Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Arweiniad i'r cynllun Cyd-gydnabyddiaeth

Bydd y gwasanaeth hwn o ddiddordeb i unigolion sy'n dymuno mewnforio car, beic modur neu gerbyd nwyddau yn barhaol i'r DU o aelod wlad Ewropeaidd arall.

Cofrestru cerbyd yn y DU

Er mwyn cofrestru cerbyd yn y DU, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) angen sicrhau bod y cerbyd dan sylw yn addas ar gyfer ffyrdd y DU. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr erthygl ‘Cofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio’.

Y proses Gyd-gynabyddiaeth

Mae'r broses Gyd-gynabyddiaeth (neu'r Drefn Hysbysiad Comisiwn) yn mynnu bod y sawl sydd eisiau cofrestru'r cerbyd yn gwneud nifer o ddatganiadau ynghylch addasrwydd y cerbyd ar gyfer defnydd ar ffyrdd y DU.

Fel rhan o’r broses, mae'n bosibl y bydd rhaid gwneud addasiadau i'r cerbyd er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth Gwneuthuriad a Defnydd y DU, a'r Rheoliadau Goleuo Cerbydau'r Ffordd. Hefyd gofynnir i chi ddarparu derbynebau garej i brofi bod y newidiadau hyn wedi cael eu gwneud.

Ar ôl derbyn yr holl waith papur angenrheidiol a'r ffi gweinyddu briodol, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Cerbyd (VCA) yn rhoi tystysgrif i chi y gellir ei gyflwyno i'r DVLA i gefnogi'r cais am gofrestriad DU.

Gellir llwytho ffurflen gais sy’n cynnwys nodiadau cyfarwyddo ar y gofynion a'r trefniadau amrywiol ar gyfer gwneud hyn.

Os hoffech wybod a yw'ch cerbyd chi'n gymwys ar gyfer ei drin dan y cynllun Cyd-gydnabyddiaeth, cysylltwch â thîm deddfwriaeth y VCA ar 0117 952 4119 (os ydych chi’n ffonio o du allan y DU, ffoniwch +44 117 952 4119).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU