Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mewnforio cerbyd dros dro

Gall ymwelydd â'r Deyrnas Unedig (DU) ddefnyddio cerbyd sy'n arddangos platiau tramor am gyfnod penodol. Mae hyn fel arfer yn chwe mis mewn cyfnod o 12 mis, ar yr amod y caiff yr holl drethi, gan gynnwys y dreth cerbyd, eu talu yng ngwlad eu tarddiad.

Platiau tramor

Os yw cerbyd sydd â phlatiau tramor yn cael ei stopio gan yr heddlu, cyfrifoldeb y ceidwad yw profi fod ganddo ef neu hi'r hawl i ddefnyddio'r cerbyd yn y DU heb orfod ei gofrestru na'i drethu.

Cerbydau o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Bydd angen i yrwyr cerbydau o'r tu allan i'r UE ddangos i Gyllid a Thollau EM (GLlEM) bod ganddynt hawl i ddefnyddio'r cerbyd yn y DU dros dro. Os gwneir hyn, rhoddir Hysbysiad 3 GLlEM iddynt, a fydd â'r dyddiad wedi'i stampio arno yn nodi pryd ddylai'r cerbyd adael y wlad.

GLlEM sy'n penderfynu a fydd cerbyd sy'n ymweld o'r tu allan i'r UE yn cael statws ymweld ai peidio. Bydd GLlEM yn penderfynu a ellir caniatáu estyniad i'r cyfnod o chwe mis, ac os nad yw'n bosibl, byddant yn rhoi tystysgrifau statws (ffurflenni C&E 368 neu C&E 388). Yna, bydd yn rhaid i'r cerbyd gael ei gofrestru yn un o swyddfeydd lleol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Cerbydau'r Undeb Ewropeaidd

Cyfrifoldeb y gyrrwr yw profi ers faint mae'r cerbyd wedi bod yn y wlad. Fe ellir gwneud hyn drwy ddangos tocynnau fferi.

Mae hawl i ddod â cherbydau'r UE i'r DU a'u defnyddio am chwe mis mewn unrhyw gyfnod o 12 mis heb fod angen cofrestru yma, ar yr amod bod y cerbyd yn cydymffurfio â gofynion ei famwlad. Pan fydd ceidwad y cerbyd yn dod i fyw yn y wlad hon, rhaid cofrestru a thrwyddedu'r cerbyd yn syth. Nid yw'n ofynnol i breswylwyr y DU ddefnyddio cerbyd wedi'i gofrestru dramor ar ffyrdd y DU.

Bydd angen i rai cerbydau ddangos plât 'Q' dros dro. Nid yw statws ymweld dros dro yn addas i'r cerbydau hyn.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU