Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl

Archwiliad cyn-cofrestru yw'r cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl ar gyfer ceir a cherbydau nwyddau ysgafn sydd heb gael eu cymeradwyo yn ôl math i safonau Prydeinig neu Ewropeaidd. Prif bwrpas y cynllun yw sicrhau bod y cerbydau hyn wedi cael eu dylunio a'u hadeiladu i safonau diogelwch priodol cyn y gellid eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus.

Pa gerbydau sy'n gorfod cael prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl?

Bydd eich cerbyd yn cael prawf Cymeradwyaeth os yw'n un o'r canlynol:

  • wedi'i fewnforio'n fasnachol
  • wedi'i fewnforio'n bersonol
  • wedi'i adeiladu gan amaturiaid
  • yn gerbyd foliwm isel (VLV)
  • wedi'i adeiladu gan ddefnyddio darnau o hen gerbyd cofrestredig
  • yn hers
  • yn gerbyd arfog
  • wedi'i ailadeiladu
  • yn gerbyd gyriant llaw chwith (wedi'i fewnforio)

Gellir archwilio carafanau modur ac ambiwlansys dan y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl hefyd.

Y Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Uwch

Mae'r prawf Cymeradwyaeth Uwch yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol o gydymffurfiaeth â safonau Cymeradwyaeth Math y CE (neu rai safonau cyfatebol eraill) ar gyfer 10 prif ran allweddol y cerbyd. Maent i gyd yn berthnasol i gerbydau cludo teithwyr a dim ond rhai ohonynt sy'n berthnasol i gerbydau nwyddau. Rhaid i gerbydau a gafodd eu hadeiladu ar ôl y dyddiad a nodwyd gael y prawf uwch.

  • angorfeydd gwregysau diogelwch (1/7/1991) (cludo teithwyr)
  • llywio gwarchodol (1/7/1991) (cludo teithwyr)
  • swn ac offer distewi (1/7/1991) (cludo teithwyr a nwyddau)
  • gollyngiadau o'r egsôst (1/1/1993) (cludo teithwyr a nwyddau)
  • brêcs (1/4/1995) (cludo teithwyr a nwyddau)
  • gosodiadau gwregysau diogelwch (1/7/1997) (cludo teithwyr)
  • defnyddio tanwydd/CO2 (1/1/1997) (cludo teithwyr)
  • dyfais atal lladron (1/10/1998) (cludo teithwyr)
  • amddiffyniad blaen mewn gwrthdrawiad (1/10/2003) (cludo teithwyr)
  • amddiffyniad ochr mewn gwrthdrawiad (1/10/2003) (cludo teithwyr)

Dangos Cydymffurfiaeth

Mae pum ffordd sylfaenol o ddangos cydymffurfiaeth:

  • dangos bod y Safonau Cymeradwyo Ewropeaidd wedi'u bodloni - drwy, er enghraifft, y rhif Cymeradwyo Math ar y plât Rhif Adnabod Cerbyd neu dystiolaeth ddogfennol gan y gwneuthurwr (Cydymffurfio â Chyfarwyddeb)
  • Dangos bod safonau cyffelyb (er nad ydynt yn rhai Ewropeaidd) wedi'u bodloni (Safonau Cyffelyb)
  • Prawf cymhariaeth gyda math o gerbyd sydd wedi'i gymeradwyo (Prawf Cymhariaeth)
  • Cynnal prawf go-iawn i safon briodol y Gyfarwyddeb (Prawf Cyfarwyddeb)
  • Defnyddio Adroddiad Model er mwyn gwirio bod gan y cerbyd yr un fanyleb ag un sy'n bodloni'r safonau (Adroddiad Model)

Adroddiadau Model a'r Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl

Defnyddir Adroddiad Model ar gyfer prawf Cymeradwyaeth Uwch pan fo ymgeisydd eisiau dangos cydymffurfiaeth ar gerbyd arall, ar sail un neu nifer o Brofion Cyfarwyddeb neu Brofion Cymhariaeth a gynhaliwyd yn wreiddiol ar "brif" gerbyd.

Er mai'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) sy'n llunio'r adroddiad, mae'n defnyddio data a gynhyrchwyd gan Labordy Profi y talwyd amdano gan berchennog yr Adroddiad Model a hwnnw hefyd wnaeth ddarparu'r "prif" gerbyd i'r labordy. Bydd y rhan fwyaf o berchnogion Adroddiadau Model yn eu llogi i ymgeiswyr sydd ddim eisiau ysgwyddo'r gost o gynnal eu profion labordy eu hunain.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU