Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid ar chwarae bach y mae prynu cerbyd ail-law. Drwy dynnu’ch sylw at y cyngor canlynol, gall yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eich helpu i leihau’r risg o brynu cerbyd sydd wedi’i ddwyn. Dyma ambell awgrym i chi eu hystyried.
Bydd DVLA yn cael gwared ar bob V5C glas presennol ac yn cyhoeddi V5C newydd coch ar gyfer pob cerbyd erbyn mis Tachwedd 2012. Pan fyddwch yn cael y V5C newydd coch bydd yn rhaid i chi ddefnyddio hon wrth ddelio â DVLA neu Swyddfa’r Post® yn y dyfodol.
Gwybod eich hawliau defnyddwyr wrth brynu car
Does dim modd gwarantu y byddwch chi’n osgoi troseddau sy'n gysylltiedig â cherbydau, ond mae’n bosib i chi leihau’r risgiau. Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gwestiynau i ofyn ynghylch:
Defnyddiwch y camau isod i’ch helpu.
Cael awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar ba archwiliadau i’w cynnal
Dyma rai pethau y dylech eu hystyried cyn gweld y cerbyd:
Gellir newid y milltiroedd ar gloc cerbyd er mwyn rhoi’r argraff ei fod wedi teithio llai o filltiroedd, a hynny er mwyn ceisio cael gwell pris
Gallwch gadarnhau’r wybodaeth hon cyn gweld y cerbyd. Mae’r ddolen isod yn rhoi manylion cwmnïau a fydd yn gwneud hyn drosoch. Bydd angen i chi holi’r cwmnïau pa wasanaethau y maent yn eu darparu.
Gall lladron addasu cerbyd sydd wedi'i ddwyn a'i waith papur er mwyn gwneud iddo edrych fel cerbyd cyfreithlon. Gelwir hyn yn glonio cerbydau.
Daliwch y V5C i’r golau – dylech allu gweld marc dŵr ‘DVL’.
Gwnewch yn siŵr bod gan y gwerthwr yr hawl i werthu’r cerbyd. Os yw’r cerbyd wedi bod ym meddiant y gwerthwr am gyfnod, dylai fod ag unrhyw un o’r canlynol:
Cofiwch, nid yw’r V5C yn brawf o berchnogaeth.
Gwnewch yn siŵr bod y V5C yn cyd-fynd â manylion y cerbyd a phob math arall o ddogfennaeth a ddarperir.
Cadwch lygad am dystysgrifau cofrestru wedi’u dwyn. Os oes gan y gwerthwr V5C glas gyda rhif cyfresol yn yr ystodau canlynol, peidiwch â phrynu'r cerbyd, a dylech gysylltu â'r heddlu pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny:
Mae’r rhif cyfresol i’w weld mewn cylch gwyn yng nghornel dde uchaf y V5C.
Byddwch yn wyliadwrus, hyd yn oed os nad yw’r rhif cyfresol yn yr ystodau uchod. Os ydych chi’n credu bod rhywun wedi addasu’r rhif cyfresol, neu os oes rhan o'r V5C ar goll, peidiwch â phrynu’r cerbyd.
Mae nifer o newidiadau wedi bod i’r V5C. Mae’r newidiadau’n cynnwys lliw newydd a gwell gwybodaeth i gwsmeriaid.
Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes rhywun wedi ymyrryd â rhif adnabod y cerbyd neu os yw ar goll, peidiwch â phrynu’r cerbyd
Cyn prynu cerbyd dylech ystyried y canlynol:
Os byddwch yn penderfynu prynu cerbyd, dylech osgoi talu ag arian parod. Byddwch yn ymwybodol o wefannau ffug sy’n gofyn am daliadau drwy gyfrif Escrow. Trefniad yw cyfrif Escrow ble mae trydydd parti yn dal arian ar ran y partïon trafod. Talwch drwy ddefnyddio system fancio, a chofiwch gael derbynneb.
Gallwch argraffu'r rhestr wirio isod, a mynd â hi gyda chi i'ch atgoffa o'r hyn y dylech edrych amdano wrth brynu cerbyd.
Os ydych chi’n ansicr, dilynwch eich greddf. Os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod. Peidiwch â theimlo dan bwysau i brynu – mae digon o gerbydau eraill ar gael.
Os ydych chi’n prynu cerbyd ail-law gan ddeliwr, arwerthwr neu werthwr preifat, sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau defnyddiwr.
I gael gwybod rhagor am eich hawliau defnyddiwr, am warantau, neu am beth sy’n digwydd pan fydd pethau’n mynd o chwith, dilynwch y ddolen isod.
Nid yw DVLA na Directgov yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw faterion sy’n codi o gysylltu â’r dolenni syndicâd hyn, na chynnwys gwefannau trydydd parti. Nid yw DVLA na Directgov yn cefnogi unrhyw un o’r sefydliadau hyn.