Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol

Archwiliad cyn-cofrestru yw'r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) ar gyfer pob math o gerbydau sydd heb gael eu cymeradwyo yn ôl math i safonau Prydeinig neu Ewropeaidd. Archwiliad ydyw i ddangos bod y cerbyd yn bodloni safonau amgylcheddol a diogelwch modern.

Cerbydau'r cynllun IVA

Bydd y cynllun IVA yn berthnasol i'r mathau canlynol o gerbydau, gan gynnwys cerbydau at ddefnydd personol:

  • ceir teithwyr a cherbydau nwyddau ysgafn
  • cerbydau mwy sy'n cludo teithwyr, fel bysiau a bysiau moethus
  • cerbydau nwyddau o faint trwm a chanolig, fel tryciau a cherbydau nwyddau trwm
  • ôl-gerbydau

Cynlluniau IVA – dyddiadau cychwyn

Caiff y cynllun IVA ei gyflwyno i wahanol fathau o gerbydau ar y dyddiadau a welir isod:

  • 29 Ebrill 2009 ar gyfer ceir teithwyr
  • 29 Hydref 2010 ar gyfer cerbydau mwy sy'n cludo teithwyr
  • 29 Hydref 2011 ar gyfer cerbydau nwyddau ysgafn – bydd y rhain yn dal i gael eu harchwilio dan y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) nes caiff ei ddisodli gan y cynllun IVA
  • 29 Ebrill 2012 ar gyfer cerbydau at ddibenion arbennig, megis cerbyd sydd â darpariaeth arbennig i gludo cadair olwyn
  • 29 Hydref 2012 ar gyfer cerbydau nwyddau canolig a thrwm ac ôl-gerbydau

Bydd angen i'r rheini sy'n defnyddio'r cynllun SVA ar hyn o bryd ddechrau defnyddio'r cynllun IVA ar yr adeg briodol.

Pwy sydd angen defnyddio'r cynllun IVA?

Cynllun Cymeradwyaeth Genedlaethol y DU yw'r cynllun IVA, ac fe'i bwriedir ar gyfer unigolion neu gwmnïau sy'n mewnforio cerbydau, sy'n cyfosod neu'n gweithgynhyrchu nifer fach o gerbydau unigol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw un sy'n adeiladu, yn cynllunio neu'n gwerthu ceir cit
  • pobl sy'n mewnforio ceir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, megis y Dwyrain Pell a Gogledd America
  • pobl sy'n ailadeiladu ceir hŷn – sydd weithiau'n codi cwestiynau ynghylch manylion adnabod gwreiddiol y car
  • arbenigwyr sy'n addasu cerbydau newydd i fod yn gerbydau sy'n hwylus i gadeiriau olwyn
  • gweithgynhyrchwyr sy'n gwneud nifer fach o gerbydau
  • gweithgynhyrchwyr ôl-gerbydau, at ddibenion busnes neu bersonol
  • gweithgynhyrchwyr neu fewnforwyr cerbydau teithwyr, at ddibenion busnes neu bersonol
  • gweithgynhyrchwyr neu fewnforwyr cerbydau nwyddau, at ddibenion busnes neu bersonol

Mwy o ddolenni defnyddiol

I gael mwy o wybodaeth am Y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol, ymwelwch â'r wefan ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU