Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Archwiliad adnabod cerbyd

Mae troseddau sy’n ymwneud â cherbydau yn broblem ddifrifol. Amcangyfrifir ei fod yn costio £3 biliwn y flwyddyn i'r economi, ac mae'n effeithio'n uniongyrchol ar fodurwyr drwy godi premiymau yswiriant. Un agwedd ar droseddu ym maes cerbydau yw 'ffugio' ceir. Mae hyn yn arfer sy'n cynnwys honni bod ceir sydd wedi'u dwyn yn geir sydd wedi'u hatgyweirio ar ôl cael eu difrodi mewn damwain.

Mae'r cynllun Archwiliad Adnabod Cerbyd (VIC) wedi'i gyflwyno i atal ffugio. Ers 7 Ebrill 2003, rhaid i yswirwyr hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am bob car a bennir yn anadferadwy yng nghategorïau adfer A, B neu C. Bydd yr hysbysiad hwn yn gosod 'marciwr VIC' ar gofnod DVLA y cerbyd. Tra bo marciwr VIC wedi'i osod, ni fydd y DVLA yn cyhoeddi tystysgrif cofrestru V5C, na ffurflen atgoffa am drwydded cerbyd V11. Rhaid i'r car basio VIC er mwyn i'r marciwr VIC gael ei dynnu.

Cynhelir y VIC gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA). Mae wedi'i gynllunio i adnabod y car ac mae'n helpu i sicrhau y rhoddir y car cywir yn ôl ar y ffordd. Mae'n cymryd tuag 20 munud i'w gwblhau, ac mae'n golygu cymharu'r manylion ar gofnod DVLA y cerbyd â'r car dan sylw. Prawf adnabod yw'r VIC, nid yw'n asesiad ffurfiol o ansawdd y gwaith atgyweirio nac yn cadarnhau bod y cerbyd yn addas i fod ar y ffordd. Os oes gennych chi unrhyw bryderon sy'n ymwneud â'r agweddau hyn, dylech geisio barn arbenigwr annibynnol.

Wedi i gar basio VIC, anodir y V5C a gyhoeddir i ddangos "wedi'i atgyweirio'n sylweddol a/neu ei ddifrodi mewn damwain; wedi cael archwiliad adnabod ar dd/mm/ccbb".

Cadarnhau a yw marciwr VIC wedi'i osod

  • i wirio a oes marciwr VIC wedi'i osod, cysylltwch â VOSA ar 08706 060 440
  • er mwyn i VOSA gynnal VIC ar gar, rhaid bod marciwr VIC wedi'i osod ar gofnod DVLA y cerbyd

Gwneud cais am VIC

  • mae VIC ar gael o 56 lleoliad VOSA
  • cwblhewch ffurflen gais VIC1 a'i hanfon i VOSA, ynghyd â'r ffi gywir
  • darperir cyfarwyddiadau llawn a'r 'Telerau ac Amodau' ar y ffurflen gais VIC1
  • fe'ch hysbysir am apwyntiad wedi i VOSA brosesu eich cais
 Math o brawf  Normal  Allan o oriau gwaith
 Archwiliad adnabod cerbyd  £36.00  £43.50
 Apelion  £36.00  £43.50

 

Mynd â'r car i gael VIC

  • rhaid gwneud gwaith atgyweirio a rhaid i'r car fod yn addas i fod ar y ffordd a rhaid bod modd ei yrru dan ei bŵer ei hun
  • os yw'r car yn fwy na 3 blwyddyn oed, rhaid bod ganddo dystysgrif MOT dilys os caiff ei yrru i gael VIC
  • rhaid bod gan y person sy'n gyrru'r car yswiriant priodol i wneud hynny
  • rhaid bod gan y car blatiau rhif blaen ac ôl yn y golwg os caiff ei yrru i gael VIC. Am gymorth i gael platiau rhif, cysylltwch â VOSA ar 08706 060 440
  • ceir gyrru car yn uniongyrchol i gael VIC a drefnwyd ymlaen llaw, ac oddi yno, heb dreth ffordd

Ar ôl VIC

Os yw VOSA yn fodlon eu bod yn adnabod eich car, rhoddir VIC20 i chi, sef tystysgrif pasio. Hysbysir y DVLA yn electronig am y canlyniad pasio. Fe allwch chi wneud cais i'r DVLA am V5C drwy ddefnyddio ffurflen gais am dystysgrif cofrestru cerbyd V62. Os oedd eich car yn anadferadwy yng nghategori c, dylech ddatgan hyn wrth lenwi ffurflen V62, gan eich bod wedi'ch eithrio rhag talu ffi'r ffurflen gais V62. Os anfonoch chi ffurflen gais V62 i'r DVLA cyn mynd â'ch car i gael VIC, byddwch wedi derbyn llythyr hysbysu VIC gan y DVLA. Dylid dychwelyd y llythyr hwn i'r DVLA yn awr, gyda'r datganiad wedi'i lenwi.

Os na all VOSA adnabod eich car, rhoddir hysbysiad methiant VIC i chi, VIC21, a fydd yn rhoi'r rheswm/rhesymau am y methiant. Bydd VOSA yn cyfeirio'r achos naill ai at yr Heddlu neu at y DVLA i'w archwilio ymhellach. Bydd VOSA yn monitro hynt yr achos ac yn eich hysbysu am y canlyniad ar ôl ei gwblhau. Gallai hyn gymryd sawl wythnos. Os, yn dilyn archwiliad, y gellir cadarnhau mewn modd boddhaol mai'r car hwnnw yw'r car gwreiddiol, bydd VOSA yn cyhoeddi canlyniad pasio. Fodd bynnag, os nad oes modd adnabod y car, bydd y marciwr VIC yn aros ar gofnod DVLA ac ni chaiff ffurflen V5C ei chyhoeddi.

Apeliadau VIC

Os nad ydych chi’n cytuno â chanlyniad y VIC, gallwch wneud apêl i VOSA. Rhaid cyflwyno apeliadau ar ffurflen VIC17, ynghyd â'r ffi gywir.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU