O 1 Gorffennaf 2005 ymlaen, ni fydd yr hen fath o Ddogfennau Cofrestru V5 yn ddilys rhagor. Efallai eich bod wedi cael tystysgrif gofrestru newydd V5C eisoes. Mae'n hawdd adnabod y dystysgrif newydd, gan fod ganddi dudalen flaen las amlwg, gyda'r geiriau 'Tystysgrif Gofrestru' arni.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi bod yn cyhoeddi’r Dystysgrif Cofrestru newydd (V5C) ers 1 Ionawr 2004. Ers Mehefin 2004, bydd modurwyr sy’n defnyddio’r ffurflen atgoffa adnewyddu V11 i ail-drethu neu wneud Datganiad Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) wedi derbyn tystysgrif newydd. Erbyn diwedd Mehefin 2005, dylai’r rhan fwyaf o geidwaid cofrestredig fod wedi derbyn tystysgrif newydd, yn cynnwys y rheini sydd wedi trethu eu cerbyd (gan ddefnyddio’r ffurflen atgoffa adnewyddu V11) neu wneud HOS, yn ystod Mehefin 2005.
Roedd darllediad ymgyrch teledu rhwng 12-29 Mehefin yn annog holl geidwaid cerbydau a sydd heb derbyn y Dystystrif Cofrestru newydd i ddanfon eu hen Dogfen Cofrestru V5 i’r DVLA, Abertawe, SA99 1BA, gyda llythyr yn esboniadwy.
Mae hyn yn cynnwys ceidwaid sydd yn adnewyddu cerbydau oddi-ar-y-ffordd, neu sy’n esempt o dreth car am reswm arall. Mae ceidwaid cerbydau hen neu glasur sy’n pryderu byddant efallai yn colli gwybodaeth ar hanes eu car yn gallu gofyn mewn llythyr i’w hen V5 gael ei dychwelyd.
Ni fydd y cyflwyniad o’r dystysgrif newydd yn effeithio yr hawl i rhifau cofrestru. Ni fydd y modurwyr sydd ag hawl dilys ar gerbyd a’i rhif cofrestredig yn cael eu hanfanteisio. Nif fydd y cynllyn V765 sy’n galluogi cerbydau hen i gael ei ailymuno gyda’u rhifau cofrestredig gwreiddiol, yn cael eu heffeithio â’r newidiadau hyn.
Gofynnir i bawb sy'n moduro sicrhau eu bod yn derbyn y Dystysgrif Gofrestru V5C newydd, gan y gallai methu â dangos V5C achosi problemau wrth werthu cerbyd ar ôl 30 Mehefin 2005. Ar ôl y dyddiad hwn, gall gwerthwyr ceir a phrynwyr preifat wrthod prynu os nad yw ceidwad y cerbyd yn gallu dangos y dystysgrif newydd.
Dylai ceidwaid cerbydau gadw eu tystysgrif newydd yn ddiogel, a chofio difa'r hen Ddogfen Gofrestru V5. Mae angen gwneud hyn er mwyn atal troseddau fel 'clonio ceir' ac i amddiffyn modurwyr gonest. Os oes dwy ddogfen ar gael, gellid gosod platiau rhif ffug ar gerbyd wedi'i ddwyn, a hwnnw wedyn yn dwyn manylion adnabod cerbyd dilys. Mae'n bwysig hefyd bod y DVLA yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i fanylion ceidwad cerbyd. Dan y rheolau treth cerbyd newydd a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2004, hyd nes y bydd ceidwad cerbyd yn rhoi gwybod i'r DVLA nad hwy sydd yn berchen arno bellach, byddant yn gyfrifol am drethu'r car ac am dalu unrhyw gosb sy'n codi yn sgîl hynny.
Gofynnir i geidwaid sicrhau bod eu manylion personol yn gywir, a bod manylion hawdd eu hadnabod, fel math, model, lliw, rhif adnabod/ffrâm a rhif yr injan ar eu Tystysgrif Gofrestru newydd yn gywir. Os gwelir unrhyw anghysonderau ar y dystysgrif gofrestru, rhaid dychwelyd y V5C i'r DVLA i'w chywiro. Mae'r Canllawiau (INS 160) sy'n dod gyda'r V5C yn nodi sut i wneud hyn. Mae'r rhain ar gael i'w llwytho drwy ddilyn y ddolen i'r taflenni Moduro isod.
Datblygwyd y Dystysgrif Gofrestru newydd i gydymffurfio â Chyfarwyddeb Ewrop 1999/37/EC, y cytunwyd yn ei chylch gan yr holl Aelod-Wladwriaethau. Mae'n cyflwyno fformat cyffredin ar gyfer tystysgrifau cofrestru. Bydd hyn yn helpu i adnabod cerbydau mewn traffig rhyngwladol a gellir defnyddio'r dystysgrif ar gyfer ailgofrestru ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r dystysgrif newydd hefyd yn cynnwys nodweddion diogelwch ychwanegol i helpu gyda gorfodi'r gyfraith.
Er mwyn bod yn gyson a chael fformat unffurf, mae'r Dystysgrif Gofrestru hefyd wedi'i haddasu i'w defnyddio yng Ngogledd Iwerddon.