Os byddwch chi'n gwerthu eich cerbyd yn breifat neu drwy werthwr ceir, dylech roi gwybod i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am hynny drwy ddefnyddio rhan briodol y dystysgrif cofrestru (V5C).
Mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i'r DVLA cyn gynted ag y byddwch yn gwerthu eich cerbyd neu chi fydd yn gyfrifol o hyd am dalu treth ar y cerbyd ac am unrhyw gosbau a all godi am beidio'i thalu. Efallai mai chi hefyd fydd yn cael gohebiaeth a fydd yn gysylltiedig ag unrhyw droseddau moduro a gyflawnir yn y cerbyd. Ar ôl i'r DVLA gael gwybod, dylech gael llythyr cydnabod yn cadarnhau nad chi sy'n gyfrifol am y cerbyd mwyach.
Mae rhai camau syml y gallwch chi eu cymryd i warchod eich hun rhag dod yn ddioddefwr trosedd wrth werthu’ch cerbyd:
Bydd y prynwr am gael gweld y dystysgrif cofrestru (V5C) er mwyn gwirio manylion y cerbyd. Efallai na fydd modd i chi werthu eich cerbyd heb un. Os ydych chi wedi'i cholli, fe allwch chi gael un newydd yn ei lle gan y DVLA.
Dylech bob amser gadw nodyn ar wahân o enw a chyfeiriad y prynwr. Dylech roi gwybod i'r DVLA gan ddefnyddio'r rhan briodol o'r ddogfen neu'r dystysgrif gofrestru.
Os nad oes gennych chi V5C, fe allwch chi dal roi gwybod i'r DVLA nad yw'r cerbyd gennych mwyach. Er mwyn gwneud hyn dylech ysgrifennu i'r DVLA, Abertawe, SA99 1AR gan nodi rhif cofrestru'r cerbyd, math a model y cerbyd, union ddyddiad ei werthu ac enw a chyfeiriad y ceidwad newydd.
Fodd bynnag, dylech sylweddoli na fydd cofnodion y DVLA yn gyflawn nes i'r perchennog newydd roi gwybod i'r DVLA drwy lythyr. Tan hynny, efallai y bydd yr heddlu'n cysylltu â chi os bydd yn rhaid iddynt wneud ymholiadau am y cerbyd.
Os ydych chi'n trosglwyddo eich cerbyd i werthwr ceir (gweler y nodyn*), a'ch bod yn meddu ar dystysgrif gofrestru (V5C), dylech roi gwybod i'r DVLA am y gwerthiant drwy ddefnyddio'r rhan V5C/3 (melyn) a rhoi gweddill y ffurflen i'r gwerthwr.
(*At y diben hwn, mae gwerthwr ceir yn golygu deliwr cerbydau, arwerthwr cerbydau, yswiriwr cerbydau sydd wedi cytuno â chi ynghylch hawliad am gyfanswm y golled, datgymalwr cerbydau (iard sgrap), neu gwmni ariannol gyda budd ariannol yn y cerbyd).
Dim ond os byddwch chi'n malu neu'n dinistrio’r cerbyd eich hun y dylech chi ddweud wrth DVLA bod y cerbyd wedi’i sgrapio. Os yw'r cerbyd y tu hwnt i'w adfer, bydd y cwmni yswiriant yn rhoi gwybod i'r DVLA ar eich rhan.
Bydd nodi milltiroedd y cerbyd yn y blwch yn help yn y frwydr yn erbyn 'clocio' cerbydau. Ystyr hyn yw pan fydd odomedr y cerbyd (y sbidomedr) yn cael ei droi'n ôl i dwyllo a lleihau nifer y milltiroedd sydd ar y cloc.