Cyn i chi brynu cerbyd ail-law, gallwch gael gwybod manylion y cerbyd i wneud yn siŵr nad yw wedi'i ddwyn neu wedi'i ddifrodi tu hwnt i'w adfer ac i sicrhau nad oes taliadau'n ddyledus arno. Fe allwch chi wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio gwasanaethau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a chwmnïau preifat sy'n archwilio cerbydau.
Ymholiadau am gerbydau ar-lein
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i gael gwybodaeth benodol am gerbyd sydd gan y DVLA yn ei gronfa ddata, gan gynnwys:
Ymholiadau dros y ffôn
Mae yna ddau wasanaeth ffôn cyfradd uwch sy'n rhoi gwybodaeth am gerbydau. Cost y galwadau yw 49 ceiniog y funud ac mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8.00 am a 5.30 pm ar ddydd Sadwrn.
Mae'r gwasanaeth archwilio cerbydau yn rhoi manylion y dyddiad cofrestru; blwyddyn gwneuthuriad; maint yr injan (cc); gollyngiadau CO2 a chadarnhau'r lliw.
Rhif Ffôn 0906 185 8585
Mae'r llinell dyddiad dyledus (dyddiad treth cerbyd yn dod i ben) yn rhoi gwybod pryd bydd y ddisg treth gyfredol yn dod i ben.
Rhif Ffôn 0906 765 7585
Er bod cofnodion y cerbydau'n cael eu diweddaru drwy'r amser, mae'n bosib bod cais am dreth cerbyd yn aros i gael ei phrosesu ac nad yw cofnod y cerbyd wedi'i ddiweddaru eto. Bydd y wybodaeth a roddir trwy'r gwasanaeth hwn yn gywir gan amlaf, ond ni ddylid ystyried hyn yn gadarnhad llwyr fod treth ar y cerbyd ar y pryd.
Mae DVLA yn darparu gwybodaeth am gofrestru cerbydau i rai cwmnïau er mwyn amddiffyn y defnyddiwr a gwarchod rhag twyll.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd enw na manylion cyfeiriad unigolion yn cael eu darparu.
Mae'n bosibl y bydd cwmnïau'n ychwanegu manylion gan yr heddlu, cwmnïau cyllid ac yswiriant. Gall y cwmnïau isod ddarparu gwasanaeth archwilio cerbydau i'r cyhoedd ac i'r diwydiant ceir.
I gael gwybodaeth am brisiau a chynnyrch dylech gysylltu â hwy yn uniongyrchol.
I wneud ymholiadau ynghylch prynu data cerbyd dienw gallwch ysgrifennu at neu ebostio'r canlynol:
Vehicle Business Support
Data Management Team
Central Marketing and Market Research
C1/W
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Ebost:
vehicle.business.support@dvla.gsi.gov.uk
Defnyddir y gwasanaethau hyn gan werthwyr ceir a fydd fel arfer wedi archwilio cerbydau cyn eu prynu.