difidendau oddi wrth unrhyw rai o'r cyfranddaliadau uchod sydd gennych, ni fydd yn rhaid ichi dalu Treth Incwm arnynt os byddwch yn eu hailfuddsoddi yn y cwmni a chadw'r cyfranddaliadau am o leiaf tair blynedd. Gallwch fuddsoddi hyd at werth £1,500 o ddifidendau ymhob blwyddyn dreth yn y ffordd hon.
Cynllun sy'n gysylltiedig â chynilo yw cynllun CWE cymeradwy a sefydlir gan eich cyflogwr. Rhaid i'r cynllun fod ar gael i bob gweithiwr sydd wedi bod gyda'r cwmni am gyfnod penodol. Mae'r cynllun yn rhoi hawl ichi - a elwir yn 'opsiwn i brynu cyfranddaliadau' - brynu cyfranddaliadau gyda'ch cynilion o'r cynllun CWE am bris a bennir ar y cychwyn.
Gallwch gynilo hyd at £250 y mis gyda'r cynllun o'ch cyflog mynd-adre. Ar ddiwedd eich contract cynilo (tair i bum mlynedd - weithiau saith) gallwch ddefnyddio'r cynilion i brynu'r cyfranddaliadau.
Mae'r llog ac unrhyw fonws ar ddiwedd eich cynllun cynilo yn ddi-dreth (onid ydych yn eu cyfnewid am arian yn gynnar)
Hefyd, dydych chi ddim yn talu unrhyw Dreth Incwm na chyfraniadau YG ar y gwahaniaeth rhwng y swm yr ydych yn ei dalu am y cyfranddaliadau pan fyddwch yn defnyddio'ch opsiwn a beth yw eu gwerth go iawn. Mae Treth Incwm a chyfraniadau YG yn ddyledus ar y gwahaniaeth hwn gyda chynlluniau nad ydynt wedi'u cymeradwyo.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu TEC pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau. Ond fyddwch chi ddim yn talu unrhyw dreth os rhowch y cyfranddaliadau mewn ISA wrth ichi eu prynu.
Mae cynlluniau o'r math hwn sydd wedi'u cymeradwyo yn rhoi hawl ichi (neu 'opsiwn') i brynu gwerth hyd at £30,000 o gyfranddaliadau am bris penodedig ar amser neilltuol. Gall eich cyflogwr ddewis i bwy i gynnig yr opsiwn - ond fyddwch chi ddim yn gymwys os ydych eisoes yn berchen ar fwy na 25 y cant o gyfranddaliadau cwmni sy'n cael ei reoli gan lai na phum person (neu gan ei gyfarwyddwyr).
Fyddwch chi ddim yn talu Treth Incwm a chyfraniadau YG ar eich opsiwn na phan fyddwch yn cael eich cyfranddaliadau os yw'r cynllun yn cael ei gymeradwyo a'ch bod yn cadw at y rheolau.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu TEC pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.
Os ydych yn gweithio i gwmni gydag asedau o hyd at £30 miliwn, gall gynnig opsiwn ichi brynu cyfranddaliadau gwerth hyd at £100,000 heb ichi orfod talu Treth Incwm na chyfranddaliadau YG.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu TEC pan fyddwch yn gwerthu'r cyfranddaliadau.
Os ydych yn ymuno â chynllun, dyma rai anfanteision posibl:
Nid yw pob cynllun cyfranddaliadau gweithwyr yn cael eu cymeradwyo gan y llywodraeth - ac nid oes gan y cynlluniau hyn yr un manteision treth.
Gyda chynllun nad yw wedi'i gymeradwyo, byddwch yn talu: