Telerau ac amodau eich gwaith sy'n pennu a ydych yn gyflogedig ynteu'n hunangyflogedig. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod eich statws cyflogaeth oherwydd mae'n effeithio ar hawliau cyflogaeth a budd-daliadau, a sut yr ydych yn talu treth ac Yswiriant Gwladol.
Fel arfer gallwch ganfod eich statws cyflogaeth drwy ofyn ychydig o gwestiynau syml.
Yn fwy na thebyg, rydych yn hunangyflogedig:
Yn fwy na thebyg, rydych yn gyflogedig:
Gallwch hefyd fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig yr un pryd, yn gweithio i gyflogwr yn ystod y dydd o bosibl ac yn rhedeg eich busnes eich hun gyda'r nos. Meddyliwch am bob contract ar wahân - efallai y gwelwch eich bod yn hunangyflogedig ar un ond yn gyflogedig ar un arall.
Os ydych yn ansicr, dylech ofyn am gael siarad ag aelod o’r Tîm Cefnogaeth i Gyflogwyr yn eich Swyddfa Dreth. Ni cheir diffiniad cyfreithiol o gyflogaeth a hunangyflogaeth, felly os oes amheuaeth ynghylch statws rhywun gwneir y penderfyniad drwy gyfeirio at benderfyniadau blaenorol - a elwir yn 'gyfraith achos'.
Mae ai cyflogedig ynteu hunangyflogedig ydych chi yn dibynnu ar ffeithiau eich trefniadau gwaith, beth mae'ch contract yn ei ddweud neu gyfuniad o'r ddau.
Chi sy'n gyfrifol am eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun. I wneud hyn rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am eich incwm drwy lenwi ffurflen dreth Hunanasesu.
Rhaid i chi gofrestru fel person hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM o fewn tri mis, neu efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cosb.
Gallwch lwytho ffurflen gofrestru oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM drwy ddefnyddio'r ddolen isod, neu gallwch gofrestru drwy ffonio'r llinell gymorth ar gyfer rhai sydd Newydd Ddod yn Hunangyflogedig ar 0845 915 4515 sydd ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 8.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Yn dibynnu ar y math o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu, fe allech chi golli'r hawl i rai budd-daliadau, taliadau statudol, hawliau cyflogaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Os ydych chi'n gyflogedig, eich cyflogwr sy'n gyfrifol am ddidynnu a thalu eich treth a'ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy'r drefn Talu Wrth Ennill. Mae gennych hawl i rai hawliau a budd-daliadau hefyd, megis absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth, tâl salwch, Lwfans Ceisio Gwaith os collwch eich gwaith a Phensiwn gan y Wladwriaeth pan fyddwch yn ymddeol (gan gynnwys Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).