Y rhan fwyaf o'r darnau sy'n cael eu harchwilio dan y cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) yw'r rhai sy'n cael eu profi pan fydd gwneuthurwyr yn gwneud cais am gymeradwyaeth math ar gerbydau sy'n cael eu masgynhyrchu.
Mae'r tabl isod yn rhestru'r eitemau sy'n cael eu harchwilio ar gyfer dwy lefel y cynllun. Mae pob darn ar gyfer yr SVA safonol yn cael eu harchwilio yn yr orsaf brawf SVA. Fodd bynnag, ni all eitemau ar gyfer SVA estynedig gael eu harchwilio yn yr orsaf brawf SVA, a bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth ddogfennol eich bod yn cydymffurfio fel yr esbonir isod.
|
Eitemau sy'n cael eu harchwilio yn ystod SVA |
Eitemau ychwanegol yn ystod SVA estynedig |
|---|---|
| Drysau, eu cliciedau a'u colfachau | |
| Lleihau ymyriant radio | |
| Llywio gwarchodol | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg |
| Gollyngiadau o'r egsôst | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg. Efallai y bydd angen prawf annibynnol |
| Gollyngiadau mwg (diesel yn unig) | |
| Drychau cefn | |
| Dyfeisiau atal lladron | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg. Efallai y bydd angen prawf annibynnol |
| Gwregysau diogelwch | |
| Angorfeydd gwregysau diogelwch | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math llawn neu safonau derbyniol tebyg |
| Gosod gwregysau diogelwch | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg |
| Brêcs | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg |
|
Sŵn ac offer distewi |
Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg. Efallai y bydd angen prawf annibynnol |
| Gwydr: y ffenestr flaen a ffenestri eraill ar y tu allan | |
| Seddi a'u hangorfeydd | |
| Teiars | |
| Gosodiadau tu mewn | |
| Darnau ar y tu allan | |
| Sbidomedr | |
| Sychwr a system olchi | |
| Twll tanwydd | |
| Pwysau dylunio | |
| Adeiladwaith cyffredinol y cerbyd | |
| Gollyngiadau CO2 a llosgi tanwydd (cerbydau a adeiladwyd ar ôl 1 Ionawr 1997) | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math llawn neu safonau derbyniol tebyg |
| Amddiffyn rhag gwrthdrawiad o'r tu blaen (cerbydau a adeiladwyd ar ôl 1 Hydref 2003) | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg. D.S. NI ELLIR PROFI'R CERBYD AM YR EITEM HON |
| Amddiffyn rhag gwrthdrawiad o'r ochr (cerbydau a adeiladwyd ar ôl 1 Hydref 2003) | Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg. D.S. NI ELLIR PROFI'R CERBYD AM YR EITEM HON |
Mae'r Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Estynedig (ESVA), sydd wedi'i seilio ar ofynion sylfaenol SVA, yn gorfodi safonau technegol llymach ar gerbydau a Cherbydau Nwyddau Ysgafn (LGV) sy'n cael eu mewnforio'n fasnachol a'r rheini heb gymeradwyaeth math o'r UE, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r un gofynion amgylcheddol a diogelwch sylfaenol â cherbydau tebyg sydd â chymeradwyaeth math.