Y ffurflenni Cyllid a Thollau EM sydd eu hangen i gofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio
Bydd angen i unrhyw gerbyd sy'n cael ei fewnforio i Wledydd Prydain gael ffurflenni Cyllid a Thollau EM er mwyn gallu cofrestru'r cerbyd i'w ddefnyddio ar y ffordd. Bydd y ffurflenni hynny'n dibynnu ar y wlad dan sylw.
Cerbydau wedi'u mewnforio o'r Undeb Ewropeaidd
- BFG 414 - mae'r ffurflen hon yn cael ei rhoi i bob cerbyd sydd wedi'i eithrio gan y tollau, waeth pa mor hen, sydd wedi dod i feddiant personol personél Lluoedd Arfog Prydain yn yr Almaen o fewn yr Undeb Ewropeaidd
- VAT 415 - rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi gan unigolion sydd wedi meddu'n bersonol ar fath newydd o gerbyd (NMT) mewn aelod-wladwriaeth arall. Mae'r ffurflen ar gael mewn swyddfeydd DVLA lleol ac ar ôl ei llenwi bydd yn cael ei hanfon ymlaen i Gyllid a Thollau EM. Gellir cael y ffurflen hefyd o ganolfannau cyngor busnes TAW. Yn ôl diffiniad Cyllid a Thollau EM, cerbydau sy'n dod yn wreiddiol o'r Undeb Ewropeaidd yw cerbydau NMT, ac maen nhw naill ai'n llai na chwe mis oed neu wedi teithio llai na 6,000km (3,750 milltir)
- VAT 413 - mae'r ffurflen hon yn cael ei rhoi gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer cerbydau NMT sydd wedi cael eu meddu'n bersonol o fewn yr UE a bod HMRC wedi cael gwybod yn uniongyrchol am hynny, yn hytrach na'r swyddfa DVLA leol.
- VAT 414 - dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y gellir defnyddio'r ffurflen hunanddatgan hon:
a. ar gyfer cerbydau NMT sy'n cael eu meddu'n fasnachol o fewn yr UE gan fasnachwyr cofrestredig sy'n talu TAW
b. ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau NMT (h.y. dros chwe mis oed ac wedi teithio dros 6,000km) sydd wedi dod o'r UE
Aelod-Wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd o 1 Mai, 2004:
Portiwgal, Sbaen, Iwerddon, y DU, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen, Awstria, Groeg, Sweden, y Ffindir, Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofenia, Gweriniaeth Slofacia.
Cyngor pellach am dollau a threthi mewnforio
Am ragor o gyngor am dollau a threthi mewnforio, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000, neu ewch i'r wefan drwy glicio ar y ddolen isod.