Cynllun gwirfoddol i fasnachwyr moduron yw'r cynllun disgownt ar gerbydau, neu'r cynllun 'sgrapio'. Os bydd masnachwr yn rhan o'r cynllun, bydd yn rhoi gostyngiad o £2,000 i chi ar gerbyd newydd os byddwch yn gadael iddo sgrapio'ch hen gerbyd. Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng canol mis Mai 2009 a mis Mawrth 2010, gan ddibynnu a fydd ei gyllideb benodedig yn dod i ben cyn hynny.
Cysylltwch â'ch masnachwr cerbydau lleol i weld a yw wedi ymuno â'r cynllun disgownt ar gerbydau. Bydd y masnachwr yn gwneud yn siŵr bod eich cerbyd chi a'r cerbyd newydd y mae arnoch eisiau ei brynu yn bodloni rheolau'r cynllun. Ar ôl cytuno ar y gwerthiant, bydd y masnachwr yn rhoi trefn ar y gwaith papur ac yn trefnu i'ch cerbyd gael ei sgrapio.
Didynnir y disgownt o'r pris a dalwch am y cerbyd newydd, a bydd yn ymddangos ar eich anfoneb pan gewch eich cerbyd newydd.
Er mwyn cael y disgownt, mae'n rhaid i'ch hen gerbyd a'r cerbyd newydd y mae arnoch eisiau ei brynu fodloni amodau penodol.
Eich cerbyd chi
Mae'n rhaid i'ch cerbyd chi fod:
Y cerbyd newydd
Mae'n rhaid i'r cerbyd newydd yr ydych am ei brynu fod:
Pan fyddwch yn cyfnewid eich hen gerbyd am gerbyd newydd, mae'n rhaid i'r ddau gerbyd fod â'r un ceidwad cofrestredig.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: